Cyn bo hir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dechrau proses ymgynghori gyhoeddus ar y potensial i ymestyn a/neu ddiwygio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) mewn perthynas ag alcohol sydd ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.
Bwriad y Gorchymyn yw cyfrannu at sicrhau bod canol ein trefi a'n cymunedau ehangach yn lleoedd cyfeillgar a chroesawgar.
Ym mis Hydref 2018, cyflwynodd y Cyngor y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn ymgais i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth megis ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda Heddlu De Cymru ac asiantaethau cymorth eraill dros y CHWE blynedd diwethaf i orfodi hyn a mynd i'r afael ag yfed ar y stryd yn Rhondda Cynon Taf.
Ym mhayr hoffech chi gwblhau'r arolwg hwn?
Cafodd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, a gyflwynwyd am gyfnod cychwynnol o dair blynedd yn 2018, ei ymestyn yn 2021. Roedd hyn o ganlyniad uniongyrchol i adborth yr ymgynghoriad, y data diweddaraf yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol yn 2021, a chynnwys tair ardal arall ym mharth Pontypridd.
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol yn neilltuo ardal gyfan Rhondda Cynon Taf yn Barth Yfed a Reolir i roi pwerau i Swyddogion Awdurdodedig i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae modd felly i Swyddogion Awdurdodedig fynnu bod person yn ildio'r alcohol sydd yn ei feddiant, a rhoi'r gorau i yfed os ydyn nhw'n achosi, neu'n debygol o achosi, ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y gosb uchaf am beidio â chydymffurfio yw £100.
Os bydd rhywun yn cael ei ganfod yn yfed alcohol yn y 2 ‘Barth Dim Alcohol Dynodedig' yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd, mae gan Swyddogion y pwerau i gymryd caniau/poteli alcohol sydd wedi'u hagor oddi ar berson. Os byddan nhw'n gwrthod ildio'r alcohol, byddan nhw'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Bydd unigolion sydd wedi cael eu rhybuddio ac sy'n parhau i yfed yng nghanol y dref yn wynebu camau gorfodi pellach, gan gynnwys Hysbysiad Gwarchod y Gymuned a fydd yn eu gwahardd o ganol y dref.
Mae 'parth dim alcohol' Aberdâr yn cynnwys canol y dref, safle Sobell a'i gaeau chwarae (yr Ynys), Gorsaf Drenau Aberdâr a Maes Parcio Pwll Glo'r Gadlys. Mae'r parth ym Mhontypridd yn cynnwys canol y dref, Parc Coffa Ynysangharad, yr orsaf drenau a'r orsaf fysiau. Mae'r parthau yma hefyd yn berthnasol i'r defnydd o sylweddau meddwol, nid dim ond alcohol.
Mae ffigurau diweddar yn dangos bod Canol Trefi Pontypridd ac Aberdâr yn parhau i brofi cyfraddau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol, hyd yn oed yn ystod cyfnod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol. Mae hyn yn awgrymu bod angen i'r Gorchymyn barhau i fod ar waith ar hyn o bryd. Mae'n bwysig nodi hefyd fod mwyafrif helaeth yr unigolion a ddaeth i gysylltiad â swyddog awdurdodedig dros y CHWE blynedd diwethaf wedi cydymffurfio â’r cais i roi’r gorau i yfed.
Caiff y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol ei orfodi ar y cyd gan y Cyngor a Heddlu De Cymru.
O dan amodau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, rhaid i’r Cyngor adolygu ac ystyried y gorchymyn bob tair blynedd, er mwyn sicrhau bod y rheolau yn parhau i ddiwallu anghenion y cyhoedd. O ganlyniad, bydd y Cyngor unwaith yn rhagor yn ceisio barn trigolion ar ba mor llwyddiannus y mae'r mesurau yma wedi bod ac a ddylen nhw barhau i fod ar waith.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Gwener 21 Mehefin ac yn para am 6 wythnos, gan ddod i ben ddydd Gwener 2 Awst.
Ym mhayr hoffech chi gwblhau'r arolwg hwn?
Mae modd i drigolion sy'n dymuno cymryd rhan wneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Mae modd dod o hyd i'r manylion llawn yn www.rctcbc.gov.uk/ymgynghoriadaupresennol
Mae’r ymateb gan y cyhoedd i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sydd wedi bod ar waith ers CHWE blynedd, wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Bwrw golwg ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2021
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/ymgynghoriadaupresennol
Wedi ei bostio ar 21/06/2024