Skip to main content

Tocynnau rhatach yn Theatrau RhCT yr Haf yma!

vat reduction

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu menter Arbedion Haf Prydain Fawr ("Great British Summer Savings") Llywodraeth y DU. Yn rhan o'r cynllun yma, bydd y Llywodraeth yn gostwng TAW ar ystod eang o weithgareddau i'r teulu, gan helpu trigolion i fwynhau diwrnodau allan i'r teulu mwy fforddiadwy ledled y Fwrdeistref Sirol yr haf yma.

O 25 Mehefin i 1 Medi 2026, bydd costau TAW ar atyniadau cymwys, gan gynnwys tocynnau theatr, cyngherddau, sioeau a lleoliadau eraill sy'n addas i deuluoedd, yn cael ei ostwng o 20% i 5%, ochr yn ochr ag arbedion ar brydau i blant a gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i hybu fforddiadwyedd i deuluoedd.

Bydd y fenter yn cefnogi lleoliadau diwylliannol lleol, gan gynnwys Theatr y Parc a'r Dâr, Theatr y Colisëwm, ac atyniadau eraill yn ein cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, gan annog trigolion ac ymwelwyr i ailddarganfod yr hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig!

Dywedodd y Cynghorydd Scott Emanuel, yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Hamdden, Twristiaeth a Diwylliant:
“Bydd y fenter yma'n ei gwneud hi’n haws i deuluoedd fwynhau amser gyda’i gilydd yn ystod gwyliau’r haf. Bydd prisiau tocynnau is ar gyfer theatrau ac atyniadau lleol yn helpu mwy o bobl i brofi'r hyn sydd gyda ni i'w gynnig yma yn Rhondda Cynon Taf.

“Mae ein theatrau a’n lleoliadau yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, nid yn unig o ran darparu adloniant, ond o ran cefnogi swyddi, busnesau lleol a'r economi ymwelwyr ehangach.

“Mae gan Theatrau RhCT amrywiaeth wych o sioeau i’r teulu cyfan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bwrw golwg ar yr hyn sydd ar gael.”

Cliciwch ar y ddolen yma i ddysgu rhagor: https://rct-theatres.co.uk/cy/

Mae cynllun Llywodraeth y DU wedi'i gynllunio i leddfu'r pwysau costau byw y mae trigolion yn eu hwynebu yn ogystal â chefnogi busnesau sy'n dibynnu ar ymwelwyr yn ystod yr haf.

Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ei wasanaethau diwylliannol a hamdden, gan sicrhau profiadau hygyrch ac o ansawdd uchel i bobl o bob oed a bydd yn gweithio gyda phartneriaid a lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol i hyrwyddo'r gwasanaethau yma a sicrhau bod trigolion yn effro i'r arbedion sydd ar gael.

Wedi ei bostio ar 23/07/2026