Skip to main content

Rhybudd tywydd ar gyfer glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn ystod Storm Bert

Yellow warning graphic CYM

Ar hyn o bryd (prynhawn Gwener), mae rhybudd tywydd melyn mewn grym ar gyfer Storm Bert o 6am ddydd Sadwrn 23 Tachwedd tan 6am ddydd Sul 24 Tachwedd.

Mae'n seiliedig ar ragolygon y tywydd sy'n rhagweld glaw trwm a pharhaus a gwyntoedd cryfion, sy'n debygol o achosi aflonyddwch a llifogydd. Rhagwelir rhwng 50 a 75mm o law yn Ne Cymru, gyda photensial o dros 100mm mewn ardaloedd uwch. Mae ardal gyfan Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi'i chynnwys yn y rhybudd.

Pe byddai trigolion yn wynebu unrhyw broblemau dros y penwythnos yn ystod Storm Bert, gan gynnwys llifogydd, dylen nhw ffonio rhif ffôn y Cyngor ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau'r swyddfa, sef 01443 425011. Mae modd rhoi gwybod am lifogydd ar ein gwefan – rhagor o wybodaeth yma.

Mae rhagolygon y tywydd yn newid drwy'r amser ac mae potensial y bydd y rhybudd yn newid i ambr/coch. Mae swyddogion yn parhau i fonitro'r rhybuddion a'r nodiadau gwybodaeth, ynghyd â'n rhagolygon ein hunain sy'n rhoi'r diweddaraf bob awr.

Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Tywydd a Rhybuddion Llifogydd gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ystod y diwrnodau cyn y tywydd garw yma, mae Carfan Draenio Priffyrdd y Cyngor wedi bod yn gwirio asedau â blaenoriaeth a'r rheiny heb flaenoriaeth, gan gynnwys cwlferi. Mae'r gwaith rhagweithiol yma'n nodi rhwystrau a malurion, ac yn eu clirio, er mwyn lleihau perygl llifogydd. Os byddwch chi'n gweld draen neu gwlfer sydd wedi'i rwystro cyn y rhybudd, mae modd i chi roi gwybod i ni er mwyn i'r garfan gynnal gwaith archwilio a chlirio.

Mae'r garfan hefyd yn sicrhau cyflenwad o fagiau tywod y bydd modd eu dosbarthu yn ôl yr angen.

Bydd y garfan yn parhau i fod ar ddyletswydd drwy gydol cyfnod y rhybudd tywydd, gyda'r holl adnoddau wrth gefn sydd ar gael os bydd angen. Bydd swyddogion hefyd yn monitro camerâu byw a data dyfeisiau telemetreg mewn perthynas â lefelau dŵr a glaw.

Cyn cyfnod y rhybudd tywydd, mae nifer o gamau y mae modd i drigolion eu cymryd i baratoi – mae'r rhain i'w gweld yn fanwl ar ein tudalen we bwrpasol Parodrwydd Llifogydd ac Ymwybyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys cyngor pwysig am ddefnyddio offer i amddiffyn cartrefi, paratoi cynllun llifogydd, cofrestru ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd a sut i roi gwybod am lifogydd.

Mae ein hymgyrch ‘Cofiwch eich Cymdogion’ hefyd yn cynnwys cyngor allweddol am roi gwybod am rwystrau mewn draeniau a chwteri, ac yn amlinellu'r camau bach y gall trigolion eu cymryd, er enghraifft, symud dail neu sbwriel sy'n hawdd eu cyrraedd oddi ar wyneb rhwyllau neu ddraeniau ger eu heiddo neu yn eu stryd.

Bydd y Cyngor yn rhoi cyngor a gwybodaeth bwysig ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd – 'CyngorRhCT' ar X a 'Cyngor Rhondda Cynon Taf' ar Facebook.

Wedi ei bostio ar 22/11/24