Skip to main content

Bioamrywiaeth ledled ein Bwrdeistref Sirol

Biodiversity

Mae'r Cyngor yn brysur gyda'i raglen torri gwair yn ystod yr haf, wrth warchod ein Lleiniau Glas (Ardaloedd Bioamrywiaeth) ar yr un pryd.

Mae yna nifer o Ardaloedd Bioamrywiaeth dynodedig yn rhan o’n lleiniau glas ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r rhain yn cael eu torri unwaith y flwyddyn yn unig, naill ai ddiwedd mis Gorffennaf neu yn yr hydref, gan ddefnyddio peiriannau torri a chasglu arbenigol.

Mae gwarchod ein Hardaloedd Bioamrywiaeth yn helpu i annog blodau gwyllt i dyfu ac yn ategu peillio. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd ac rydyn ni'n annog pob preswylydd a busnes i'n cefnogi ni a'n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.

Mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT 

Mae'r Cyngor, sydd â'r nod o fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030, eisoes wedi gwneud cynnydd mawr dros y ddegawd ddiwethaf yn ei ymdrechion i leihau carbon. Mae hyn wedi cynnwys gosod dros 100 o baneli solar, yn ogystal â gosod systemau gwres a phŵer ynni-effeithlon cyfun sy'n cynhyrchu gwres a thrydan ar yr un pryd o'r un ffynhonnell ynni, gosod boeleri effeithlon iawn, uwchraddio systemau gwresogi, awyru ac aerdymheru, a newid i oleuadau LED sy'n defnyddio llai o ynni mewn adeiladau a goleuadau stryd.

Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Cabinet Member for Environment & Leisure: "Fel Cyngor rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd ac i storio carbon drwy ddefnyddio dulliau naturiol, megis y rheiny sy'n ymwneud â choed, mawnogydd, glaswelltir corsiog a chynefinoedd naturiol eraill ledled y Fwrdeistref Sirol i wella ansawdd aer a lleihau effaith nwyon tŷ gwydr.

"Ond mae mynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd yn parhau i fod yn broblem fyd-eang ac yn argyfwng y mae modd i ni i gyd wneud rhywbeth yn ei gylch, a does dim ots os yw'n fawr neu'n fach. Nod y Cyngor hwn yw gwneud gwahaniaeth go iawn – mae newid yn dechrau yma, gyda phob un ohonon ni.

"Bydd pob newid syml a wnawn ni i gyd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Dyma'n dyletswydd ni i genedlaethau'r dyfodol."

Amserlenni Torri Gwair RhCT

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn parhau i weithredu ei bolisi rheoli glaswelltir er lles blodau gwyllt, gyda chyfanswm o 120 hectar o laswelltir blodau gwyllt bellach yn cael ei reoli ar draws y Fwrdeistref Sirol – tir sy'n cyfateb i ychydig dros 126 gwaith maint cae Stadiwm Principality.  Mae'r Cyngor hefyd yn creu hyd at wyth ‘Ystafell Ddosbarth â Tho Gwyrdd’ ar safleoedd ysgol sydd heb fawr o natur neu sydd heb fynediad o gwbl ati, ac wedi creu ardal dyfu gymunedol o'r enw ‘Gadael i Natur Dyfu’ ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i chwarae ei ran i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd – ond mae angen eich help chi arnon ni i gyflawni ein nodau a gwneud gwahaniaeth.

Dyma fater i bawb!

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi ehangu’r ardaloedd o laswelltir blodau gwyllt a lleiniau glas wedi’u rheoli yn sylweddol trwy ei Bolisi Rheoli Glaswelltir er lles Blodau Gwyllt RhCT. Ar hyn o bryd mae tua 150 o safleoedd sy'n rhan o Gynllun Blodau Gwyllt y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 29/07/22