Mae pwll nofio Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda ar gau am gyfnod amhenodol.
Mae'r pwll wedi cael ei wagio'n gyfan gwbl o ganlyniad i ddarganfod nam sylweddol yn y tanc cydbwysedd.
Mae contractwyr bellach yn gweithio gyda staff Hamdden am Oes yn y ganolfan i lunio rhaglen waith, a bydd y pwll ar gau am o leiaf bedair wythnos.
Mae staff y ganolfan yn gweithio gyda’r nifer fawr o glybiau a grwpiau sy’n defnyddio’r pwll, gan gynnwys gwersi nofio i blant, i symud y dosbarthiadau a’r gweithgareddau i byllau nofio Hamdden am Oes amgen.
Dylai fod rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r gwaith atgyweirio sydd ei angen, a pha mor hir y bydd y pwll ar gau, ar gael erbyn diwedd yr wythnos yma. Bydd cwsmeriaid yn cael rhagor o wybodaeth yn unol â hynny.
Yn y cyfamser, mae modd i chi ddod o hyd i'ch pwll nofio Hamdden am Oes agosaf yma.
ddewis Canolfan
Wedi ei bostio ar 20/10/2022