Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir yn rhan o gynllun lliniaru llifogydd mawr yn ardal Heol Caerdydd a Lôn Maesyffynnon, Aberaman, yn dilyn cais llwyddiannus y Cyngor am gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cynllun gwerth £1.75 miliwn yn helpu i leihau perygl llifogydd yn yr ardal leol drwy gynyddu capasiti'r rhwydwaith draenio yn nalgylch Heol Caerdydd a Lôn Maesyffynnon.
Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu pwll newydd sy'n dal dŵr glaw ychwanegol yn ystod cyfnodau o law trwm. Bydd system ddraenio newydd hefyd yn cael ei gosod i sicrhau bod modd i’r system ddraenio leol ymdopi yn ystod tywydd garw.
Bydd y cynllun yn helpu i ddarparu gwell amddiffyniad i'r gymuned leol, gan gynnwys 56 eiddo preswyl a 3 eiddo masnachol.
Bydd y contractwr sydd wedi’i benodi, Centregreat, yn dechrau'r gwaith yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 13 Gorffennaf, 2026. Mae disgwyl i'r cynllun bara tua 12 mis.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynnal ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Dydy'r tir yma ddim ar agor i'r cyhoedd. Fodd bynnag, bydd angen cynnal rhywfaint o waith ar Lôn Maesyffynnon.
Bydd goleuadau traffig dros dro ar waith tra bod y gwaith yn mynd rhagddo. Dyma ddiolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE – Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf:
“Mae’r cynllun pwysig yma'n nodi’r cam nesaf yn ein gwaith sy’n mynd rhagddo i leihau perygl llifogydd yng nghymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.
“Mae ardal Heol Caerdydd a Lôn Maesyffynnon wedi’i nodi fel lleoliad â blaenoriaeth i’r Cyngor. Bydd y buddsoddiad yma, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cyflawni gwelliannau draenio pwysig i helpu i amddiffyn cartrefi, busnesau a seilwaith lleol.
“Er y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gynnal i ffwrdd o ardaloedd sy'n cael eu defnyddio gan y cyhoedd, bydd rhywfaint o waith yn cael ei gynnal ar Lôn Maesyffynnon, gan gynnwys defnyddio goleuadau traffig dros dro yn ôl yr angen. Rydyn ni'n gwerthfawrogi ei bod hi’n bosibl y bydd y gwaith yn tarfu ar y gymuned yn y tymor byr, a dyma ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd tra bod y cynllun pwysig yma'n cael ei gyflawni.”
Bydd y Cyngor yn parhau i rannu’r newyddion diweddaraf wrth i'r cynllun fynd rhagddo.
Wedi ei bostio ar 09/07/2026