Skip to main content

Mae'r Cyngor yn Cyflwyno Llinell Gymorth Newydd i Gyn-filwyr

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno Llinell Gymorth newydd i Gyn-filwyr er mwyn darparu cymorth pwrpasol i gyn-filwyr ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r llinell gyngor newydd bellach ar waith ac mae modd i chi ffonio'r gwasanaeth ar 01443 425 020, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5pm. Bydd Canolfan Alwadau'r Cyngor yn ateb eich galwad ac yna'n eich trosglwyddo chi i'r swyddog cymorth mwyaf priodol.

Yn ogystal â'r llinell ffôn, mae modd cyrchu ffurflen atgyfeirio ar-lein bob awr o'r dydd. Bydd y ffurflen yma'n caniatáu i gyn-filwyr neu rywun sy'n eu cefnogi geisio cymorth ar unrhyw adeg: Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ers cyflwyno'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn 2019, mae'r Cyngor wedi parhau i ychwanegu at y cymorth sydd ar gael yn lleol. Cyflwyno'r llinell gymorth yma yw'r cam nesaf yn rhan o'r gwaith hwnnw, gan ei gwneud hi'n haws i gyn-filwyr fanteisio ar gyngor, gwybodaeth a chymorth pan fyddan nhw eu hangen.

Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod modd i gyn-filwyr fanteisio ar wybodaeth a chymorth ar draws amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys tai, cyflogaeth, addysg, Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac atgyfeiriadau at sefydliadau eraill lle byddai modd iddyn nhw fanteisio ar gymorth arbenigol.

Er bod y llinell yn bennaf ar gyfer cyn-filwyr, bydd modd i gymuned ehangach y Lluoedd Arfog fanteisio ar y gwasanaeth, yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae hyn yn cynnwys personél sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, milwyr wrth gefn ac aelodau o'u teuluoedd, gan gynnwys teuluoedd sydd wedi wynebu profedigaeth.

Mae'r fenter yma'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella gwasanaethau ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog. Tynnir sylw ati hefyd yn rhan o ymgyrch ehangach y Cyngor, sef Trawsnewid RhCT, sy'n dangos sut mae gwasanaethau, cyfleusterau a chymorth yn cael eu gwella ar gyfer trigolion ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r llinell gyngor newydd yn ei gwneud hi'n haws i gyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd gael mynediad at gymorth wedi'i deilwra.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi ein cyn-filwyr a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog, a bydd y llinell gyngor newydd yma'n ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at y cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen arnyn nhw.

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth cywir weithiau, felly mae cael un pwynt cyswllt amlwg yn gam pwysig i'r cyfeiriad cywir. P'un a oes angen cyngor gan y Cyngor neu gymorth gan sefydliad arall ar rywun, bydd y Llinell Gyngor i Gyn-filwyr yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu cyfeirio i'r lle cywir.

“A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n parhau i ymrwymo i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg ac nad ydyn nhw'n wynebu anfantais wrth ddefnyddio gwasanaethau lleol.”

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018 – symbol o barch cyffredin rhwng cymunedau bywyd sifil a'r Lluoedd Arfog.

Yn 2017, derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ein cefnogaeth barhaus o gymuned y Lluoedd Arfog. Cadwodd y Cyngor y wobr unwaith eto yn 2022 wedi cyflwyno'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr wrth Gefn.

Mae Llinell Gyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 01443 425 020 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein i gael cymorth: Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 10/07/2026