Mae Cynllun Prentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi ennill gwobrau ar agor, gan gynnig cyfle i chi ennill cyflog, dysgu a datblygu gyrfa lwyddiannus ym maes llywodraeth leol.
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf hanes cryf o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel, gyda channoedd o brentisiaid yn cael cefnogaeth ers i'r cynllun ddechrau yn 2012. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros 170 o unigolion wedi elwa ar brofiad ymarferol, hyfforddiant a datblygiad drwy'r cynllun.
Mae'r prentisiaethau â thâl, dwy flynedd o hyd, yn darparu llwybr gwerthfawr i gyflogaeth, gan gyfuno profiad ymarferol â chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant. Mae prentisiaid hefyd yn elwa ar fuddion i staff, cefnogaeth bwrpasol a'r cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle.
Mae ystod eang o brentisiaethau ar gael ar draws gwasanaethau'r Cyngor eleni, gan adlewyrchu'r ystod o yrfaoedd sydd ar gael, o beirianneg i gymorth materion busnes, gwasanaethau’r amgylchedd a llawer yn rhagor!
Dyma'r prentisiaethau sydd ar gael ar gyfer 2026:
Prentis - Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd (Cofrestryddion)
Prentis - Gweithiwr Ieuenctid
Prentis - Technegydd Cerbydau
Prentis - Taliadau
Prentis - Syrfëwr Ystadau
Prentis - Seiberddiogelwch
Prentis - Peirianneg Sifil x2
Prentis - Gweithiwr Cymorth Gofal Cymdeithasol y Gwasanaethau i Blant x2
Prentis - Cymorth Materion Busnes y Gwasanaethau i Blant
Prentis - Cymorth Materion Busnes Gwasanaethau’r Amgylchedd
Prentis - Cyfrifeg
Prentis - Gofalwr
Prentis - Cymorth Gwasanaethau Arlwyo
Mae gan y cynllun gyfradd lwyddo ardderchog, gyda'r rhan fwyaf o brentisiaid yn cwblhau eu cymwysterau ac yn symud ymlaen i gyflogaeth neu gyfleoedd dysgu pellach.
Mae Cynllun Prentisiaethau Cyngor RhCT ar gael i unrhyw un 16 oed ac yn hŷn, heb unrhyw derfyn oedran hŷn, gan ei wneud yn llwybr hygyrch i bobl sy'n gadael yr ysgol, y rhai sy'n newid gyrfa a'r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.
Dyma ragor o wybodaeth a’r broses cyflwyno cais.
Ceisiadau yn cau ar 21/05/2026.
Wedi ei bostio ar 16/04/2026