Skip to main content

Wythnos Dim Gwastraff – 7-11 Medi 2026

Gall Newidiadau Bach Wneud Gwahaniaeth Mawr yn Rhondda Cynon Taf

Mae trigolion ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i feddwl yn wahanol am wastraff wrth i'r Cyngor gefnogi Wythnos Dim Gwastraff 2026, ymgyrch genedlaethol sy'n annog pobl i leihau gwastraff trwy weithredoedd beunyddiol syml.

Mae'r ymgyrch, sy'n cael ei chynnal rhwng 7 ac 11 Medi, yn hyrwyddo camau ymarferol megis ailgylchu gwastraff bwyd, atgyweirio yn lle ailbrynu, ailddefnyddio eitemau ac ailgylchu rhagor gartref.

Mae cyfraddau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fynd o nerth i nerth ond mae Wythnos Dim Gwastraff yn gyfle i fynd cam ymhellach ac ystyried sut y gallwn ni atal creu gwastraff yn y lle cyntaf.

Boed hynny trwy ddefnyddio bwyd sydd yn yr oergell yn barod, mynd â bag siopa am oes, atgyweirio eitem yn y cartref, rhoddi dillad diangen neu ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu yn well, gall pob gweithred helpu i leihau faint o wastraff sy'n mynd i'r safle tirlenwi. Mae neges yr ymgyrch yn syml: does dim ffordd gywir nac anghywir o gymryd rhan, a gall y newidiadau lleiaf wneud gwahaniaeth sylweddol.

Mae trigolion yn Rhondda Cynon Taf eisoes yn dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni trwy gymryd camau amgylcheddol cadarnhaol, wrth iddyn nhw barhau i ragori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70% bob mis. Cafwyd cynnydd o 21% yn y cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd a chafwyd gostyngiad o 33% yn y casgliadau gwastraff bagiau du.

Ni allai ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf fod yn haws! Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaethau ailgylchu rhad ac AM DDIM a chyfleus i dros 110,000 o gartrefi, gan gynnwys casgliadau deunydd ailgylchu cymysg wythnosol mewn bagiau clir, casgliadau gwastraff bwyd wythnosol, casgliadau gwastraff gwyrdd wythnosol a gwasanaethau casglu cewynnau.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion i osod eu her Wythnos Dim Gwastraff eu hunain trwy ganolbwyntio ar un maes lle y byddai modd lleihau gwastraff. Gallai hyn gynnwys cario potel ddŵr mae modd ei hailddefnyddio, cynllunio prydau i osgoi gwastraff, ailddefnyddio cynwysyddion, prynu eitemau ail-law, rhoddi eitemau diangen neu ailgylchu un eitem ychwanegol bob wythnos. Gall y gweithredoedd bach yma gael effaith fawr ar yr amgylchedd.

Meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod o’r Cabinet ar faterion Cyllid, sy'n cynnwys Gwastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Ann Crimmings:

"Mae Wythnos Dim Gwastraff yn gyfle gwych i bawb feddwl am y dewisiadau beunyddiol rydyn ni'n eu gwneud a sut maen nhw'n cael effaith ar ein hamgylchedd."

"Mae trigolion ledled Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cyflawni canlyniadau anhygoel. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi rhagori ar dargedau ailgylchu cenedlaethol, wedi cynyddu faint o wastraff bwyd sy'n cael ei ailgylchu ac wedi lleihau'n sylweddol faint o wastraff sy'n mynd yn y bagiau du."

"Fodd bynnag, mae modd i ni wneud rhagor o hyd. Dydy ailgylchu ddim yn golygu gwneud newidiadau enfawr i'n ffordd o fyw dros nos. Mae'n ymwneud â chymryd camau ymarferol, syml sy'n gweithio i chi a'ch teulu."

"Boed hynny trwy wastraffu llai o fwyd, dewis eitemau mae modd eu hailddefnyddio, atgyweirio rhywbeth yn lle ei ailbrynu neu ailgylchu un peth arall bob wythnos. Mae pob gweithred yn cyfrif. Trwy weithio gyda'n gilydd, mae modd i ni barhau i leihau gwastraff a chreu Rhondda Cynon Taf sy'n fwy glân a gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Yn ogystal â'i wasanaethau ailgylchu wrth ochr y ffordd, mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol. Maen nhw'n cynnig cyfleusterau i drigolion ailgylchu ystod eang o ddeunyddiau nad oes modd eu casglu wrth ochr y ffordd.

Dyma leoliadau'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned:

• Tŷ Amgen, Llwydcoed CF44 0BX
• Heol y Cymer, Dinas CF39 9BL
• Ystad Ddiwydiannol Treherbert CF42 5HZ
• Heol y Gogledd, Glynrhedynog CF43 4RS
• Ystad Ddiwydiannol Trefforest CF37 5TT
• Canolfan Ailgylchu Llantrisant CF72 8YT

Dyma atgoffa trigolion i ddidoli deunyddiau i'w hailgylchu cyn mynd i'r canolfannau, gan na fyddan nhw'n derbyn bagiau o ddeunydd ailgylchu cymysg. Mae'r cyfleusterau'n derbyn ystod o ddeunyddiau, gan gynnwys cardfwrdd, dillad, plastigau, eitemau trydanol, pren, metel, batris, paent, teiars, a llawer yn rhagor. Mae staff wrth law ym mhob un o'r safleoedd i helpu trigolion a chynnig cyngor o ran ailgylchu.

Mae gan y Cyngor dair siop ailddefnyddio hefyd, sef Y Sied, ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyfleusterau yma'n helpu i ymestyn bywyd eitemau, gan gefnogi'r syniad o leihau gwastraff ac ailddefnyddio eitemau am gyfnod hirach. Mae rhagor o wybodaeth am Y Sied ar gael, yma: www.rctcbc.gov.uk/YSied.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

I gael ysbrydoliaeth a syniadau ar sut i leihau gwastraff yn ystod Wythnos Dim Gwastraff, ewch i: www.zerowasteweek.co.uk.

Wedi ei bostio ar 09/09/2026