Skip to main content

Bydd campfa ac ystafell droelli ar eu newydd wedd yn cael eu creu yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon

26717-s-0000

Bydd campfa ac ystafell droelli ar eu newydd wedd yn cael eu creu yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon, diolch i fuddsoddiad sylweddol gwerth £350,000.

Bydd y gampfa bresennol yn cael ei hailfodelu a'i hehangu, gydag offer newydd yn cael ei osod er budd cwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd.

Bydd y stiwdio droelli yn symud o'r ardal bresennol yn y gampfa – gan greu rhagor o le ar gyfer yr offer newydd – a bydd stiwdio bwrpasol gyda goleuadau modern a rhagor o feiciau yn cael ei chreu mewn ardal arall o'r ganolfan.

Abercynon yw'r ganolfan Hamdden am Oes ddiweddaraf i elwa ar fuddsoddiad parhaus gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn rhan o'i ymrwymiad buddsoddi cyfalaf, Trawsnewid RhCT.

Mae disgwyl i waith ddechrau yn Abercynon ar 14 Tachwedd, pan fydd y gampfa bresennol yn cau a bydd yr holl offer yn symud i'r neuadd chwaraeon fel bod modd i gwsmeriaid barhau i hyfforddi yn ôl yr arfer.

Mae'r offer newydd yn dechrau cyrraedd y diwrnod canlynol a bydd y broses o osod yr offer i bawb ei ddefnyddio yn dechrau. Yn y cyfamser, bydd gwaith yn dechrau ar y stiwdio ffitrwydd y tu ôl i'r dderbynfa, gan drawsnewid y lle'n stiwdio droelli bwrpasol gyda goleuadau modern a chyfanswm o 25 o feiciau.

Mae disgwyl i'r cyfleusterau newydd agor ym mis Ionawr 2026 a byddan nhw'n ychwanegu at arlwy Canolfan Chwaraeon Abercynon, sy'n cynnig mynediad i gwsmeriaid i'r gampfa, y pwll nofio, gwersi nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chyfleusterau chwaraeon dan do, megis badminton a sboncen.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Hamdden: “Dyma newyddion cyffrous ar gyfer Canolfan boblogaidd Chwaraeon Abercynon. Mae gan y ganolfan gwsmeriaid gwych, gyda phobl o bob oedran yn mwynhau'r gampfa, yn ogystal â'r pwll nofio a dosbarthiadau ffitrwydd.

“Rydyn ni'n gwybod bod y staff yn gwneud y ganolfan yn lle gwych, gan gynnig cymorth, anogaeth ac ambell i her i'w cwsmeriaid. Bydd campfa fwy, ar ei newydd wedd, gydag offer newydd, yn ychwanegu at y stori lwyddiant honno.

“Mae'r dosbarthiadau troelli eisoes yn boblogaidd yn Abercynon a bydd modd i gwsmeriaid fwynhau stiwdio bwrpasol gyda goleuadau, beiciau newydd a rhagor o offer ar gael.

“Mae hamdden yn cael sylw allwedddol yn yr ymrwymiad buddsoddi, Trawsnewid RhCT, gan ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd mynediad trigolion at gyfleusterau hamdden a ffitrwydd o ansawdd uchel.

“Mae gyda ni 12 canolfan Hamdden am Oes yn Rhondda Cynon Taf, ac mae modd manteisio ar gyfleusterau pob un ohonyn nhw trwy un aelodaeth hawdd sy'n cynnig sesiynau yn y gampfa, y pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwdd, chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd.

“Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon megis caeau 3G ac ardaloedd gemau aml-ddefnydd, sy'n cynnig mannau aml-chwaraeon, pob tywydd, i bobl eu mwynhau – ac mae cyfleuster o fewn tair milltir i bob cartref.

“Yn ogystal â gwelliannau digidol i helpu cwsmeriaid i ddefnyddio eu haelodaeth hamdden a gweld y dosbarthiadau maen nhw wedi cadw lle arnyn nhw, newyddion a gwybodaeth am y gwasanaeth Hamdden am Oes – mae'n gyfnod gwych i ymuno!”

 

Mae gwasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhedeg Canolfan Chwaraeon Abercynon, Abercynon; Pwll a Champfa Bronwydd, Porth; Pwll Nofio Glynrhedynog; Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen a Phwll Nofio y Ddraenen-wen, Y Ddraenen-wen; Canolfan Hamdden Llantrisant; Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref; Canolfan Ffitrwydd Llys Cadwyn, Pontypridd; Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad; Canolfan Chwaraeon Rhondda Fach, Tylorstown; Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr a Chanolfan Hamdden Tonyrefail. 

Mae aelodaeth Hamdden am Oes yn daliad misol neu flynyddol sy'n cynnig mynediad diderfyn i'r gampfa, y pwll nofio (gan gynnwys gwersi), dosbarthiadau ffitrwydd, cyfleusterau chwaraeon dan do megis badminton a sboncen ac ystafelloedd ffitrwydd yn y 12 canolfan.

Mae'n cynnig aelodaeth ratach i'r rheiny sy'n 60 oed a hŷn, 18 oed ac iau, myfyrwyr llawn amser, cynhalwyr, a phobl sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Mae hefyd yn cynnig aelodaeth ratach i ddeiliaid cerdyn y Lluoedd Arfog a cherdyn Golau Glas.

Mae'r aelodaeth gorfforaethol ar gael i bawb sy'n gweithio i un o'n partneriaid corfforaethol, neu sy'n aelod o un ohonyn nhw, ac i bobl sy'n gweithio yng nghanol tref Pontypridd, Llantrisant neu Donysguboriau, neu sydd â busnes hunangyflogedig yng nghanol y trefi yma. Mae'r opsiynau aelodaeth rhatach yma'n gymhelliad gwych i staff busnesau lleol, ac maen nhw'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithluoedd iachach.

 

 

Wedi ei bostio ar 14/11/2025