Skip to main content

Dadorchuddio Cerflun Coffaol Olaf o Gymraes yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Elizaeth Andrews and tour guidesrs1

Dadorchuddiwyd y pumed cerflun a'r cerflun olaf ym mhrosiect arloesol Monumental Welsh Women ddydd Iau 25 Mehefin yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Roedd hyn yn nodi uchafbwynt ymgyrch pum mlynedd i ddathlu bywydau a chyflawniadau menywod nodedig Cymru trwy godi cerfluniau cyhoeddus.  

Mae'r gofeb ddiweddaraf yn anrhydeddu Elizabeth Andrews OBE (1882–1960), un o ymgyrchwyr gwleidyddol mwyaf dylanwadol Cymru ddechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd Andrews yn swffragydd, yn sosialydd ac yn hyrwyddwr menywod dosbarth gweithiol, a chysegrodd ei bywyd i wella bywydau menywod, plant a theuluoedd glofaol ledled Cymru. Cafodd ei geni i deulu glofaol a bu'n rhaid iddi adael yr ysgol yn ifanc, daeth yn Drefnydd Menywod cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru a chwaraeodd ran allweddol mewn ymgyrchoedd dros iechyd y cyhoedd, gofal plant, addysg a baddonau pen pwll i lowyr.

Mae'r cerflun, sydd wedi'i greu gan y cerflunydd clodwiw Billie Bond, yn coffáu ymgyrchu diflino Andrews ar ran cymunedau glofaol a'i hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol. Mae'r gofeb wedi'i lleoli'n briodol yn hen Lofa Lewis Merthyr, sydd bellach yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, safle sydd â chysylltiadau dwfn â'r cymunedau diwydiannol y bu'n eu gwasanaethu.

Dechreuodd y seremoni ddadorchuddio y tu allan i'r amgueddfa gyda pherfformiad gan Fand Pres Markham a'r Cylch, yna cafwyd croeso a chyflwyniadau dan arweiniad Helen Molyneux o brosiect Monumental Welsh Women. Rhoddodd Helen araith hefyd yn myfyrio ar arwyddocâd prosiect Monumental Welsh Women ac etifeddiaeth barhaus Elizabeth Andrews.

Yna clywodd y gwesteion gan y cerflunydd Billie Bond, a siaradodd am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r gwaith celf a'r broses o ddod â stori Andrews yn fyw.

Daeth cyfraniad gwefreiddiol gan Melinda Hawthorne, hen-hen-nith Elizabeth Andrews, a rannodd fyfyrdodau personol ar fywyd Elizabeth Andrews, ei chyflawniadau a'i dylanwad parhaus ar genedlaethau o fenywod. Yn dilyn ei sylwadau, ymgasglodd aelodau o deulu Andrews wrth ymyl y cerflun cyn y dadorchuddio swyddogol.

Ymunodd Cynghorydd Cymuned Hirwaun a Phenderyn, Eryl O’Neill, a chwaraeodd ran allweddol yn gwireddu’r prosiect, â darlleniad barddoniaeth grŵp o’r gerdd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Traddodwyd areithiau eraill gan Jane Hutt a Heledd Fychan AS, Gweinidog Diwylliant, a bwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod cyflawniadau menywod yn weladwy ac yn cael eu dathlu ym mannau cyhoeddus Cymru.

Mae cerflun Elizabeth Andrews yn cwblhau menter Monumental Welsh Women, sydd eisoes wedi anrhydeddu Betty Campbell, Elaine Morgan, Cranogwen a'r Arglwyddes Rhondda. Sefydlwyd y prosiect i fynd i'r afael â'r diffyg hanesyddol o gerfluniau yn coffáu menywod go iawn Cymru, ac i sicrhau bod modd i genedlaethau'r dyfodol weld eu straeon yn cael eu cynrychioli yn y dirwedd genedlaethol.

Mae'r cerflun yn darlunio Elizabeth Andrews yn sefyll ar faddon tun wyneb i waered — cyfeiriad pwerus at ei hymgyrch lwyddiannus dros gael baddonau pen pwll, a drawsnewidiodd fywyd bob dydd mewn cymunedau meysydd glo drwy gael gwared ar y baich caled a pheryglus ar fenywod i olchi glowyr gartref. Mae hi'n dal papurau yn ei llaw, yn symboleiddio ei rôl fel trefnydd, ymgyrchydd ac eiriolwr a gymerodd leisiau menywod dosbarth gweithiol i sefydliadau gwleidyddol. Mae arwyddair enwog Andrews, "Educate, Agitate, Organise", wedi'i ymgorffori yn y gwaith celf, gan adlewyrchu'r egwyddorion a arweiniodd ei gweithredaeth drwy gydol ei hoes. Mae plentyn ifanc yn eistedd wrth ei thraed, yn cynrychioli'r cenedlaethau o blant a gafodd fywydau gwell oherwydd ei gwaith ar les, iechyd ac addysg. Mae hefyd yn gwasanaethu fel atgof o'i chred bod cynnydd cymdeithasol yn dechrau gyda chyfleoedd i deuluoedd a chymunedau.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:

Roedd hi'n fraint croesawu'r pumed a'r olaf o gerfluniau Monumental Welsh Women i Rondda Cynon Taf. Neilltuodd Elizabeth Andrews ei bywyd i wella cyfleoedd ac amodau byw i fenywod, plant a theuluoedd glofaol ledled ein cymunedau. Mae'n gwbl briodol, felly, fod ei chyflawniadau bellach yn cael eu cydnabod yn barhaol yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Mae'r prosiect rhyfeddol yma wedi tynnu sylw at fenywod y mae eu cyfraniadau wedi cael eu hanwybyddu'n rhy aml, gan ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddysgu rhagor am y bobl a helpodd i lunio Cymru fodern. Mae gwaddol Elizabeth Andrews o ddewrder, penderfyniad a chyfiawnder cymdeithasol yn parhau i atseinio heddiw, ac rydyn ni'n falch bod pennod olaf stori Monumental Welsh Women wedi'i datgelu yma yng nghymoedd y Rhondda.

Mae cerflun Elizabeth Andrews bellach i'w weld gan y cyhoedd yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, lle mae modd i ymwelwyr ddysgu rhagor am ei bywyd a'i hetifeddiaeth ryfeddol. Mae'r amgueddfa ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn ac mae'n cynnig teithiau ac arddangosfeydd tanddaearol sy'n archwilio hanes diwydiannol, diwylliannol a chymdeithasol cyfoethog Cymoedd De Cymru. Mae modd i ymwelwyr gadw lle ar deithiau tywys a chael rhagor o wybodaeth yma.

Wedi ei bostio ar 06/07/2026