Skip to main content

O Gloddio am Lo i Gloddio Trefol

Ni fu erioed amser gwell i geisio rhoi trefn ar y drôr anhrefnus a didoli eich pentyrrau o geblau trydan diangen/hen! Gallai’r ‘cloddio trefol’ yma ddarparu 30% o’r copr sydd ei angen i ddatgarboneiddio’r grid pŵer erbyn 2030.

I gefnogi 'cloddio trefol', ni allai ailgylchu eich nwyddau trydanol a cheblau bach fod yn haws yn Rhondda Cynon Taf! Ailgylchwch eich eitemau yn unrhyw un o'n Prif Ganolfannau Hamdden neu ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned! 

O hen geblau ffôn i sychwyr gwallt sydd wedi torri – os oes gan y cyfarpar blwg, batri neu gebl ac mae'n llai na thostiwr pedair tafell, mae modd ei ailgylchu wrth i chi ymweld â chanolfan hamdden i nofio, fynd i ddosbarth troelli neu ymweld â champfa!

Mae gan y SAITH prif Ganolfan Hamdden am Oes ledled Rhondda Cynon Taf finiau i chi adael eich eitemau cyn gwneud ymarfer corff – mae'r rhaglen yma'n fuddiol i'r amgylchedd ac i'ch iechyd chi.

Dyma'r canolfannau sy'n cymryd rhan:

  • Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
  • Canolfan Hamdden Llantrisant 
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Canolfan Hamdden Sobell
  • Canolfan Hamdden Tonyrefail  

Bydd y canolfannau yma'n derbyn:

  • Offer ymbincio personol: sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwshys dannedd trydanol ac eillwyr trydanol, ac ati
  • Offer cegin bach: tegellau, tostwyr a blendwyr, ac ati
  • Technoleg: radios, chwaraewyr CDau/DVDau, teganau/gemau electronig, ffonau, llechi trydanol a chamerâu
  • Lampau, tortshis, goleuadau coed Nadolig
  • Ceblau a gwifrau gwefru

Tynnwch unrhyw fatris a'u hailgylchu ar wahân yn eich manwerthwr agosaf sy'n eu derbyn neu Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned.

Fydd y canolfannau ddim yn derbyn:

  • Unrhyw beth sy'n fwy na thostiwr pedair tafell sydd â phlwg, batri neu gebl
  • Sigarennau trydanol o unrhyw fath
  • Offer cegin mawr: platiau poeth, ffrïwyr aer, microdonnau a chrochanau araf.

Canfu astudiaeth ddiweddar gan Recycle Your Electricals y gallai nwyddau trydanol nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio gynnwys gwerth cymaint â £266 miliwn o gopr. Mae hynny’n ddigon i ddarparu 30% o’r copr sydd ei angen ar gyfer trawsnewidiad arfaethedig y DU i grid trydan sydd wedi'i ddatgarboneiddio erbyn 2030.

Dyna lawer o gopr a metelau gwerthfawr eraill y byddai modd eu hailgylchu a'u hailddefnyddio i bweru nwyddau trydanol newydd a thechnolegau'r dyfodol – gan gynnwys ceir trydan!

Dywed arbenigwyr fod y galw am gopr yn fwy na chynhyrchiant – wedi'i yrru'n rhannol gan brosiectau ynni cynaliadwy a cheir trydan – ac mae modd i'r broses gloddio gael canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol dinistriol.

Mae nifer o eitemau trydanol o'r cartref yn cynnwys batris lithiwm ailwefradwy. Mae'r eitemau yma'n beryglus a gallen nhw achosi tân difrifol pe baen nhw'n cael eu rhoi yn eich bagiau gwastraff cyffredinol neu fagiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd. 

Pan gaiff eitemau trydanol eu casglu yn rhan o gasgliad ailgylchu neu wastraff cyffredinol, mae perygl y gallai'r peiriant gwasgu ar y cerbyd casglu greu twll yn y batri, a pheri iddo fod yn ansefydlog. Gallai'r batri neu ddarnau ohono danio yn sgil hyn, gan achosi tân yng nghefn y cerbyd sbwriel, neu'n waeth byth, achosi tân yn y ganolfan ddidoli ailgylchu. Bydd angen delio â'r tân yn ddiogel a gallai hyn oedi casgliadau neu beryglu gweithwyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:  

"Mae hen geblau fel arfer yn cael eu cadw mewn un drôr anhrefnus a dydyn nhw byth yn cael eu gweld eto! Ychwanegwch y rheiny at yr eitemau trydanol bach sydd yng nghefn cwpwrdd neu ar silff garej, ac mae gyda ni lawer o fetel a allai fod yn werthfawr ar gael i'w ailddefnyddio a'i droi'n rhywbeth newydd. Yn Rhondda Cynon Taf, does dim angen i chi aros nes eich bod chi'n mynd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned gan fod modd i chi ollwng yr eitemau yn y bin electroneg yn y Canolfannau Hamdden sy’n cymryd rhan, cyn i chi gadw’n heini neu hyd yn oed os ydych chi’n gyrru heibio!”

“Byddwn ni''n annog trigolion i ddefnyddio’r cyfleusterau i gael gwared ar eu ceblau ac eitemau trydanol bach yn gyfrifol gan fod modd iddyn nhw achosi nifer o faterion peryglus os cânt eu rhoi mewn bagiau gwastraff cyffredinol neu fagiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd”.  

"Mae trigolion Rhondda Cynon Taf bob amser wedi bod yn ailgylchwyr gwych ac rydw i'n siŵr y byddan nhw'n parhau â'u brwydr yn erbyn gwastraff i helpu Rhondda Cynon Taf i gyrraedd ei darged o ailgylchu dros 70% o'i wastraff erbyn 2024/25. Daliwch ati Rhondda Cynon Taf!”

Ewch ag eitemau mwy i un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor ar agor rhwng 8.30am a 6.30pm (yn ystod yr haf) a 8.30am a 4.30pm (yn ystod y gaeaf) ac mae modd ailgylchu eitemau trydanol mwy yno, e.e. peiriannau golchi, meicrodonau, setiau teledu, oergelloedd ac ati. Bydd yr holl gyfleusterau yma'n darparu ar gyfer pob un o'r holl anghenion ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a gaiff eu derbyn i'w chael ar http://www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu

Mae staff pob canolfan yn barod i roi cyngor i drigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu eich Eitemau Trydanol Bychain yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/WEEE

Ydych chi'n ansicr am ba nwyddau mae modd eu hailgylchu? Defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar-lein – www.rctcbc.gov.uk/chwilioailgylchu   

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu? Ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 13/03/2025