Skip to main content

Trefniadau bws ar gyfer gwaith prif bibell nwy sydd ar y gweill yn Aberdâr

temporary-bus-arrangements_WELSH

Bydd bws gwennol dros dro yn cael ei ddarparu yn #Aberdâr dros yr wythnosau nesaf, gan ddechrau o 28 Gorffennaf - yn ystod gwaith Wales and West Utilities i osod prif bibell nwy newydd ar Heol Abernant.

Er mwyn hwyluso'r gwaith yma rhwng 28 Gorffennaf a 31 Awst, dim ond i un cyfeiriad yn unig y bydd modd teithio ar y rhan o'r ffordd rhwng Cylchfan Aber-nant a Chylchfan yr Ynys, sef o gyfeiriad Cylchfan Aber-nant i Gylchfan yr Ynys.

Bydd angen i draffig sy'n teithio i gyfeiriad Aber-nant ddilyn y dargyfeiriad ar hyd yr A4059, Cylchfan Heol y Depo (Tesco), Cylchfan Stryd Meirion (Tresalem) a Stryd Wellington. Mae'r trefniadau un cyfeiriad a llwybr amgen i fodurwyr i'w gweld ar y map canlynol.

Mae Wales and West Utilities wedi rhoi gwybod na fydd mynediad ar gael i'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i eiddo.

Tra bydd y ffordd ar gau am gyfnod o fis, bydd bws gwennol AM DDIM (dydd Llun i ddydd Sadwrn) gan gwmni Keepings Coaches ar gael i drigolion lleol ei ddefnyddio.

Bydd y bws gwennol yn teithio rhwng Gorsaf Fysiau Aberdâr, Tesco Aberdâr, Tresalem, campws Aberdâr Coleg y Cymoedd, Llys yr Ysgol a’r depo bysiau ar Heol y Gamlas, ac Asda Aberdâr.

Bydd y bws yn gweithredu bob awr rhwng 7.55am a 4.55pm o Orsaf Fysiau Aberdâr, a rhwng 8.15am a 5.15pm o Asda Aberdâr. Mae modd i chi ddod o hyd i amserlen lawn y bws gwennol, yma.

Diwrnod olaf y gwasanaeth fydd dydd Sadwrn, 29 Awst (fydd dim gwasanaeth ar ddyddiau Sul nac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 31 Awst).

Bydd y bws gwennol dros dro ar gael ochr yn ochr â gwasanaeth 113 Stagecoach sydd wedi'i ailgyfeirio a fydd yn teithio trwy Aber-nant wrth iddo ddychwelyd o Gwm-bach, a bydd y daith gynnar ar Wasanaeth 1 o Aber-nant (6.50am) yn parhau yn ôl yr arfer.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma gan Wales and West Utilities.

Wedi ei bostio ar 23/07/2026