Skip to main content

Lansio Haf o Ddarganfod yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Summer of Discovery cy mainrs1

Ymunwch â ni ar gyfer Rhaglen Haf o Ddarganfod yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda!

Dyma raglen llawn hwyl sy'n cael ei chynnal yn ystod gwyliau'r haf (hyd at 27 Awst) gan gynnig diwrnodau llawn hwyl a fforddiadwy i deuluoedd gyda phob gweithgaredd wedi'i ysbrydoli gan dreftadaeth gyfoethog, gwyddoniaeth a straeon Cymoedd De Cymru.

Byddwn ni'n trafod thema newydd sy'n addas i ymwelwyr o bob oed bob wythnos gan gynnig sesiynau crefftau, llwybrau a llawer yn rhagor. Dyma'r achlysuron sydd ar y gweill gyda ni yn ystod gwyliau'r haf: 

  • Wythnos y Gofod (dydd Mawrth, 11 Awst a dydd Iau, 13 Awst). Dyma gyfle i ddysgu am ddyfodol mwyngloddio yn y gofod drwy adeiladu roced, gweithgareddau'n ymwneud â'r lleuad a sioe wyddoniaeth ryngweithiol. Rhaid cadw lle ar wahân ar gyfer y sioeau yma, dim ond i blant y codir tâl ychwanegol.
  • Wythnos Brenin Glo (dydd Mawrth, 18 Awst a dydd Iau, 20 Awst). Dyma gyfle i ddysgu am y diwydiant a luniodd y rhanbarth, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a chael mynediad at arteffactau go iawn yn ymwneud â'r diwydiant glo.

Wythnos Bwystfilod Bach (dydd Mawrth, 25 Awst a dydd Iau, 27 Awst). Dyma gyfle i archwilio'r bywyd gwyllt sydd bellach yn ffynnu ar hen safleoedd meysydd glo trwy hela bwystfilod bach, cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a dysgu amgylcheddol.

 

Bydd modd cymryd rhan yn sesiynau a llwybrau Haf o Ddarganfod rhwng 10am a 4pm ar bob diwrnod ac maen nhw'n costio £5 fesul plentyn. Does dim tâl i oedolion.  Mae croeso i ymwelwyr alw heibio unrhyw bryd yn ystod y dydd neu mae modd cadw lleoedd ar-lein.

Mae pob un o'r achlysuron hefyd yn cynnig sioe llawn hwyl, mae modd cadw lle ar gyfer y sioeau yma ar-lein. Pris tocyn yw £5 ar gyfer plant, a does dim tâl ar gyfer oedolion.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch ac yn fforddiadwy i deuluoedd. Mae pob sesiwn yn addas ar gyfer plant tair oed a hŷn, ond mae'n rhaid cadw lle oherwydd bod nifer cyfyngedig o leoedd ar gyfer rhai gweithgareddau.

 

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:

Mae’r Rhaglen Haf o Ddarganfod yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn gyfle gwych i deuluoedd fwynhau ystod eang o weithgareddau difyr, addysgol a fforddiadwy ar garreg eu drws. Mae'r rhaglen yn dathlu treftadaeth ac amgylchedd unigryw Cymoedd y De wrth ddarparu profiadau deniadol sy'n ysbrydoli chwilfrydedd a chreadigrwydd pobl ifainc. Rydyn ni'n falch o gynnig rhaglen mor amrywiol sy'n ei gwneud hi'n haws i deuluoedd greu atgofion parhaol gyda'i gilydd dros wyliau'r haf."

Rydyn ni'n annog teuluoedd i gadw lle ar weithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw mewn da bryd. Cadwch eich lle yma.

Wedi ei bostio ar 10/07/2026