Mae Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Jill Bonetto, yn apelio at fusnesau ac unigolion yn y Fwrdeistref Sirol i gefnogi'r elusennau y mae hi wedi'u dewis.
Mae'r 15 mis diwethaf wedi bod yn anodd dros ben i ni i gyd, ac i'r elusennau sydd wedi cael trafferth gyda'u gweithgareddau codi arian. Ond mae'r Cynghorydd Bonetto, a gafodd ei phenodi'n Faer ym mis Mai, yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu elusennau i godi arian hanfodol.
Mae'r Cynghorydd Bonetto, yr Aelod Etholedig ar gyfer Ward Ffynnon Taf, yn cefnogi llawer o elusennau yn ystod ei blwyddyn yn y swydd, gan gynnwys Help for Heroes, 2 Wish Upon A Star ac AP Cymru yn ogystal â chefnogi'r Lluoedd Arfog.
Rhowch rodd i Apêl Elusennau'r Maer yma
Ar ôl cyfnod anodd iawn yn sgil y pandemig byd-eang, mae'r Cynghorydd Bonetto yn gobeithio cwrdd â llawer o sefydliadau ac unigolion, yng nghwmni ei chymheiriaid, Lawrence Bonetto a Nicola Charlesworth.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf:
“Rydyn ni i gyd wedi profi cymaint yn ddiweddar, un o’r adegau anoddaf yn ein bywydau ni i gyd. Mae llawer o anwyliaid wedi cael eu cymryd oddi wrthon ni'n rhy fuan, ond byddan nhw'n aros gyda ni yn ein calonnau am byth.
“Byddaf yn gwneud fy ngorau glas, fel Maer Rhondda Cynon Taf, i barhau â gwaith gwych y meiri blaenorol, gan chwifio’r faner dros ein Bwrdeistref Sirol, cwrdd â chynifer o bobl a sefydliadau â phosibl mewn modd diogel, ynghyd â helpu i godi arian ar gyfer elusennau sydd mor agos at fy nghalon.
“Rydw i hefyd yn gofyn i fusnesau ac unigolion lleol roi rhodd, waeth pa mor fawr neu fach, i'm Hapêl Elusennau. Mae pob ceiniog yn cyfrif i’r elusennau yma ar adeg mor bwysig.”
Help for Heroes - Prif elusen y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn y DU. Mae aelod o deulu'r Cynghorydd Bonetto yn gyn-filwr Rhyfel y Gwlff sydd wedi dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn dilyn ei gyfnod yn y Lluoedd Arfog. Mae hi'n awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r elusen a'i gwaith o gefnogi personél y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, o'r gorffennol a'r presennol.
2 Wish Upon A Star - Rhoi cymorth ar unwaith a pharhaus o ran profedigaeth i deuluoedd, unigolion a gweithwyr proffesiynol sy'n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn a dirdynnol plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu'n iau. Mae'r Cynghorydd Bonetto yn awyddus i ddangos ei chefnogaeth i'r gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni gan y sefydliad elusennol yma mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.
AP Cymru - Mae'r elusen awtistiaeth yn rhoi cymorth pwrpasol uniongyrchol i unigolion awtistig a'u teuluoedd yn ystod pob cam o'u taith. Mae'r Cynghorydd Bonetto yn dymuno cynorthwyo'r elusen yma mewn unrhyw ffordd y gall.
Lluoedd Arfog - Bydd y Cynghorydd Bonetto hefyd yn cefnogi'r Lluoedd Arfog yn ystod ei blwyddyn yn y swydd fel Maer. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012.
Wedi ei bostio ar 29/07/21