Skip to main content

Cyhoeddi Enillydd Cystadleuaeth Ail-wisgo'r Wisg

Mae ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi casglu cynifer o wisgoedd ysgol y mae modd rhoi PEDAIR siwmper ysgol i bob disgybl, gydag ychydig dros ben hefyd, pan gyhoeddwyd mai hi oedd pencampwr ailgylchu gwisgoedd ysgol eleni!

Enillodd Ysgol Gynradd Pen-y-waun brif wobr cystadleuaeth Ail-wisgo'r Wisg Cyngor Rhondda Cynon Taf i ysgolion. Casglodd yr ysgol bron i 200 cilogram o wisgoedd ysgol - sy'n cyfateb i 783 o siwmperi ysgol!

Yn ail agos oedd Ysgol Gynradd Bodringallt, gydag Ysgol Gynradd Coedpenmaen yn drydydd.

Roedd yr her, a gafodd ei gosod ym mis Gorffennaf, yn gofyn i'r disgyblion gasglu cynifer o wisgoedd ysgol nad oedd yn cael eu defnyddio â phosibl, a dod â nhw i'w hysgol er mwyn eu hailddefnyddio neu’u hailgylchu. Yna, cafodd yr holl wisgoedd ysgol a gasglwyd eu cyfrif yn unol â nifer y disgyblion yn yr ysgol, er mwyn dod o hyd i'r enillydd.

Cymerodd 25 ysgol ran yn yr her, a chasglwyd dros 2,764 cilogram o wisgoedd ysgol - sy'n cyfateb i 11,056 o siwmperi ysgol!

Derbyniodd y tair ysgol fuddugol y gwobrau ariannol canlynol am eu hymdrechion:

  • Ysgol Gynradd Pen-y-waun yn derbyn £300,
  • Ysgol Gynradd Bodringallt yn derbyn £100,
  • Ysgol Gynradd Coedpenmaen yn derbyn £50.

Derbyniodd y tair ysgol eu gwobrau mewn achlysur arbennig yng Nghanolfan Ymwelwyr Alun Maddox, Bryn Pica yn Llwydcoed. Roedd cyfle i'r disgyblion gymryd rhan mewn sesiwn flasu yn y Ganolfan Addysg lle aethon nhw ati i ddefnyddio'r adnoddau rhyngweithiol a darganfod llawer o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf. Cawson nhw hefyd brofiad o ddidoli deunyddiau i’w hailgylchu drostyn nhw'u hunain yn y Cyfleuster Adfer Deunyddiau Bach.

Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

"Fe wnaethon nhw gasglu swm anhygoel, sef dwywaith y cyfanswm a gasglwyd y llynedd. Mae hynny'n golygu bod dros 2,764 cilogram o wastraff posibl yn cael ei ailddefnyddio neu’i ailgylchu.

"Mae'r disgyblion wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ailgylchu ac yn deall pam mae mor bwysig. Dylai ailgylchu fod yn rhan annatod o'n bywydau bellach. Wrth i le i'n gwastraff ddod yn fwy prin, rhaid i ni wneud pob dim o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n lleihau faint rydyn ni'n cael gwared arno, ac yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu cymaint ag y gallwn ni ar bob cyfle.  Mae'r Cyngor yn cefnogi gwasanaethau amrywiol i helpu trigolion i ailgylchu, gan gynnwys gwasanaeth ailgylchu sych, bwyd a chewynnau bob wythnos wrth ymyl y pafin.

"Gyda'n gilydd gallwn ni wneud gwahaniaeth, fel mae'r disgyblion ysgol yma wedi dangos. Daliwch ati!"

Os ydych chi'n barod i wynebu'r her ailgylchu, mae modd ichi chwarae'r GÊM ar www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu. Cofiwch rannu eich sgoriau uchel gyda ni ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #GemAilgylchuRhCT

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad i'ch ysgol neu grwp cymunedol chi, ewch i www.rctcbc.gov.uk/YmweldBrynPica, e-bostiwch YmweldBrynPica@rctcbc.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.   

Wedi ei bostio ar 14/02/2025