Skip to main content

Cynlluniau cyffrous i ymestyn ysgol ADY yn Ynys-y-bwl wedi'u cymeradwyo

Buarth y Capel

Mae'r Cyngor bellach wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer ei fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i ymestyn safle lloeren Ysgol Tŷ Coch, Buarth-y-Capel, sydd wedi'i leoli yn Ynys-y-bwl, a'i adnewyddu. Bydd modd i staff a disgyblion yn y lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol yma gael budd o safle o'r radd flaenaf erbyn diwedd 2027.

Cafodd y cais cynllunio ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ei gyfarfod ddydd Iau, 13 Awst. Trafododd yr Aelodau'r cynlluniau, gan roi caniatâd llawn yn unol ag argymhellion y swyddogion.

Mae Buarth-y-Capel yn safle lloeren i Ysgol Tŷ Coch, un o bedair ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Cyngor. Mae'r safle'n canolbwyntio ar gynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion 14 i 19 oed sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder y Sbectrwm Awtistig difrifol neu ddwys, sydd angen darpariaeth bwrpasol y tu hwnt i feini prawf ysgol ADY gyffredinol. Byddai'r cynigion gwerth miliynau o bunnoedd yn sicrhau bod modd i'r safle presennol barhau i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion yma yn y dyfodol.

Mae'r caniatâd cynllunio yn cwmpasu adeiladu bloc addysgu annibynnol gyda chwe ystafell ddosbarth, ystafelloedd grŵp, ystafell hylendid, toiledau hygyrch, a storfa gynnal a chadw/ystafell beiriannau. Bydd yr adeilad unllawr newydd yn cyd-fynd â Safonau'r 21ain Ganrif, a bydd wedi'i leoli ar ochr ddwyreiniol yr ysgol bresennol. Bydd y ddau adeilad wedi'u cysylltu gan lwybr cerdded o dan ganopi.

Bydd y gwaith cysylltiedig yn cynnwys darparu paneli ffotofoltäig ar y to sy'n wynebu'r de, ardal chwarae meddal, maes parcio newydd â 18 lle i'r gogledd o'r safle gyda phedwar bae hygyrch, lloches feiciau â 6 bae dan do, ffens ddiogelwch newydd a gatiau rheoli mynediad. Bydd y safle'n cael ei ail-lunio i gynnwys llwybr mynediad unffordd i gerbydau, tra bydd adeilad presennol sydd ag ystafell ddosbarth ynddo yn cael ei dynnu i lawr.

Cafodd y cynigion cychwynnol eu rhannu â'r gymuned yn gynharach eleni, gan gynnwys mewn achlysur wyneb yn wyneb yn yr ysgol ddechrau mis Chwefror 2026, lle bu'r garfan yn egluro'r cynigion ac yn ateb cwestiynau. Helpodd yr holl adborth a ddaeth i law yn ystod y gwaith ymgysylltu yma i lunio'r cais cynllunio terfynol.

Wrth argymell y cais i'w gymeradwyo, nododd y swyddogion y byddai'r adeilad newydd yn darparu cyfleuster ADY 'Carbon Sero-Net ar waith' y mae galw mawr amdano. Bydd hyn yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol sy'n gysylltiedig â'r cynnydd yn nifer y disgyblion yn Rhondda Cynon Taf sydd angen lleoliadau ADY.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi y byddai'r adeilad yn fodern ac yn ddeniadol o ran dyluniad.  Byddai tirluniad y safle yn gwella'r amgylchedd o amgylch yr ysgol, tra byddai'r diwygiadau arfaethedig yn gwella'r mesurau rheoli traffig o fewn safle'r ysgol a'r cyffiniau, yn ogystal â threfniadau parcio'r ysgol.

Mae'r buddsoddiad yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. EPT yw'r pensaer sydd wedi'i benodi i ddylunio'r adeilad, a Knox and Wells yw'r contractwr penodedig a fydd yn cyflawni'r gwaith adeiladu. Mae sicrhau caniatâd cynllunio yn garreg filltir allweddol o ran nesáu at gam adeiladu'r prosiect.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:  “Mae’n newyddion gwych bod y buddsoddiad mawr ar gyfer safle lloeren Buarth-y-Capel wedi sicrhau caniatâd cynllunio. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen â'r prosiect. Rydyn ni'n effro i'r ffaith bod nifer y disgyblion sydd angen lle mewn ysgol ADY wedi cynyddu, ac rydyn ni'n rhagweld y bydd y cynnydd yma'n tyfu ymhellach wrth i anghenion disgyblion gymhlethu. Dyma pam ein bod ni'n buddsoddi mewn ysgolion ADY ledled y Fwrdeistref Sirol, gyda phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau yn garreg filltir allweddol wrth wireddu ein nodau ar gyfer Ynys-y-bwl a'r cymunedau cyfagos.

“Mae’r safle lloeren ym Muarth-y-Capel eisoes wedi elwa ar ystafelloedd wedi’u hadnewyddu a mannau therapi arbenigol newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’r bloc newydd sydd ar y gweill. Bydd y Cyngor hefyd yn agor ei bumed ysgol ADY cyn bo hir, wrth i'r gwaith ar safle newydd Ysgol Cambrian yng Nghwm Clydach fynd rhagddo'n dda. Mae disgwyl i'r ysgol agor yn ystod tymor yr hydref 2026/27. Yn y cyfamser, agorodd estyniad gwerth £1.5 miliwn yn Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghwmdâr ym mis Medi 2025, gan ddarparu cyfleusterau newydd a mannau modern. Yn ogystal â hynny, agorodd lleoliad ADY Blynyddoedd Cynnar newydd yn Nhonyrefail.

“Datblygiad Buarth-y-Capel fydd y prosiect diweddaraf i gael ei gyflawni ar y cyd â Llywodraeth Cymru, sydd â hanes rhagorol o gydweithio â ni.” Cafodd y swm enfawr o £79.6 miliwn ei fuddsoddi mewn pedair o'n hysgolion prif ffrwd yn Ardal Ehangach Pontypridd yn 2024 a 2025, a chafodd adeiladau newydd sbon eu codi yn ardaloedd Pont-y-clun, Llantrisant, Pentre'r Eglwys a Glynrhedynog. Rydyn ni nawr yn symud ymlaen i'r gyfran nesaf o fuddsoddiadau mewn ysgolion, o dan ymrwymiad cyllido o £414 miliwn gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys y gwaith ar safle Ysgol Cambrian ac Ysgol Glyn-Coch dros y misoedd i ddod, a buddsoddiadau yn Ysgol Cwm Rhondda ac Ysgol Llanhari yn y dyfodol.

“Bydd swyddogion nawr yn datblygu prosiect Buarth-y-Capel ymhellach, gan edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith adeiladu ar y safle. Bydd hyn yn cynnwys gweithio'n agos iawn gyda'n contractwr a'r ysgol, er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith yn tarfu'n ormodol ar ddysgu'r disgyblion. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi diweddariad maes o law er mwyn amlinellu dechrau'r gwaith. Hoffwn ddiolch i drigolion Ynys-y-bwl am eu cydweithrediad, ynghyd â chymuned ehangach yr ysgol a ddaeth i'n sesiwn ymgysylltu yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn ein helpu ni lunio'r cynlluniau terfynol.”

Cewch chi weld rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad sylweddol parhaus y Cyngor mewn Addysg ar dudalennau gwe #TrawsnewidRhCT 

Wedi ei bostio ar 20/08/2026