Skip to main content

Buddsoddiad 3G yn rhoi hwb i chwaraeon ledled Rhondda Cynon Taf

ferndale

Mae buddsoddiad gwerth £10 miliwn Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn meysydd chwarae artiffisial â'r cyfleusterau sydd ynghlwm â nhw wedi ysgogi twf aruthrol o ran cymryd rhan mewn chwaraeon AC mae wedi gwireddu nod y Cyngor o ofalu bod pob trigolyn yn byw o fewn 3 milltir i gyfleuster 3G o ansawdd uchel.

Eleni, mae'n ddegawd ers i'r Cyngor lansio cynllun buddsoddi sylweddol ar gyfer disodli meysydd chwarae glaswellt – a oedd mewn cyflwr drwg ac nad oedd modd eu defnyddio mewn tywydd gwael, gyda darpariaeth 3G newydd ar gyfer y gymuned gyfan.

Yn 2018, ddwy flynedd ers dechrau'r rhaglen fuddsoddi dan sylw, daeth ansawdd a phwysigrwydd y cyfleusterau'n amlwg; arweiniodd hyn at ymrwymiad gan y Cyngor i ofalu bod pob trigolyn yn byw o fewn tair milltir i gae 3G.

Mae'r manylion ynghylch effaith bellgyrhaeddol blynyddoedd o fuddsoddi cyson, gwelliannau a gweithio mewn partneriaeth wedi'u nodi mewn adroddiad diweddar i Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r isod ymhlith y manylion dan sylw:

  • Mae cynnydd o 250% wedi bod yn niferoedd defnyddio caeau chwaraeon, yn gyffredinol
  • Mae ystod eang o gyfleoedd chwaraeon, cymdeithasol a chyfleoedd yn ymwneud ag iechyd a llesiant yn cael eu cynnig ledled cyfleusterau o'r ansawdd uchaf posibl – o gemau cynghreiriau proffesiynol i ddiwrnodau chwaraeon ysgolion, darpariaethau mynediad agored ar gyfer pobl ifainc a gwersylloedd chwaraeon.
  • Mae trigolion yn mwynhau un o'r darpariaethau cryfaf yng Nghymru o ran ystod ac ansawdd y cyfleusterau sy'n cael eu cynnig a'r pris isel am logi. O gymharu ag awdurdodau lleol cyfagos, mae oedolion yn RhCT yn talu 30% yn llai i gael mynediad at y caeau chwaraeon. Gan fod Cyngor Rhondda Cynon Taf ymhlith yr ychydig yn unig o awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n rhoi ffioedd pwrpasol ar waith ar gyfer defnyddwyr iau – mewn achosion pan fo ffi yn berthnasol, mae plant yn talu 60% yn llai na'r rheini mewn awdurdodau lleol cyfagos.
  • Ymhlith gwelliannau fydd yn cael eu gwneud i'r gwasanaeth yn y dyfodol mae: system cadw lle / llogi newydd ar y we/ar sail ap, parhau â chysylltiadau cryf gyda phartneriaid sy'n cyllido er mwyn gofalu bod modd i ragor o gyfleusterau gael eu creu, a chymorth sy'n mynd rhagddo o hyd ar gyfer grwpiau chwaraeon a chymunedol er mwyn iddyn nhw dyfu a ffynnu.
  • Byddwn yn defnyddio llwyddiant y 15 mlynedd diwethaf yn sail i strategaeth caeau chwaraeon, glaswellt, a chaeau artiffisial.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Hamdden Am Oes: "Mae hi'n ddegawd eleni ers i'r Cyngor ddechrau ei gynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer disodli meysydd chwarae glaswellt gyda darpariaeth 3G newydd a fyddai'n diwallu anghenion timau proffesiynol ond hefyd y byddai modd i'r gymuned ehangach ei defnyddio.

"Ddwy flynedd wedi dechrau'r rhaglen honno, ymrwymodd y Cyngor i ofalu y byddai pob trigolyn yn byw o fewn 3 milltir i gae 3G gan osod ei ddyhead ar gyfer y modd y byddai cyfleusterau o'r fath yn cael eu defnyddio.

"Penllanw buddsoddi sylweddol, parhaus, wedi'i gyfuno â gweithio mewn partneriaeth mewn modd arloesol yw ystod heb ei ail o gyfleusterau a gwireddu'r canlyniadau roedden ni'n gwybod oedd yn bosibl pan wnaethon ni'r ymrwymiad yn y lle cyntaf.

