Ydych chi'n clywed clychau'r ceirw? Mae Ogof Siôn Corn wedi dychwelyd! Rhwng dydd Sadwrn 21 Tachwedd a dydd Iau 24 Rhagfyr, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn trawsnewid yn brofiad Nadoligaidd lle bydd modd i deuluoedd a grwpiau ysgol fynd ar antur dwymgalon i ddod o hyd i Siôn Corn yn ei ogof hudol!
Mae llawer ar gael eleni, gan gynnwys:
- Ogof Siôn Corn, y daith danddaearol sy'n boblogaidd gyda theuluoedd
- Stori gyda Siôn Corn
- Teithiau ysgol i Ogof Siôn Corn
- Sesiynau Ogof Siôn Corn i blant ag ADY
- ACHLYSUR NEWYDD SBON! Groto Siôn Corn ar gyfer Teuluoedd
Darllenwch isod i gael yr holl fanylion Nadoligaidd!
Ogof Siôn Corn
Ymunwch â gweithwyr Ogof Siôn Corn ar daith sy'n llawn hud a chyffro'r Nadolig...
Ewch i mewn i Ogof Siôn Corn, lle byddwch chi'n cwrdd â rhagor o weithwyr Siôn Corn ac yn dod o hyd i syrpreisys hudol. Pan gyrhaeddwch chi ddiwedd y daith, bydd y dyn ei hun yno i gwrdd â chi!
Beth sydd wedi'i gynnwys:
- Antur hudol wedi'i goleuo drwy Ogof Siôn Corn
- Cyfle i gwrdd â Siôn Corn
- Bydd pob plentyn yn derbyn cloch hudol arbennig gan Siôn Corn, cyn mynd i'r Siop Deganau i'w chyfnewid am anrheg yn syth o’r gweithdy!
- Profiad i'w drysori - Gwenwch ar gyfer llun teuluol Nadoligaidd gyda Siôn Corn! Mae modd prynu lluniau ymlaen llaw neu eu prynu ar y diwrnod, gydag ystod o opsiynau argraffu ar gael.
- Maesesiynau i blant ag ADY, gyda niferoedd llai ac awyrgylch tawelach, ar gael hefyd.
Nodwch: Mae teithiau'n cynnwys sawl grŵp felly byddwch chi’n rhannu’ch ymweliad ag Ogof Siôn Corn gyda gwesteion eraill.
Stori gyda Siôn Corn
Ymunwch â Siôn Corn ac un o’i weithwyr am sesiwn adrodd stori glyd a fydd yn llawn hwyl y Nadolig.
- Ymweliad hudol i gwrdd â Siôn Corn
- Stori Nadoligaidd wedi'i hadrodd gan weithiwr Siôn Corn
- Cloch hudol er mwyn i bob plentyn ei chyfnewid yn y siop deganau…
- Taith i'r siop deganau, lle bydd modd i blant ddewis eu hanrheg eu hunain yn syth o’r gweithdy
Bydd cyfle hefyd i gael lluniau Nadoligaidd gyda Siôn Corn - mae modd eu prynu ymlaen llaw neu ar y diwrnod.
Nodwch: Dydy'r sesiynau Stori gyda Siôn Corn ddim yn cynnwys y daith lawn o amgylch Ogof Siôn Corn.
Groto Siôn Corn ar gyfer Teuluoedd
Dyma achlysur newydd sbon ar gyfer y Nadolig yma. Dewch â'ch teulu ynghyd i fwynhau ymweliad preifat gyda Siôn Corn. Dyma gyfle perffaith i greu atgofion Nadoligaidd i'w trysori gyda'ch gilydd.
Mae'ch antur hud yn dechrau ochr yn ochr ag un o Lowyr Siân Corn wrth i chi deithio trwy Ogof Iâ Ddisglair a Storm Eira Droellog. Dilynwch y llwybr disglair i ogof glyd Siôn Corn, lle mae croeso cynnes, a digonedd o hwyl yn aros amdanoch chi.
I wneud pob ymweliad yn wirioneddol arbennig, bydd cyfle i chi rannu ychydig o fanylion am eich plant wrth gadw lle, gan gynnwys eu henwau, eu hoff deganau, a chyfrinachau Nadoligaidd eraill. Bydd Siôn Corn yn defnyddio'r wybodaeth yma i greu profiad personol gwych, gan wneud i bob plentyn deimlo'n arbennig yn ystod ei ymweliad.
Cyn ffarwelio, bydd pob plentyn yn derbyn cloch hud gan Siôn Corn ei hun, a bydd modd mynd â'r gloch i Siop Deganau Siôn Corn er mwyn cyfnewid y gloch am degan newydd ei gynhyrchu yng ngweithdy Siôn Corn.
Dewch â gwên fawr ac ymdeimlad Nadoligaidd! Mae croeso i'r teulu cyfan ymuno â Siôn Corn ar gyfer llun Nadoligaidd, a chreu atgof o'ch ymweliad arbennig. Mae modd prynu pecynnau lluniau o flaen llaw wrth gadw lle neu ar y diwrnod. Mae ystod o opsiynau argraffu ar gael.
Nodwch: Dim ond ar gyfer Groto Siôn Corn ar gyfer Teuluoedd yn unig y mae modd defnyddio’r tocyn yma a dydy'r tocyn yma ddim yn cynnwys mynediad i Daith Ogof Siôn Corn. Bydd yr achlysur yn para tua 15 munud.
Mae modd cadw lle ar gyfer uchafswm o 4 plentyn fesul archeb. Does dim cyfyngiad o ran nifer yr oedolion, hyd at grŵp o 20. Os oes gyda chi fwy na 4 plentyn, cysylltwch â ni trwy ffonio 01443 682036 i drafod opsiynau ar gyfer yr archeb.
Teithiau Ysgolion
Mae modd i ysgolion drefnu teithiau yn ystod yr wythnos rhwng 10am a 2pm - dyma daith addysgol Nadoligaidd wych!
Mae modd i ysgolion gadw lle ar daith drwy ffonio 01443 682036.
Meddai’r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu teuluoedd ac ysgolion yn ôl i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer Ogof Siôn Corn 2026. Mae'r achlysur poblogaidd yma yn parhau i gynnig profiad gwirioneddol hudol i blant o bob oed, gan gyfuno straeon Nadoligaidd, antur ryngweithiol, a llawenydd cwrdd â Siôn Corn ei hun. Rydyn ni hefyd yn dod â nodweddion newydd, poblogaidd y llynedd yn ôl, gan gynnwys Stori gyda Siôn Corn a sesiynau tawelach i blant ag ADY. Rydyn ni'n falch o barhau i wneud yr achlysur yma yn gynhwysol ac yn hudol i bob plentyn.”
Mae tocynnau ar werth NAWR!
Gallwch gweld y pris trwy ddilyn y ddolen uchod.
Wedi ei bostio ar 22/09/2026