Mae siop yn Aberdâr wedi'i gorfodi i GAU ar unwaith yn dilyn ymchwiliad llwyddiannus gan garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Cafodd Gorchymyn Cau am DRI MIS ei gyflwyno i gwmni AVB (ABER) Limited, sy'n masnachu fel Best Vape, wedi'i leoli yn 34 Sgwâr Fictoria, Aberdâr, CF44 7LB, ar 24 Mehefin 2026, a hynny o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Rhoddwyd y Gorchymyn Cau yn Llys Ynadon Merthyr Tudful yn dilyn ymchwiliad helaeth i achosion o werthu fêps, sigaréts a chynhyrchion tybaco rholio â llaw yn anghyfreithlon o'r safle.
Nod y camau gweithredu yw anfon neges glir i fusnesau ledled Rhondda Cynon Taf na fydd cyflenwadau anghyfreithlon o fêps a chynhyrchion tybaco yn cael ei oddef.
Dros gyfnod yr ymchwiliad, derbyniodd swyddogion Safonau Masnach DDEUDDEG cwyn yn ymwneud â'r safle, gan gynnwys PUM adroddiad yn honni bod gweithwyr wedi gwerthu fêps i blant dan oed. Derbyniwyd PUM adroddiad cudd-wybodaeth arall gan asiantaethau partner.
Roedd yr adeilad hefyd wedi bod yn destun nifer o ymweliadau gorfodi. Cafodd fêps, sigaréts a chynhyrchion tybaco rholio â llaw eu hatafaelu ar DDAU achlysur ar wahân, tra bod doliau Labubu ffug hefyd wedi cael eu hildio'n wirfoddol yn ystod ymweliad arall.
Cynhaliodd swyddogion Safonau Masnach WYTH pryniant prawf ar y safle, gyda sigaréts anghyfreithlon neu gynhyrchion tybaco rholio â llaw yn cael eu gwerthu ar BOB achlysur.
Er gwaethaf derbyn cyngor ac arweiniad gan swyddogion Safonau Masnach ynghylch ei rwymedigaethau cyfreithiol, parhaodd y busnes i fasnachu'n anghyfreithlon.
Clywodd y llys fod gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon am bris rhad yn cael effaith andwyol ar y gymuned leol ac ar fusnesau cyfreithlon. Nodwyd hefyd fod y Cyngor wedi gorfod roi swm anghymesur o adnoddau gorfodi ar waith oherwydd y gweithgarwch anghyfreithlon parhaus ar y safle.
O ganlyniad, mae'r siop bellach wedi cau a rhaid iddi aros ar gau am gyfanswm o DRI mis.
Roedd yr ymchwiliad yn rhan o ymdrechion parhaus y Cyngor i fynd i'r afael â gwerthu fêps a chynhyrchion tybaco yn anghyfreithlon, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid gan gynnwys Heddlu De Cymru ac asiantaethau cenedlaethol lle bo'n briodol.
Mae modd i fêps anghyfreithlon gynnwys lefelau nicotin sy'n fwy na'r terfynau cyfreithiol ac mae modd iddyn nhw gynnwys sylweddau niweidiol nad ydyn nhw wedi bod yn destun y gwiriadau diogelwch trylwyr sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchion cyfreithiol. Yn yr un modd, mae cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn osgoi rheoliadau diogelwch a phecynnu pwysig ac yn aml yn rhan o weithgarwch troseddol ehangach.
Mae hyn yn dangos bod swyddogion Safonau Masnach yn monitro busnesau'n weithredol ledled y Fwrdeistref Sirol a BYDDAN NHW'N cymryd camau lle caiff gweithgarwch anghyfreithlon ei nodi.
Meddai Rhian Hope, Cyfarwyddwr Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Mae'r Gorchymyn Cau yma'n dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â gwerthu fêps a chynhyrchion anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf.
"Er gwaethaf ymyrraeth, cyngor a chamau gorfodi dro ar ôl tro gan ein carfan Safonau Masnach, parhaodd y busnes yma i gymryd rhan mewn gweithgarwch anghyfreithlon. Dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r llys yn glir raddfa a pharhad y drosedd.
"Mae gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon yn tanseilio busnesau cyfreithlon, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd, ac mae modd iddo gyfrannu at droseddu ehangach yn ein cymunedau.
"Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion ac asiantaethau partner a fu'n rhan o'r ymchwiliad yma. Mae eu hymroddiad a'u dyfalbarhad wedi arwain at gymryd camau pendant i amddiffyn y gymuned leol ac mae'n anfon neges glir y bydd masnachwyr anghyfreithlon yn cael eu dwyn i gyfrif.
"Bydd y garfan Safonau Masnach yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn busnesau sy'n torri'r gyfraith, ac rydyn ni'n annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch gweithgarwch masnachu anghyfreithlon."
Mae'r garfan Safonau Masnach ymroddedig yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio ystod eang o dechnegau gorfodi i nodi busnesau sy'n cyflenwi cynhyrchion anghyfreithlon, gan gydweithio'n agos â phartneriaid ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Os oes gan y cyhoedd unrhyw wybodaeth ynghylch pobl sydd, yn eu barn nhw, yn ymwneud o bosib â gweithgarwch masnachu anghyfreithlon, mae modd iddyn nhw roi gwybod am eu pryder i'r garfan Safonau Masnach yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r Ffurflen Ar-lein ynghylch Gweithgarwch Anghyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
Wedi ei bostio ar 28/07/2026