Mae sesiynau nofio hamddenol yn ystod yr wythnos a sesiynau hwyl ar ôl yr ysgol yn ailddechrau yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty!
Mae'r prif dymor yn parhau wrth i'r atyniad poblogaidd ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, baratoi ar gyfer ei 11eg haf.
Bydd tocynnau'n mynd ar werth o 9am, ddydd Llun, 18 Mai.
Mae miloedd o bobl eisoes wedi mwynhau'r pyllau awyr agored eleni, diolch i sesiynau nofio mewn dŵr oer y gaeaf, sesiynau nofio ben bore bob dydd ac, wrth gwrs, y sesiynau hwyl ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae digonedd o hwyl i'w chael! O ddydd Llun 1 Mehefin, bydd sesiynau nofio hamddenol yn ystod y dydd yn cael eu hychwanegu at yr amserlen rhwng dydd Llun a dydd Gwener, gyda phedair sesiwn i gynnig nofio hamddenol a nofio mewn lonydd yn y pyllau cynnes.
Mae'r sesiynau yn ystod y dydd yn berffaith ar gyfer:
- Unigolion sydd eisiau sesiwn nofio hamddenol tra bod y plant yn yr ysgol
- Unigolion sy'n addysgu eu plant gartref ac sydd eisiau mynd â'u plant i nofio yn ystod cyfnodau tawelach
- Gweithwyr y dref sydd eisiau nofio yn ystod amser cinio
O'r un dyddiad, bydd dwy sesiwn hwyl ar ôl yr ysgol yn cael eu hychwanegu at yr amserlen rhwng dydd Llun a dydd Gwener hefyd. Rhowch gyfle i'r plant ymlacio ar ôl diwrnod yn yr ysgol a llosgi rhywfaint o egni ar y cwrs rhwystrau teganau gwynt, pêl cerdded dŵr a chychod pedlo.
Mae'r sesiynau ychwanegol o 1 Mehefin yn golygu bod Lido Ponty bellach yn cynnig:
- Sesiynau nofio ben bore bob diwrnod o'r wythnos
- Chwe sesiwn hwyl i'r teulu ar benwythnosau, gwyliau banc a phob diwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol
- Dwy sesiwn hwyl ar ôl yr ysgol rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol
- Pedair sesiwn nofio hamddenol oriau dydd yn ystod tymor yr ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Rydyn ni'n barod am haf 2026 – dyma 11eg prif dymor Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
“Mae bron i filiwn o bobl o bob rhan o'r byd wedi mwynhau amser yn yr atyniad hardd yma, sy'n parhau i gynnig sesiynau nofio awyr agored fforddiadwy i oedolion a sesiynau nofio am ddim i blant 16 oed ac iau.
“O sesiynau nofio mewn dŵr oer a hwyl i'r teulu yn yr haul, i achlysuron arbennig megis Parti Pwll Ponti ar 3 Gorffennaf, noson o nofio a cherddoriaeth i'w chynnal gan Fenter Iaith, mae Lido Cenedlaethol Cymru yn parhau i gynnig rhywbeth at ddant pawb.
“Os nad ydych chi wedi ymweld â ni eto, dewch dros yr haf – cewch chi nofio, ymlacio ar y teras, rhoi cynnig ar y cwrs rhwystrau teganau gwynt a mwynhau safle hardd Parc Coffa Ynysangharad!”
Mae modd prynu tocynnau ar gyfer pob sesiwn yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ar-lein yma. Nodwch – mae tocynnau ar gael i'w prynu ar-lein yn unig. Does dim modd prynu tocynnau yn yr atyniad.
I drefnu sesiwn nofio ben bore neu sesiwn nofio hamddenol yn ystod y dydd, defnyddiwch yr opsiwn nofio ben bore.
I drefnu sesiwn hwyl ar ôl yr ysgol, ar y penwythnos, gŵyl y banc neu yn ystod gwyliau'r ysgol, defnyddiwch yr opsiwn nofio i'r teulu.
Cewch chi drefnu sesiwn nofio neu cewch chi brynu band gweithgareddau (un ar gyfer pob person, gan gynnwys plant 16 oed ac iau) os ydych chi'n dymuno defnyddio'r cwrs rhwystrau teganau gwynt, pêl cerdded dŵr a'r cychod pedlo.
Mae modd prynu bandiau wrth gyrraedd y dderbynfa.
Nodwch – cewch chi brynu tocynnau ar gyfer hyd at chwe pherson yn unig. Os byddwch chi'n dewis mwy na chwe pherson, bydd y system yn dweud nad oes lleoedd ar gael.
Wedi ei bostio ar 12/05/2026