Yr wythnos yma, mae'r Cyngor yn dechrau cynllun i gwblhau cyfres o atgyweiriadau glan yr afon i atal yr hen domen lo ger Maes Parcio Pwll Glo'r Gadlys yn Aberdâr rhag erydu, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ran o'r Afon Dâr sydd wedi'i lleoli'n gyffredinol i gyfeiriad y de o'r maes parcio, a'r adeilad sydd i'w weld yn y llun - i fynd i'r afael â'r difrod sydd wedi'i achosi gan erydiad.
Mae'r Cyngor wedi penodi EDS yn gontractwr i gwblhau'r cynllun. Dechreuodd y gwaith i sefydlu'r safle yn ystod yr wythnos diwethaf (yn dechrau 20 Gorffennaf) a bydd y prif gynllun yn dechrau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 27 Gorffennaf.
Bydd y contractwr yn defnyddio rhan o Faes Parcio Pwll Glo'r Gadlys yn safle ar gyfer y peiriannau/offer - fydd dim modd i'r cyhoedd ddefnyddio'r rhan yma o'r maes parcio dros dro. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr, gan gynnwys y bont droed i'r maes parcio.
Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd yn y traffig adeiladu sy'n teithio i'r safle trwy Dai Dâr yn ystod oriau gwaith, rhwng 8am a 5pm. Disgwylir rhywfaint o aflonyddwch sŵn ar brydiau o ganlyniad i offer a pheiriannau adeiladu ar y safle.
Mae'r cynllun, a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod yr hydref 2026, wedi derbyn cyllid drwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau £13.7 miliwn o'r grant yma er mwyn parhau ag ymchwiliadau, gwaith cynnal a chadw, a gwaith ar draws hen safleoedd tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf eleni.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 28/07/2026