Skip to main content

Sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd i Lido Ponty

Square-Cold-Water-Swim

Rydych chi wedi gofyn – rydyn ni wedi gwrando! 

Yn ôl ar ôl galw mawr, bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd i Lido Ponty bob penwythnos rhwng dydd Sadwrn, 24 Ionawr, a dydd Sul 1 Mawrth. Tymheredd y pwll fydd 15 gradd.

Bydd tocynnau'n mynd ar werth nawr.

Roedd y sesiynau nofio mewn dŵr oer wedi denu ymwelwyr o ledled y DU'r llynedd. Maen nhw'n dychwelyd yn dilyn sesiynau nofio dathlu Gŵyl San Steffan a Dydd Calan llwyddiannus yn y cyfleuster poblogaidd, a chafodd pob tocyn ei werthu unwaith yn rhagor yn 2025.

Bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn nodi dechrau tymor 2026, a byddan nhw’n cael eu cynnal tan 1 Mawrth. Bydd Lido Ponty yna'n ailagor cyn y prif dymor adeg y Pasg.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emmanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, gan gynnwys Lido Ponty: "Roedd y llynedd yn flwyddyn nodedig ar gyfer Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, am ei bod yn nodi 10 mlynedd ers i'r atyniad poblogaidd ailagor ei ddrysau yn dilyn gwaith ailddatblygu gwerth £6.3 miliwn ar y lido gwreiddiol, sydd wedi bod ym Mharc Coffa Ynysangharad ers 1927.

"Hyd heddiw, mae bron i 900,000 o nofwyr wedi mwynhau'r pyllau awyr agored hardd, mewn sesiynau sy'n cynnwys sesiynau nofio mewn dŵr oer, sesiynau nofio ben bore, sesiynau nofio hamddenol yn ystod y dydd, sesiynau hwyl i'r teulu, ac wrth gwrs, sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan, sy'n boblogaidd iawn.

"Bydd yr hwyl yn parhau yn 2026 wrth i ni groesawu nofwyr i'r sesiynau nofio mewn dŵr oer, sy'n ffordd berffaith i ymlacio. Mae'r sesiynau ar agor i bawb sy'n 16 oed a hŷn a chewch chi aros cyhyd ag y dymunwch chi.

"P’un a ydych chi eisiau nofio drwy gydol y sesiwn gyfan, neu fynd i mewni’r pwll ac allan sawl gwaith, mae croeso i chi wneud beth bynnag yr hoffech chi’i wneud. Mae croeso i chi wisgo siwt wlyb, hetiau, menyg ac esgidiau nofio.

"Mae therapi dŵr oer yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd i nifer, ac mae'r sesiynau yn Lido Ponty, ar safle trawiadol Parc Coffa Ynysangharad yn gyflwyniad gwych i hynny.

"Yn ogystal â hyn, mae'r cawodydd ac ystafelloedd newid yn gynnes braf, ac mae digonedd o gaffis a bwytai ym Mhontypridd lle mae modd i chi fwynhau diod boeth neu fyrbryd yn dilyn eich sesiwn.

"Dyma'r flwyddyn y bydd y Safle Seindorf eiconig ym Mharc Coffa Ynysangharad yn dathlu ei ganmlwyddiant a bydd Lido Ponty yn helpu â'r dathliadau, cyn paratoi ar gyfer dathliadau ei ganmlwyddiant ei hun yn 2027!"

Mae modd i chi brynu tocynnau ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer yma: www.lidoponty.co.uk

Telerau ac amodau mynediad

  • Mae'n rhaid i gwsmeriaid sydd eisiau cadw lle ar gyfer sesiwn nofio mewn dŵr oer fod yn 16 oed neu'n hŷn, a hynny am resymau iechyd a diogelwch.
  • Mae modd prynu tocynnau ymlaen llaw drwy fynd i www.lidoponty.co.uk
  • Bydd raid i bob nofiwr arwyddo taflen ymwrthodiad cyn iddyn nhw ddechrau ar y sesiynau nofio.
  • Rhaid i gwsmeriaid gadw at y rheolau ynglŷn â defnyddio'r pwll ar bob adeg.
  • Mae alcohol wedi'i wahardd o Lido Ponty, ac ni fydd unrhyw un sy'n ymddangos i fod dan ddylanwad alcohol yn cael mynd i mewn i'r adeilad.
  • Does dim modd trosglwyddo tocynnau na chael ad-daliad amdanyn nhw.
  • Caiff aelod o garfan rheoli Lido Ponty wahardd mynediad i unrhyw un ar unrhyw adeg.
  • Efallai bydd y telerau ac amodau yn newid ar unrhyw adeg a heb rybudd.
Wedi ei bostio ar 23/01/2026