Skip to main content

Siop Pontypridd AR GAU yn dilyn Gwerthu Tybaco Anghyfreithlon!

Mae siop ym Mhont-y-pridd wedi'i gorfodi i gau ar unwaith yn dilyn ymchwiliad llwyddiannus i weithgareddau anghyfreithlon o werthu sigaréts a chynhyrchion tybaco gan garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae Gorchymyn Cau wedi cael ei roi a'i orfodi'n llwyddiannus ym Marchnad Mini Aur, Stryd y Taf, Pontypridd, gan anfon neges glir na fydd cyflenwad anghyfreithlon o dybaco yn cael ei oddef yn y Fwrdeistref Sirol!

Ar 28 Mai 2026, rhoddwyd Gorchymyn Cau yn Llys Ynadon Merthyr Tudful o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn dilyn ymchwiliad manwl a hirfaith i'r safle.

Roedd y safle wedi bod yn destun camau monitro a gorfodi sylweddol ers mis Ebrill 2025, gyda swyddogion Safonau Masnach yn cynnal nifer o archwiliadau, ymweliadau ar sail cudd-wybodaeth a phrofion prynu.

Yn ystod yr ymchwiliad, cynhaliwyd DEG prawf prynu llwyddiannus lle gwerthwyd sigaréts nad oedden nhw'n cydymffurfio i swyddogion, yn aml am brisiau llawer is.

Hefyd, atafaelodd swyddogion bron i 100 o anweddyddion capasiti uchel anghyfreithlon yn ystod archwiliad cynnar, gan dynnu sylw at ddiffyg cydymffurfio ehangach ar y safle.

Derbyniodd y Cyngor nifer o gwynion gan y cyhoedd ynghylch gwerthu tybaco anghyfreithlon, gan atgyfnerthu pryderon ymhellach ynghylch gweithgarwch troseddol parhaus yn y siop. 

Er gwaethaf derbyn cyngor helaeth, rhybuddion, a llythyr rhoi’r gorau iddi ffurfiol, parhaodd y busnes i gyflenwi cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a dangosodd ddirmyg clir at y gyfraith a’r gymuned leol.

Awgrymodd tystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad hefyd fod cynhyrchion wedi'u cuddio'n fwriadol o fewn y safle, tacteg a ddefnyddir yn aml i osgoi cael eu canfod gan swyddogion gorfodi.

O ganlyniad i hynny, mae'r siop nawr wedi ei gorchuddio â byrddau diogelwch, a bydd hi'n aros AR GAU am gyfanswm o DRI mis.

Roedd rhywfaint o'r gweithgaredd sy'n gysylltiedig â'r achos hwn yn rhan o waith partneriaeth ehangach o dan Ymgyrch CeCe – menter genedlaethol rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol ac Adran Cyllid a Thollau ei Fawrhydi gyda'r nod o fynd i'r afael â'r fasnach tybaco anghyfreithlon.

Caiff y gwaith hwn ei wneud ochr yn ochr â phartneriaid allweddol gan gynnwys Heddlu De Cymru, gan atgyfnerthu dull amlasiantaeth cryf o fynd i'r afael â masnachu anghyfreithlon ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae hyn yn dangos bod swyddogion Safonau Masnach yn monitro busnesau'n weithredol ledled y Fwrdeistref Sirol a BYDDAN NHW'N cymryd camau lle nodir gweithgaredd anghyfreithlon – ni waeth pa mor hir y mae'n ei gymryd i gasglu'r dystiolaeth.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:

“Gobeithio bod y cau hwn yn anfon neges glir na fydd tybaco anghyfreithlon yn cael ei oddef yn Rhondda Cynon Taf.

“Roedd yr adeilad hwn yn destun gweithgarwch gorfodi dro ar ôl tro dros gyfnod hir, ac er gwaethaf rhybuddion ac ymyrraeth glir, parhaodd i dorri’r gyfraith.

“Nid yn unig y mae tybaco anghyfreithlon yn tanseilio busnesau cyfreithlon, ond mae’n aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol ehangach ac yn osgoi rheoliadau diogelwch pwysig – sy’n golygu nad yw pobl yn gwybod beth maen nhw’n ei brynu.

“Bydd ein carfan Safonau Masnach yn parhau i weithio’n ddiflino gyda phartneriaid i fynd i’r afael â masnachu anghyfreithlon ac amddiffyn ein cymunedau.”

Mae'r fasnach tybaco anghyfreithlon yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer gorfodi, gan ei fod yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd ac yn cyfrannu at weithgarwch troseddol cyfundrefnol.

Mae carfanau Safonau Masnach yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ganfod cynhyrchion anghyfreithlon, gan gynnwys gweithrediadau sy'n seiliedig ar wybodaeth a gweithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn genedlaethol.

Os oes gan aelodau o'r cyhoedd unrhyw wybodaeth am bobl sy'n ymwneud â gweithgaredd masnachu anghyfreithlon, dyma'u hannog i roi gwybod yn uniongyrchol i Safonau Masnach gan ddefnyddio'r Ffurflen Gweithgaredd Anghyfreithlon Ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach  

Wedi ei bostio ar 22/06/2026