Mae'r caeau yma'n cael eu cynnal a'u cadw i'r safon uchaf, yn broffesiynol felly ac o ran y byd chwaraeon, a hynny er budd y clybiau a'r timau sy'n eu defnyddio; ar yr un pryd, maen nhw'n parhau i fod yn hyblyg ar gyfer yr ysgolion, darpariaethau ieuenctid, grwpiau cymunedol ac eraill sy'n eu defnyddio nhw ar gyfer diwrnodau chwaraeon, gwersylloedd chwaraeon a sesiynau eraill.

“Mae'r twf aruthrol o ran cyfraddau cymryd rhan a'r ysbrydoliaeth o ran chwaraeon y mae'r buddsoddiad wedi'u hysgogi – yn ddiweddar fe helpon ni Ysgol Afon Wen i agor Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Hoci – yn union yr hyn yr oeddem ni am ei weld wrth i ni osod ein nod yr holl flynyddoedd yn ôl. Mae'n wych nid yn unig gweld hyn yn cael ei wireddu, ond gweld y cyfleoedd chwaraeon yn ffynnu."

Yn 2018, gwnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf ymrwymiad y byddai pob trigolyn yn byw o fewn 3 milltir i gae 3G. Yr adeg honno, roedd £4 miliwn wedi'i fuddsoddi eisoes ar gyfer creu caeau newydd a gwneud gwelliannau i'r rhai oedd yn bodoli'n barod.

Ers hynny, mae'r Cyngor wedi gweithio gyda chyrff proffesiynol proffil uchel megis Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Cymru Football Foundation at ddibenion buddsoddi £4.5 miliwn pellach yn ogystal â £1 miliwn ar gyfer gwneud gwelliannau i ystafelloedd newid.

Erbyn hyn mae 15 cae 3G yn Rhondda Cynon Taf, tri chae 3G ochr fach, cae 3G dan do a thri Chae Pob Tywydd. Mae system cadw lle/llogi newydd, drwy gyfrwng AP a'r we, ar y gweill ar gyfer Medi 2026. 

 

Mae'r Cyngor yn parhau i roi cymorth i glybiau a thimau chwaraeon, grwpiau cymunedol, ysgolion, pobl broffesiynol y maes, ac eraill o ran cynnig eu cyfleusterau eu hunain, a'u gwella, datblygu timau / cynghreiriau chwaraeon a chynyddu cymryd rhan.

O glybiau'r cynghreiriau proffesiynol i ddiwrnodau chwaraeon ysgolion, darpariaeth gyda'r nos ar gyfer ieuenctid neu therapi cerdded pêl-droed, mae caeau 3G yn cael eu defnyddio gan filoedd o bobl bob blwyddyn.

Mae caeau oedd yn cael eu defnyddio gan ychydig yn unig o bobl nawr yn ffynnu, gyda phobl yn chwarae rygbi, pêl-droed, hoci a rhagor drwy gynghreiriau iau ac oedolion, darpariaeth wedi'i threfnu, ac, achlysuron mynediad agored ar gyfer y gymuned. Er enghraifft, mae 139 tîm yn chwarae pob wythnos yn yr hybiau merched ar gaeau 3G Sobell, Baglan, Abercynon a Maritime.

Yn gyffredinol, mae cynnydd o 250% wedi bod o ran defnyddio'r caeau. Cafodd cae 3G Parc y Darren yn Nglynrhedynog ei ddefnyddio 417 gwaith yn 2022/3; roedd hynny wedi cynyddu i 41,280 yn 2024/5. Cafodd cae 3G Baglan, Treherbert ei ddefnyddio 3,293 gwaith yn 2021/2 gan gynyddu i 33,600 yn 2024/5.

Mae rhagor o welliannau ar y gweill o hyd, yn eu plith; safle cadw lle/llogi newydd (fydd ar gael drwy'r we ac Ap), cryfhau perthnasoedd gyda phartneriaid buddsoddi, gwaith yn mynd rhagddo gyda chlybiau a chymdeithasau, a, rhaglenni gwaith pwrpasol ar gyfer gofalu bod caeau'n hygyrch o hyd a'u bod yn cael eu cynnal a'u cadw i'r safonau uchaf – ac yn aml- proffesiynol – y mae ar bobl eu hangen ac y maen nhw'n eu disgwyl.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch caeau 3G, cadw lle/llogi a sut y byddai modd i chi gael budd o ddefnyddio un o'r caeau yma.

Wedi ei bostio ar 23/03/2026