Skip to main content

Gweithiwr Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cyrraedd Rhestr Fer y Gwobrau Cenedlaethol

Social Worker Accolades (1)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dathlu cyflawniad un o'i weithwyr cymdeithasol, Gareth Lewis. Cyhoeddwyd ei fod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cenedlaethol 2026.

Mae'r Gwobrau, sy'n cael eu trefnu yn flynyddol gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ar draws meysydd gwaith cymdeithasol a gofal plant, gwaith chwarae a gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar. Eleni, cafodd y nifer uchaf o enwebiadau eu derbyn, gyda phanel o feirniaid arbenigol yn dewis yr wyth unigolyn sy'n cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar draws tri chategori gwobrau.

Mae Gareth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofalwn Cymru, am ei waith rhagorol yn cynorthwyo pobl sy'n wynebu'r perygl o fod yn ddigartref. Fe symudodd i Wasanaeth Arbenigol Allgymorth Tai Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau'r Cyngor yn rhan o secondiad ym mis Ionawr 2024, gan gyflawni rôl gweithiwr cymdeithasol yn rhan o'r Garfan Rhyddhau o'r Ysbyty cyn hyn.

Ers ymuno â'r garfan, mae Gareth wedi cynorthwyo 141 unigolyn sy'n wynebu'r perygl o fod yn ddigartref ac mae ei gymorth amserol, tosturiol, sy'n seiliedig ar gryfderau yn ystod argyfyngau wedi cael effaith barhaus. Yn ystod ei secondiad, roedd ei waith hefyd wedi amlygu'r angen cynyddol am gymorth arbenigol yn y maes, gan gyfrannu’n uniongyrchol at greu tair swydd gweithiwr cymdeithasol parhaus yn rhan o'r garfan.

Roedd yr enwebiad, gafodd ei gyflwyno gan sawl cydweithiwr ar draws yr Awdurdod Lleol, yn canmol dull pwyllog ac anfeirniadol Gareth a'i arddull gweithio cydweithredol. Mae ei allu i feithrin ymddiriedaeth, eirioli dros urddas a pharch, a darparu sicrwydd yn ystod sefyllfaoedd cymhleth wedi cryfhau dulliau gweithio amlasiantaethol, gan helpu i leihau nifer y lleoliadau brys ac ymyriadau mewn argyfwng ledled y rhanbarth.

Meddai rhiant person sy'n derbyn cymorth: "Mae Gareth yn eithriadol o ddibynadwy ac yn hynod gynorthwyol. Er fy mod yn gwybod ei fod yn brysur iawn, mae wir wedi bod o fudd mawr wrth helpu fy mab."

Meddai Gareth, Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael fy nghydnabod am waith y mae cynifer o bobl yn cyfrannu ato bob dydd. Mae'r enwebiad yma wir yn adlewyrchu ymroddiad fy ngharfan, ac rwyf wir wrth fy modd yn cael cydweithio gyda nhw.

"Rwyf hefyd yn falch o gael bod yn rhan o rwydwaith ehangach o bobl frwdfrydig ar draws y gwasanaethau cymorth tai yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pawb yn rhannu'r un nod - gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl drwy helpu'r rheiny sy'n wynebu digartrefedd, neu'n wynebu'r perygl o fod yn ddigartref."

Y tair gwobr sy'n cael eu penderfynu gan bleidlais gyhoeddus yw:

  1. Arweinyddiaeth Ysbrydoledig
  2. Dysgwr y Flwyddyn
  3. Gwobr Gofalwn Cymru ar gyfer Gweithwyr Gofal Rhagorol

Mae Gwobr Gofalwn Cymru yn amlygu gweithwyr gofal y rheng flaen sy'n arddangos ymrwymiad, tosturi a phroffesiynoldeb yn eu swyddi. Mae Gareth yn un o ddau sydd wedi cyrraedd rhestr fer y wobr, sy'n adlewyrchu safonau uchel y gofal sy'n cael ei ddarparu yn Rhondda Cynon Taf.

Mae cyfnod pleidleisio'r cyhoedd bellach wedi cau, a bydd enillydd o bob categori yn cael ei gyhoeddi yng Ngwobrau Cenedlaethol 2026, fydd yn cael ei gynnal ar 2 Gorffennaf yng Ngwesty'r Parkgate yng Nghaerdydd.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gyflawniad Gareth. Mae ei ymrwymiad, ei dosturi a'i arweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i drigolion sy'n wynebu digartrefedd, neu'n wynebu'r perygl o fod yn ddigartref ledled y Fwrdeistref Sirol.

"Mae cyrraedd y rhestr fer ar lefel genedlaethol yn rhan o’r Gwobrau yma’n adlewyrchiad haeddiannol iawn o'i gyfraniad a'i waith caled. Dyma ddymuno pob hwyl i Gareth yn seremoni'r gwobrau ym mis Gorffennaf."

Cafodd y Gwobrau eu sefydlu gan Ofal Cymdeithasol Cymru er mwyn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym meysydd gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae’r gwobrau yn cydnabod grwpiau, carfanau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Dysgwch ragor a bwriwch olwg ar y rhestr fer lawn yma: Y Gwobrau 2026 | Gofal Cymdeithasol Cymru

Am wybodaeth mewn perthynas â chymorth digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i: Digartrefedd - Cyngor a Chymorth | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 07/05/2026