Mae tunelli o wastraff ailgylchu GWYCH wedi'u casglu o bob rhan o Rondda Cynon Taf wrth i drigolion brofi, unwaith eto, fod gyda nhw bwerau ailgylchu GWYCH!
Mae'r Cyngor yn llongyfarch ei drigolion ar y ffigurau ailgylchu gwych ar gyfer mis Rhagfyr 2021!
Trigolion Rhondda Cynon Taf yw rhai o'r rhai gorau yng Nghymru. Rydych chi wedi cael Nadolig gwyrdd iawn wrth i ragor o drigolion ymuno â'r frwydr yn erbyn gwastraff!
Y newyddion anhygoel yw bod gostyngiad o dros 50 tunnell yng ngwastraff bagiau du/biniau olwynion o'i gymharu â’r llynedd. Mae hyn yn golygu bod ein trigolion ni'n meddwl cyn prynu ac yn lleihau eu gwastraff cyffredinol nad oes modd ei ailgylchu!
Yn ogystal â hyn, ailgylchodd trigolion RhCT dros 2,765 tunnell o wastraff dros bythefnos yr ŵyl – sy'n cynnwys dros 600 tunnell o wastraff bwyd yn cael ei ailgylchu a’i droi’n ynni gwyrdd i bweru cartrefi.
Mae ailgylchu yn un ffordd y mae modd i drigolion helpu i leihau eu hôl troed carbon yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein hallyriadau cyffredinol ac rydyn ni'n gweithio i helpu trigolion gymaint ag y gallwn ni. Does dim esgus i beidio â bod yn ystyriol o'r hinsawdd. Mae pob newid bach yn gwneud gwahaniaeth MAWR.
Mae'r Cyngor, yn rhan o'i ymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i gynyddu cyfraddau ailgylchu, wedi cyflwyno newid i'r ffordd y mae'n casglu gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu yn ddiweddar. Mae wedi cyflwyno sachau gwastraff gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio a thrwy hynny'n lleihau ei ddefnydd cyffredinol o blastig. Bydd tua 3 miliwn o fagiau ailgylchu clir yn llai bob blwyddyn.
Mae casgliadau gwastraff gwyrdd bellach wedi ailddechrau ledled RhCT ac mae casgliadau'n digwydd bob pythefnos, ar yr un diwrnod â'ch gwastraff bagiau du/biniau olwynion. Dyma atgoffa trigolion bod angen iddyn nhw gofrestru ar gyfer eu DWY sach AM DDIM ac i ddefnyddio'r gwasanaeth yma. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon. Bydd casgliadau wythnosol y Gwanwyn yn ailddechrau ddydd Llun 28 Mawrth a bydd yn dilyn patrwm eich diwrnod casglu gwastraff ailgylchu arferol.
Mae Carfan Gofal y Strydoedd WYCH wedi gweithio trwy gydol yr ŵyl ac wedi bod allan ym mhob tywydd yn casglu llawer iawn o wastraff ailgylchu.
Mae'r criwiau casglu sbwriel a gwastraff ailgylchu gwych yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn dal ati trwy gydol y pandemig ac fe wnaethon nhw barhau i weithio'n galed dros gyfnod y Nadolig wrth iddyn nhw barhau i frwydro yn erbyn gwastraff, er gwaethaf heriau ychwanegol Covid-19.
Mae'r Cyngor yn gofyn i'w holl drigolion barhau â'r gwaith GWYCH yma yn y Flwyddyn Newydd a thu hwnt, a hynny er mwyn helpu Rhondda Cynon Taf i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl. Mae ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf mor hawdd – mae'n adduned Blwyddyn Newydd rydych chi'n sicr o gadw ati!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth:
“Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yn gwella gyflymaf yng Nghymru o ran ei ymdrechion ailgylchu. Dyma rywbeth y mae modd i'n holl drigolion fod yn falch ohono – ond mae modd i ni wneud mwy. Trwy ailgylchu un eitem ychwanegol, mae modd i ni gyrraedd targed 2024/25, sef 70%.
“Yn y cyfnod cyn y Nadolig a thros gyfnod y Nadolig, rydyn ni wedi bod yn galw ar drigolion i gofrestru ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae modd cofrestru ar unrhyw adeg i dderbyn eich cadi gwastraff bwyd am ddim, a dechrau troi'r holl fwyd dros ben yn ynni i'w ddefnyddio i bweru cartrefi.
“Mae'r Cyngor wedi gwneud nifer o newidiadau i wella’r gwasanaethau sydd ar gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae trigolion yn parhau i gefnogi’r newidiadau ac mae’r canlyniadau hyn yn dyst i hynny – Da iawn RhCT a diolch yn fawr iawn i’r garfan Gofal y Strydoedd sydd wedi gweithio dros y Nadolig, ym mhob tywydd i gasglu’r cyfan!”
Mae modd cael bagiau ailgylchu mewn nifer o fannau dosbarthu lleol neu mae modd archebu rhai i gyrraedd eich cartref ar www.rctcbc.gov.uk/bagiau. Mae casgliadau o ymyl y pafin wedi parhau drwy'r pandemig. Os oes oedi am ryw reswm, rydyn ni'n cynghori trigolion i adael eu heitemau wrth y man casglu a byddan nhw'n cael eu casglu cyn gynted ag y bo modd.
Mae'n bosibl bod llawer o drigolion yn cael sesiynau tacluso ac efallai byddan nhw'n dod o hyd i rai eitemau yr hoffen nhw gael gwared arnyn nhw. OND os nad oes modd ailgylchu'r eitemau yma, ewch â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf.
Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor 7 diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd, rhwng 8am a 5.30pm. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith o hyd i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd. Mae rhagor o fanylion ar https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.
Mae dwy siop ailddefnyddio 'The Shed' sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfannau Ailgylchu Treherbert a Llantrisant ar agor.
Dylech roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn dau fag a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.
Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.
Er mwyn dysgu rhagor am frwydr ailgylchu Cymru, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau, ar arwyddion a'r cyfryngau cymdeithasol neu ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #AilgylchwyrGwych.
Wedi ei bostio ar 28/01/2022