Skip to main content

Cabinet yn Cymeradwyo Ymestyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Cŵn yn Baeddu

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i ymestyn y mesurau llym presennol i fynd i’r afael â baw cŵn a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Chwe blynedd yn ôl ym mis Hydref 2017, Cyngor RhCT oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, a hynny drwy roi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar waith. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi cyflwyno dros 1,000 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i berchnogion anghyfrifol am fethu â chydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn.

Yn ystod mis Awst, cafodd trigolion gyfle i gymryd rhan mewn proses ymgynghori chwe wythnos o hyd i drafod a ddylid ymestyn y mesurau presennol er mwyn parhau i fynd i'r afael â'r broblem ac i sicrhau bod cŵn dan reolaeth mewn ardaloedd cyhoeddus. Roedd ymateb y cyhoedd unwaith eto o blaid y mesurau - gydag 89% yn cytuno â phob un o elfennau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn ac yn credu y dylid parhau â'r Gorchymyn dros y 3 blynedd nesaf.

Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn golygu bod y rheolau canlynol yn parhau i gael eu gorfodi:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchnogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared ar y baw ar bob adeg.
  • RHAID i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.

Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn caniatáu i Swyddogion Gorfodi gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 os bydd rhywun yn methu â chadw at unrhyw un o'r uchod.

Cafodd gorchymyn arall, sy'n unigryw i Barc Aberdâr, hefyd ei gyflwyno ar 1 Hydref 2017, ac mae'n cynnwys y rheol ychwanegol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn ar bob adeg yn y parc. Byddai'r Gorchymyn wedi disodli deddf leol 1866 ar gyfer Parc Aberdâr, a oedd eisoes yn sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn ar bob adeg. Bydd y rheol hirsefydlog yma, ac amgylchiadau hanesyddol unigryw y ddeddf leol, yn cael eu hymestyn am dair blynedd arall trwy Orchymyn arall.

Gweler Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2017

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae ein caeau chwaraeon a meysydd chwarae yn fannau pwysig ar draws ein cymunedau ac mae pobl o bob oed yn manteisio arnyn nhw drwy'r dydd a gyda'r nos. Mae rheolau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sydd wedi bod ar waith ers 2017 wedi ein helpu ni i gadw'r ardaloedd hynny yn ddiogel i bawb eu defnyddio.

"Rwy'n deall bod baw cŵn yn broblem allweddol i drigolion a dyma pam rydw i a fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn falch o dderbyn cefnogaeth y cyhoedd wrth i ni ymestyn y Gorchymyn am dair blynedd arall.

“Gyda chefnogaeth trigolion, mae modd i ni fynd i’r afael â’r mater gyda’n gilydd trwy adeiladu ar y llwyddiant hyd yma a sicrhau bod y nifer fach o bobl sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu neu sy ddim yn eu rheoli mewn mannau cyhoeddus yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:“Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi sicrhau ein bod ni wedi gweld llai o faw cŵn ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond mae’r Cyngor yn dal i dderbyn nifer fach o gwynion ynghylch baw cŵn ar y strydoedd ac ar gaeau chwaraeon, sydd nid yn unig yn hyll, ond mae modd iddo gael effaith ddifrifol ar iechyd. Byddwn i'n gofyn i drigolion feddwl a gweithredu er mwyn sicrhau ein bod ni'n cadw ein strydoedd ac ardaloedd cyhoeddus yn lân a bod cŵn yn cael eu cadw oddi ar ein meysydd chwarae a chaeau chwaraeon."

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion roi gwybod am unrhyw broblemau sydd gyda nhw'n ymwneud â baw cŵn trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni roi cymorth iddyn nhw a chydweithio er diogelwch ein cymuned.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CiAmDro

Wedi ei bostio ar 19/09/2023