Skip to main content

Mae rhywbeth MAWR yn dod i Daith Pyllau Glo Cymru...

Dinomania small

Am lawer o flynyddoedd, mae sïon wedi bod am ddinosoriaid sydd yn dal i fyw dan ddaear ac rydyn ni angen dy help di i ddod o hyd iddyn nhw. 

O ddydd Gwener, 4 Awst tan ddydd Llun, 7 Awst 2023, ymuna â Cheidwad Chris ym Mhwll Cynhanesyddol Dinomania! Dyma gyfle i edrych am ffosilau ac esgyrn dinosoriaid i ganfod pa ddinosoriaid sydd o dan ddaear!

Bydd cyfle i blant (ac oedolion sydd gyda nhw) gwrdd â dinosoriaid bychain ar hyd y daith ac efallai, gyda chymorth pawb, dod o hyd i frenin y dinosoriaid – Y T-Rex!

Bydd amgueddfa symudol Dinomania hefyd yn cael ei harddangos ar ddiwedd pob sesiwn i’n Helwyr Dino dewr fwrw golwg a darganfod hyd yn oed mwy am ddinosoriaid!   Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae'n newyddion gwych bod Dinomania yn dod i Daith Pyllau Glo Cymru yn ystod gwyliau'r haf. Mae ein hatyniad poblogaidd i dwristiaid wedi cael ei logi ar gyfer llawer o gynyrchiadau teledu, ond dyma’r tro cyntaf i ddinosoriaid ymweld â ni yma! Ac yntau'n lleoliad i deuluoedd, mae gyda ni eisoes Deithiau Tywys yr Aur Du sy’n addas ar gyfer pob oed, llawer o achlysuron megis Ogof Siôn Corn, ac wrth gwrs ein cynnig poblogaidd i deithiau ysgol. Mae gyda’r caffi fwydlen wych i blant ac mae ein partneriaid ar y safle, The Chocolate House a'r Craft of Hearts, yn cynnig gweithdai creu siocled a dosbarthiadau celf. Mae digon o resymau i ymweld â ni – ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yr haf yma!

 

Mae tocynnau ar gyfer Dinomania ar werth yma. 

Am wybodaeth am logi Taith Pyllau Glo Cymru ar gyfer ffilmio neu achlysuron, e-bostiwch DerbynfaParcTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

Am yr holl wybodaeth arall, cer i www.parctreftadaethcwmrhondda.com

 

Wedi ei bostio ar 19/05/2023