Skip to main content

Mae Taith Prydain yn dod i Rondda Cynon Taf

Bike Rhigos

 Mae Rhondda Cynon Taf yn paratoi i groesawu un o rasys beicio mwyaf y byd, wrth i Daith Prydain 2023 wneud ei ffordd drwy'r fwrdeistref sirol.

Bydd rhai o feicwyr gorau'r byd yn rhoi cynnig ar Fynydd y Bwlch a Mynydd Rhigos ac yn rasio trwy Goedwig Llanwynno yng ngham wyth y gystadleuaeth, sy'n dechrau ym Mharc Gwledig Margam ac yn gorffen yng Nghaerffili.

Mae'n bosibl y bydd llawer o drigolion yn cofio pan gafodd Parc Aberdâr ei ddefnyddio fel lleoliad lansio ar gyfer rhan o Daith Prydain 2016, pan oedd beicwyr megis Mark Cavendish a Steve Cummings yn cystadlu ac yn anelu am y dref.

Erbyn hyn, mae Taith Prydain yn ei 19eg blwyddyn ac mae'n rhan o gyfres broffesiynol UCI. Mae dros 100 o feicwyr o bedwar ban byd yn cystadlu yn yr achlysur, gyda miloedd yn gwylio ac yn cefnogi.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae ffyrdd serth a throellog ein bwrdeistref sirol yn berffaith ar gyfer ceiswyr antur.

"Rydyn ni'n croesawu beicwyr o bedwar ban byd ac rydyn ni'n falch o fod gydag ystod o leoedd ble mae modd iddyn nhw aros, sy'n cynnwys storfa ddiogel i feiciau a safle cychwyn iddyn nhw fynd i grwydro. Mae'r llwybr arfaethedig ar gyfer Taith Prydain yn mynd â chi trwy rai o olygfeydd gorau De Cymru, o olygfa anhygoel Mynydd Rhigos, ble mae modd i chi edrych dros y Bannau Brycheiniog, i Goedwig hynafol Llanwynno, tir sy'n llawn chwedlau a llawer yn rhagor."

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld rhai o feicwyr gorau'r byd yn gwneud eu ffordd drwy Rondda Cynon Taf yn ystod Taith Prydain.

"Dyma wahodd pobl i ddod i gefnogi'n ddiogel ac annog y beicwyr yn eu blaenau. Pwy a ŵyr? Efallai y cewch chi eich ysbrydoli! Mae gyda ni ystod o lwybrau ar gael, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd magu hyder i blant. Wrth gwrs, campfeydd Hamdden am Oes yw’r lle i fod ar gyfer y rheiny sydd eisiau’r manteision iechyd a lles o feicio. Mae modd profi’r manteision yma trwy ddefnyddio WattBikes neu hyd yn oed fynychu dosbarthiadau Troelli!”

Ac yntau'n achlysur sy'n cael ei ddarlledu'n fyw dros y byd, bydd angen rhywfaint o fesurau rheoli traffig a thyrfa er diogelwch y beicwyr, y llu rasio a'r cymunedau y maen nhw'n teithio trwyddyn nhw.

Efallai y bydd ffyrdd yn cael eu cau am gyfnod byr wrth i'r beicwyr wneud eu ffordd drwy Rondda Cynon Taf. Dilynwch gyfarwyddiadau staff sydd ar y safle, ac fel yr arfer, cadwch lygad allan am feicwyr pan fyddwch chi'n gyrru ar y ffordd.

Mae modd i chi fwrw golwg ar lwybr cyfan Cam 8, yma

Beth am ddod draw i gefnogi'r beicwyr wrth iddyn nhw ymdroelli i fyny ac i lawr ein ffyrdd mynyddig?

Os ydych chi'n cael eich ysbrydoli, beth am gymryd rhan:

  • Mae Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn cynnal sesiynau hyfforddi beicio rhad ac am ddim, gan gynnwys beiciau cydbwysedd, beiciau i blant iau a chyfleoedd hwyl i blant bach. Mae gyda nhw hefyd gyfres o lwybrau beicio yn Rhondda Cynon Taf, gyda mapiau a fideos, i'ch ysbrydoli.
  • Mae Cwm Cycling yn gyfle beicio hygyrch i'r holl deulu. Dewiswch o blith ystod o feiciau sydd wedi’u dylunio i weddu pob oed a gallu ar gyfer beicio o amgylch parciau yn Rhondda Cynon Taf
  • Mae gan gampfeydd Hamdden am Oes yr offer beicio diweddaraf, gan gynnwys WattBikes, sy'n eich galluogi i raglennu reid - gallech chi hyd yn oed wneud cam 8 o Daith Prydain a dilyn y llwybr eich hun.
  • Neu, fe allech chi grwydro Rhondda Cynon Taf ar eich beic. Mae yna reswm i Geraint Thomas ddefnyddio ein ffyrdd mynyddig yn rhan o’i hyfforddiant Tour De France! Mae gyda ni lawer o lwybrau heriol a llawer o olygfeydd gwych, ysbrydoledig.
  • Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Disgyrchiant, Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd cyntaf y DU. Manteisiwch ar y gwasanaeth llogi beiciau cyn mynd i'r afael â'r llwybrau i lawr ochr y mynydd ac yna defnyddiwch y gwasanaeth codi i'ch gludo yn ôl i'r brig. Mae hyd yn oed trac pwmp a chwrs beic cydbwysedd lliwgar i blant bach.
  • Mae Parc Gwledig Barry Sidings yn gartref i gaffi'r Bike Doctor a siopau trwsio a gwerthu beiciau. Mae hefyd gyda thrac pwmp a thrac BMX.
  • Mae gan Barc Gwledig Cwm Clydach feiciau anabledd ochr yn ochr i’w llogi yng Nghaffi Lakeside y mae modd eu defnyddio ar y traciau sydd wedi’u lledu’n arbennig o amgylch y llyn.
Wedi ei bostio ar 01/09/2023