Bydd Taith Prydain 2023 yn mynd trwy Rondda Cynon Taf brynhawn dydd Sul, 10 Medi. Dyma ychydig o wybodaeth bwysig i drigolion am sut bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar y diwrnod.
Bydd Cam 8 yr achlysur beicio mawreddog yn dechrau ym Margam ac yn dod i ben yng Nghaerffili gan fynd trwy nifer o gymunedau Rhondda Cynon Taf dros gyfnod o oddeutu tair awr rhwng 12pm a 3pm.
Dyma grynodeb o lwybr y daith drwy'r Fwrdeistref Sirol: Llanhari, Llanharan, Treorci, Treherbert, Ffordd Mynydd Rhigos, Rhigos, Hirwaun, Llwydcoed, Trecynon, Gadlys, Aberdâr, Ffordd Mynydd Maerdy, Maerdy, Glynrhedynog, Blaenllechau, Llanwynno, Perthcelyn, Tyntetown ac Abercynon.
Bydd trefnwyr yr achlysur yn cau'r ffordd fesul cam ar hyd y llwybr wrth i'r beicwyr fynd yn eu blaenau ar hyd ffyrdd, pentrefi a threfi lleol. Mae hyn yn golygu y bydd raid i draffig aros am gyfnod byr dan gyfarwyddyd swyddog ym mhob lleoliad.
Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith er mwyn sicrhau bod y ffordd yn cael ei chau 'fesul cam', a bydd hefyd yn cynnwys mesurau gwahardd aros dros dro mewn sawl lleoliad - lle bydd gofyn i drigolion beidio â pharcio er mwyn caniatáu i'r achlysur fynd yn ei flaen yn ddiogel. Mae trefnwyr yr achlysur wedi cyhoeddi hysbysiadau ar hyd y llwybr ymlaen llaw.
Rydyn ni wedi cynnwys dolenni isod fydd yn ddefnyddiol i drigolion gael gwybod rhagor am yr achlysur a threfniadau'r diwrnod:
Hoffen ni ddiolch i ddefnyddwyr y ffyrdd, ymwelwyr a thrigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad drwy gydol y prynhawn, wrth i'r Cyngor gefnogi un o rasys beicio mwyaf blaenllaw'r byd wrth iddi fynd trwy'r Fwrdeistref Sirol.
Wedi ei bostio ar 05/09/2023