Skip to main content

Mae'r daten bob wedi cael adfywiad annisgwyl

Ty Tatws 2

Wedi'i ysgogi gan lwyddiant feirol busnesau bwyd stryd fel 'Spud Bros' ac awydd ehangach am datws pob gyda llenwad o ffynonellau lleol, mae'r bwyd ysgol traddodiadol wedi dod yn un o'r bwydydd sy'n cael eu trafod fwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol - ac mae ysgolion Cymru yn manteisio arno.

Mae cysyniad newydd o'r enw Tŷ Tatws  yn trawsnewid ffreuturiau ysgolion uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn gweini tatws o ffynonellau lleol gyda'r math o frandio ac egni sy'n amlach yn gysylltiedig â lorïau bwyd y stryd fawr.

Mae “tai tatws” newydd sbon eisoes ar gael yn Ysgol Gymuned y Porth, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, ac mae disgyblion wedi ymateb yn gadarnhaol.

Dywed Rachel Margetts, Dietegydd Arlwyo Ysgolion Rhondda Cynon Taf, fod y cysyniad eisoes wedi newid yr awyrgylch o amgylch amser cinio disgyblion:

Roedden ni eisiau creu rhywbeth cyfoes, fforddiadwy a gwirioneddol gyffrous i bobl ifainc, rhywbeth sy'n teimlo'n fwy fel bwyd stryd na chiniawau ysgol traddodiadol, ond gan barhau i  gynnig yr opsiwn mwyaf iach posibl, meddai.  Mae'r brandio llachar, y llenwadau ffres a'r seigiau arbennig dyddiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae'r adborth hyd yn hyn wedi bod yn wych.  Dechreuon ni'r daith yma ein hunain, gan ganolbwyntio ar gynyddu faint o gynnyrch Cymreig sydd i’w gweld ar ein holl fwydlenni, ac yna daeth Larder Cymru i mewn i'n helpu i lansio'r cysyniad. Mae cefnogaeth y fenter yma wedi bod yn anhygoel. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n creu rhywbeth sy'n cefnogi ein disgyblion, cyflenwyr lleol a'r amgylchedd ehangach.

Mae Tŷ Tatws wedi'i greu i wneud i fwyta'n iach deimlo'n fwy apelgar ac mae'n cynnig prydau arbennig dyddiol a bwydlen o lenwadau sy'n cylchdroi.

Mae modd i ddisgyblion ddewis o blith ffefrynnau cyfarwydd fel ffa pob a chaws neu lenwadau mwy sylweddol fel tsili neu gyw iâr barbeciw. Mae dewisiadau llysieuol ar gael bob dydd.

Rydyn ni'n canolbwyntio ar y tatws eu hunain, yn ogystal â'r llenwadau. Mae pob taten yn cael ei thyfu yng Nghymru a'i chyflenwi gan AJ Carrington and Sons Ltd, gan deithio o fferm Gymreig i blatiau disgyblion ysgol. Mae hyn yn helpu i leihau milltiroedd bwyd, cefnogi ffermwyr lleol a chadw cynnyrch Cymru wrth wraidd pob pryd bwyd.

Mae'r syniad yn syml, ond mae'n adlewyrchu newid llawer ehangach yn y ffordd y mae'r rhanbarth yn ymdrin ag arlwyo mewn ysgolion.

Mae Tŷ Tatws hefyd yn rhan o Strategaeth Fwyd Cynaliadwy Taith Bwyd 2025–2030 RhCT, sy'n canolbwyntio ar brydau ysgol iachach, cadwyni cyflenwi cryfach yng Nghymru a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r fenter hefyd yn rhan o Gysyniad Bwyd Stryd ehangach Larder Cymru, a lansiwyd yn gynharach eleni i ddod â phrofiadau bwyta modern, cyflym i ysgolion uwchradd ledled Cymru. Yn hytrach na gofyn i ddisgyblion addasu i fformatau ffreutur traddodiadol, nod y prosiect yw bodloni eu gofynion nhw, gyda bwyd sy'n teimlo'n gyfoes, yn gyfleus ac yn apelgar, wrth ddal i fodloni safonau maethol uchel.

Mae David Wylie, Rheolwr Prosiect ym Menter Môn, yn credu bod Tŷ Tatws yn dangos sut mae modd i fwyd ysgol fod yn ymarferol ac yn ysbrydoledig:

Y nod yw ei gwneud hi'n haws i ddisgyblion ddewis bwyd iach. Pan maen nhw'n gweld rhywbeth ffres, lliwgar sydd o ansawdd uchel, maen nhw'n llawer mwy tebygol o'i ddewis, meddai.  Mae Tŷ Tatws yn dangos sut y mae modd i gynnyrch Cymreig syml ddod yn gynnig bwyd stryd cryf wrth gefnogi cadwyni cyflenwi lleol a ffermwyr Cymru. Mae'n syniad syml, ond mae'n un sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:


Mae Tŷ Tatws yn enghraifft wych o sut mae modd i ni ailddychmygu prydau ysgol i adlewyrchu chwaeth a disgwyliadau ein pobl ifainc yn well, gan barhau i flaenoriaethu iechyd, cynaliadwyedd a chaffael lleol. Drwy gyfuno cynnyrch Cymreig o ansawdd uchel â dull ffres a modern, rydyn ni'n gwneud bwyd maethlon yn fwy deniadol a hygyrch. Mae'n galonogol gweld ymateb mor gadarnhaol gan ddisgyblion, ac mae'r fenter yma'n dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi lles disgyblion.

 

Gyda momentwm cynnar cryf, mae Tŷ Tatws yn dathlu cynnyrch Cymreig, gan gefnogi cymunedau lleol. Er bod y daten bob wedi bod yn bryd cyfarwydd ers tro, mae hi'n prysur ddod yn un o'r dewisiadau mwyaf poblogaidd ar fwydlen ysgolion Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Prydau Ysgol Ysgolion Uwchradd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 01/07/2026