Skip to main content

Gwaith adeiladu a throsglwyddo safle gofal ychwanegol y Porth bellach wedi'i gwblhau

Dan y Mynydd grid

Mae'r Cyngor a Codi Group wrth eu boddau’n cyhoeddi bod gwaith adeiladu'r datblygiad gofal ychwanegol newydd yn y Porth bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r datblygiad wedi'i drosglwyddo i ofal y Cyngor. Mae hyn yn cynrychioli carreg filltir bwysig tuag at y safle’n croesawu ei breswylwyr cyntaf ym mis Awst.

Mae'r datblygiad newydd trawiadol yma, sydd wedi'i adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Dan-y-mynydd, wedi adfywio'r safle ac mae bellach yn darparu tai o'r radd flaenaf a fydd yn cefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol. Bydd preswylwyr yn byw yn eu fflatiau eu hunain a byddan nhw’n rhydd i fynd a dod. Bydd staff yn bresennol i roi gofal wedi'i drefnu a chymorth mewn sefyllfaoedd brys. Dyma'r pedwerydd datblygiad gofal ychwanegol i agor yn Rhondda Cynon Taf. Dyma'r safleoedd eraill: Tŷ Heulog (Tonysguboriau), Maes-y-ffynnon (Aberaman) a Chwrt yr Orsaf (Graig).

Mae'r datblygiad o'r radd flaenaf yn cynnwys 60 o fflatiau hunangynhwysol a chyfleusterau modern, gan gynnwys ardal fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan gofal oriau dydd sy'n cael ei rheoli gan y Cyngor, ystafell sba, golchdy, ystafell westeion a swyddfeydd. Y tu allan, mae gardd gymunedol i drigolion ei mwynhau, ac mae digon o leoedd parcio i ymwelwyr

Trosglwyddwyd yr adeilad i ofal y Cyngor gan gontractwr y prosiect, Intelle Construction, yn yr wythnos yn dechrau ddydd Llun, 20 Gorffennaf. Bydd Radis Community Care yn darparu'r holl ofal a chymorth ar y safle pan fydd y cyfleuster yn barod i groesawu ei breswylwyr parhaol cyntaf ym mis Awst 2026. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig am sut i fynegi diddordeb i fod yn denant yn y datblygiad newydd.

Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi mewn llety gofal preswyl modern sy’n diwallu anghenion cymunedau. Mae'r llety arbenigol yn y Gelli bron wedi'i gwblhau. Hefyd, mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad cymysg yn Aberpennar ac mae prosiectau eraill wedi'u cynllunio ar gyfer Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we #TrawsnewidRhCT.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd bod y Cyngor a Codi Group wedi cwblhau’r datblygiad gofal ychwanegol yn y Porth ac wedi trosglwyddo'r adeilad i ofal y Cyngor wrth i ni baratoi i groesawu ein preswylwyr cyntaf. Hoffwn i ddiolch i'n contractwr, Intelle, am ei ymroddiad wrth gyflawni'r datblygiad modern yma, sydd wedi sicrhau bod safle'r hen gartref gofal preswyl yn cael ei ailddefnyddio, ac sydd wedi creu datblygiad o'r radd flaenaf rydyn ni i gyd yn gallu bod yn falch ohono.

“Ers blynyddoedd lawer mae partneriaeth y Cyngor gyda Codi Group (Linc Cymru yn flaenorol), wedi gwireddu ymrwymiad i foderneiddio’r opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi darparu datblygiadau gofal ychwanegol o'r radd flaenaf yn Aberaman, yn y Graig a nawr yn y Porth, ochr yn ochr â datblygiad gofal ychwanegol Tonysguboriau, sydd wedi bod ar agor ers 2016. Mae'r safleoedd yma'n parhau i fod yn ganolfannau cymunedol poblogaidd, gan gefnogi pobl hŷn gyda'u hanghenion gofal, a hefyd gyda chyfeillgarwch a chysylltiad. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau modern sy'n diwallu anghenion newidiol ein cymunedau.

“Ar ôl ymweld â safle’r Porth sawl gwaith yn ystod y cam adeiladu, rydw i wedi’i weld yn cael ei drawsnewid yn llety o’r radd flaenaf. Mae llety gofal arbenigol yn y Gelli hefyd bron wedi’i gwblhau, tra bod gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gofal cymysg yn Aberpennar, gan ddod â gofal ychwanegol, gofal dementia a llety ’Byw'n Hŷn’ at ei gilydd ar un safle. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yng Nglynrhedynog a Phentre'r Eglwys hefyd yn cael eu dylunio a'u datblygu.

“Bydd y Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda Codi Group a Radis Community Care tuag at y garreg filltir fawr nesaf ar gyfer datblygiad y Porth – sef croesawu’r preswylwyr parhaol cyntaf ym mis Awst. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am y cynnydd. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r trigolion lleol hynny sy’n byw gerllaw’r datblygiad am eu hamynedd a’u cydweithrediad parhaus drwy gydol y gwaith o adeiladu’r adeilad cymunedol newydd yma.”

Meddai Gary Hortop, Pennaeth Byw’n Hŷn yn Codi Group:"Mae cyrraedd y garreg filltir yma'n rhywbeth y gall pawb a oedd yn rhan o’r datblygiad fod yn falch ohono. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi creu llawer mwy nag adeilad yn unig – rydyn ni wedi creu man lle mae modd i bobl fwynhau annibyniaeth cael eu cartref eu hunain, gyda'r sicrwydd bod gofal a chymorth yno pan fydd angen. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r trigolion cyntaf a gweld y safle yn dod yn rhan ffyniannus o'r gymuned leol."

Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y Cyngor mewn gofal preswyl a gofal ychwanegol ar ein tudalen we bwrpasol #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 24/07/2026