Skip to main content

Wythnos Atal Sŵn 2021

Noise

I nodi Wythnos Atal Sŵn 2021 (24-29 Mai), mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i bartneriaid i godi ymwybyddiaeth o broblemau sŵn gormodol yn ein cymunedau.

Mae modd i sŵn yn y lle anghywir ac ar yr amser anghywir darfu ar gallu pobl eraill i ymlacio, gweithio a chysgu. Mae sŵn hefyd yn effeithio ar iechyd a lles eraill.

Yn aml, mae problemau sŵn yn deillio o ddiffyg meddwl a diffyg ystyriaeth, a chaiff ei datrys trwy ofyn i’r sawl sy'n creu'r sŵn i'w dawelu mymryn.Felly mae'r Cyngor yn annog ei drigolion a'i fusnesau i barchu eraill.

Nod Wythnos Atal Sŵn, sy'n hyrwyddo cymdogaethau heddychlon, yw annog pawb i ystyried effaith y sŵn maen nhw'n ei wneud. Mae Wythnos Atal Sŵn yn fenter flynyddol sydd wedi'i chydlynu gan Environmental Protection UK ers 1996. Mae'n fudiad gwirfoddol sy'n cael ei gefnogi gan weithwyr proffesiynol rheoli llygredd, sydd wedi bod yn gweithio tuag at fyd glanach, tawelach ac iachach ers 1898.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisiau i BAWB gael haf pleserus ac mae'n gweithio gyda thrigolion a busnesau i sicrhau bod lefelau sŵn yn dderbyniol bob amser. Does dim amser derbyniol i achosi niwsans sŵn i gymdogion neu'r rhai gerllaw.

Llygredd Sŵn RhCT: Mae rhagor o wybodaeth yma

Wedi ei bostio ar 28/05/2021