Skip to main content

Mae cynllun Cysylltu â Gwaith NEWYDD Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gallu eich helpu chi.

Untitled Design (29)

 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio cynllun newydd i ddarparu cymorth cyflogaeth estynedig, wedi'i deilwra'n bwrpasol, i rai o'i drigolion mwyaf agored i niwed.

 

Mae Cysylltu â Gwaith yn fenter gan Lywodraeth y DU a fydd yn cael ei chyflwyno'n lleol gan garfan Gwaith a Sgiliau'r Cyngor. Mae'r garfan eisoes yn darparu cymorth cyflogaeth pellgyrhaeddol i drigolion 16 oed a hŷn.

 

Bydd yn darparu cymorth parhaus trwy hyfforddwyr arbenigol i bobl sy'n wynebu rhwystrau neu heriau sylweddol i ddod o hyd i waith neu i aros mewn swydd.

 

Rydyn ni'n gobeithio bydd y cynllun o fudd i dros 2,000 o drigolion. Byddai modd i hyn gynnwys:

 

  • Pobl anabl
  • Pobl sy'n ddigartref neu'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref
  • Cyn-aelodau o'r lluoedd arfog
  • Pobl sydd wedi goroesi cam-drin domestig
  • Cynhalwyr (Gofalwyr)
  • Pobl sydd â phrofiad o dderbyn gofal
  • Cyn-droseddwyr
  • Ffoaduriaid

 

Bydd cyflogwyr lleol yn allweddol i lwyddiant y cynllun, gan gynnig cyfleoedd gwaith a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, ac a fydd hefyd yn cefnogi amrywiaeth a chydnerthedd y gweithlu ac yn galluogi eu busnes i fod yn rhan o fudiad cydraddoldeb blaenllaw.

 

Bydd yr holl leoliadau a'r cymorth sy'n cael eu cynnig drwy'r cynllun Cysylltu â Gwaith yn cael eu darparu gan y garfan Gwaith a Sgiliau yn unol â'r fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth a'r fframwaith Lleoliad a Chymorth i Unigolion.

 

Yn cael ei gynnal ar yr un pryd â'r cynllun Cysylltu â Gwaith mae cynllun Blaengaredd sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun Blaengaredd yn cynnig cyllid ar gyfer dulliau newydd arloesol o helpu pobl i ddod o hyd i waith ac i oresgyn y rhwystrau personol, corfforol ac emosiynol sy'n gallu effeithio ar eu cyfleoedd i lwyddo.

 

Mae mentrau sydd wrthi'n cael eu hystyried yn cynnwys gweithio gyda Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid pwrpasol y Cyngor i gynnal gweithdai cyflogadwyedd i bobl ifainc, a gweithio gyda gwasanaeth Hamdden am Oes y Cyngor i gynnig ymyraethau cymunedol neu rithwir i helpu pobl i wella eu lles corfforol a meddyliol i'w paratoi ar gyfer cyflogaeth.

 

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Mae trigolion yn ein bwrdeistref sirol yn gallu wynebu amrywiaeth o rwystrau a heriau o ran dechrau a chynnal cyflogaeth, ac o ran bod mewn sefyllfa i chwilio am waith yn y lle cyntaf.

 

“Mae anabledd, iechyd, hyder ac amgylchiadau personol i gyd yn cyfrannu at sefyllfa unigolyn o ran cymryd y camau cyntaf hynny.

 

“Rhwng cynlluniau Cysylltu â Gwaith a Blaengaredd, bydd modd i’n Carfan Gwaith a Sgiliau bwrpasol ehangu ei chylch gwaith ymhellach, gan weithio mewn ffordd ddwys ac arloesol gyda thrigolion, ac eu helpu i oresgyn y rhwystrau maen nhw o bosibl yn eu profi - ac i aros mewn swydd.

 

“Bydd y ddau gynllun yn cael eu cyflwyno gyda chefnogaeth partneriaid, gan gynnwys busnesau a chyflogwyr lleol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu cynnydd y cynlluniau wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno.”

 

Mae'n ddyddiau cynnar iawn i'r ddau gynllun o hyd, ond dyma annog trigolion a busnesau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i ddilyn Carfan Gwaith a Sgiliau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Facebook i ddysgu rhagor a chael y newyddion diweddaraf am y cynlluniau.

 

Mae'r Garfan Gwaith a Sgiliau hefyd yn cynnig:

 

  • Mentora cyflogaeth un i un i'ch helpu i wella'ch sgiliau, datblygu'ch CV, gwella'ch sgiliau mewn cyfweliadau, yn ogystal â chymorth â'r pethau a allai fod yn eich rhwystro rhag dod o hyd i gyflogaeth, fel trafnidiaeth, cael y dillad iawn neu ddod o hyd i ofal plant.
  • Ystod enfawr o gyrsiau hyfforddi a sesiynau sgiliau. Fe gewch chi achrediad neu gymhwyster ar ddiwedd llawer ohonyn nhw os byddwch chi'n eu cwblhau'n llwyddiannus. Mae modd defnyddio'r rhain i ychwanegu at eich CV, eich helpu i chwilio am waith neu wella sgiliau gweithwyr.
  • Cymorth a gwybodaeth am sut i ddefnyddio cyfleoedd gwirfoddoli i ennill sgiliau a phrofiad i baratoi at gyflogaeth.
  • Gweithio gyda busnesau i nodi anghenion sgiliau a hyfforddiant a chefnogi recriwtio a datblygu gweithwyr.
  • Sesiynau hyfforddi a chymhwyso pwrpasol yn cael eu cynnal ar yr un pryd ag ymgyrchoedd recriwtio, e.e. ar gyfer cynorthwywyr addysgu, staff arlwyo mewn ysgolion a staff glanhau, gyda chyfweliadau wedi'u gwarantu i'r rhai sy'n llwyddiannus.

 

 

 

Dyma ragor o wybodaeth

 

 

re.

Wedi ei bostio ar 28/10/2026