Hamdden am Oes yn yr awyr agored!
Ddiwedd yr haf 2022, byddwn ni'n cynnal dosbarthiadau llawn hwyl i bobl o bob oed a gallu mewn campfeydd awyr agored yn rhai o leoliadau mwyaf prydferth RhCT.
Dyma gyfle unigryw i ymarfer corff a gwella ffitrwydd yn yr ardal yma!
Mae'r campfeydd awyr agored ym Mharc Coffa Ynysangharad a Pharc Gwledig Cwm Dâr yn berffaith i'r rheiny nad ydyn nhw'n barod i ddychwelyd i gampfa dan do, neu'r sawl sy'n chwilio am ffordd newydd o ymarfer corff.
Bydd hyfforddwyr Hamdden am Oes cymwys neu hyfforddwyr trydydd parti cymeradwy yn arwain y dosbarthiadau. Bydd y dosbarthiadau ar gael yn rhan o'ch Aelodaeth Hamdden am Oes neu bydd modd i chi dalu wrth fynychu'r dosbarthiadau.
Apêl y campfeydd awyr agored yw'r ystod o offer sy'n hawdd i bobl o bob lefel ffitrwydd a lefel hyder eu defnyddio.
Mae'r campfeydd awyr agored, ynghyd â chymorth a gwybodaeth ein harbenigwyr Hamdden am Oes, yn gyfle i bawb, gan gynnwys plant a'r rheiny sydd heb fynd i'r gampfa o'r blaen, fynd i'r un dosbarth ffitrwydd a dod o hyd i fathau o ymarfer corff sy'n addas iddyn nhw.
|
Weds
|
Thurs
|
Sat
|
Ynysangharad War Memorial Park
Pontypridd
|
|
Mae Hamdden am Oes yn yr Awyr Agored yn cynnal dosbarthiadau Hwyl, Ffitrwydd a Theulu o 5.30pm–7pm bob dydd Iau (o 14 Gorffennaf) yn y gampfa awyr agored ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Mae croeso i bawb o bob oed a gallu ac mae'r dosbarthiadau'n cynnig y cyfle i fwynhau’r awyr iach ac ymarfer corff fel teulu. Mae gan y campfeydd amrywiaeth o offer y mae modd eu haddasu ar gyfer pob gallu, ac mae hyfforddwyr cymwys yn arwain y dosbarthiadau. Rhaid cadw lle drwy'r ap. £3.60 yr un i oedolion, am ddim i blant. Bydd rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn ar bob adeg.
|
10am-11am
Partners/family friend training
|
Dare Valley Country Park
Aberdare (use top lake entrance)
|
5pm: Family class
6pm: HIIT
|
9.30am: strength circuit
|
9am: Bootcamp
|
Meddai Keith Nicholls, Pennaeth Gwasanaethau Hamdden, Parciau a Chefn Gwlad: "Mae Hamdden am Oes yn parhau i ehangu ei ddarpariaeth i gwsmeriaid a chyflwyno ffyrdd arloesol o gadw'n heini – yn enwedig yn achos y rheiny nad ydyn nhw'n barod i ddychwelyd i gampfeydd dan do.
"Rydyn ni'n falch iawn o'r holl leoliadau prydferth yn RhCT ac rydyn ni'n manteisio arnyn nhw trwy osod campfeydd awyr agored i bobl gael ymarfer corff a mwynhau'r golygfeydd ac awyr iach.
"Rydyn ni hefyd yn ffodus iawn o gael aelodau o staff cymwys sydd â'r gallu i addasu'r dosbarthiadau a'r offer fel bod y sesiynau'n addas i bawb. Mae'r sesiynau'n addas i bobl o bob lefel ffitrwydd a bydd yr hyfforddwyr yn gweithio gyda chi i benderfynu ar yr hyn sydd orau i chi.
"Os ydych chi'n awyddus i roi cynnig ar ddosbarth mwy heriol, bydd modd gwneud hynny'n rhan o'r un sesiwn. Dyma gyfle perffaith i bawb.
"Mae'r dosbarthiadau yma am ddim yn rhan o'ch Aelodaeth Hamdden am Oes, sy'n costio llai na £9 yr wythnos ar gyfartaledd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld aelodau'n rhoi cynnig ar y sesiynau awyr agored. Serch hynny, rydyn ni hefyd yn awyddus i groesawu pobl sydd ddim yn aelodau ac mae modd i'r unigolion yma dalu fesul dosbarth. Rydyn ni'n deall bod nifer o bobl yn bryderus am y Coronafeirws ac ein gobaith yw y bydd y dosbarthiadau awyr agored yma'n tawelu eu meddyliau."
Mae'r campfeydd awyr agored yn berffaith i dimau chwaraeon sydd am ychwanegu at eu hamserlen hyfforddi dros yr haf. Mae modd llogi'r campfeydd a chael cyngor gan arbenigwr. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 05/05/2022