Bydd y Cyngor yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw arferol yn nhomen Cefnpennar yn fuan, a bydd gweithwyr yn cael mynediad i'r safle o yfory.
Yn gynharach eleni, yn sgil cynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, cafodd llwybrau mynediad presennol y safle eu huwchraddio. Roedd hyn wedi sicrhau bod modd cwblhau gwaith cynnal a chadw yn haws yn y dyfodol.
Mae cyllid ychwanegol bellach wedi'i sicrhau trwy’r Grant Diogelwch Tomenni Glo yn 2026/27 i gynnal y gwaith sydd ar ddod, a fydd yn dechrau o ddydd Mawrth 16 Mehefin.
Bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn cynnal pythefnos o waith, a fydd yn cynnwys clirio llystyfiant, yn rhan o'r gwaith cynnal a chadw systemau draenio o amgylch sianeli a chwlferi. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod modd cyrraedd rhai ardaloedd ychwanegol o'r safle yn haws ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.
Bydd rheoli cynefinoedd yn ystyriaeth allweddol o waith ar y safle, er mwyn gwella bioamrywiaeth drwy gynnal coridorau cynefinoedd agored ar draws y safle.
Bydd y contractwr yn cyrraedd y safle gan ddefnyddio'r man mynediad sydd wedi'i sefydlu yng Nghwmpennar, i'r dwyrain o Heol Penrhiw. Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd yn nifer y cerbydau adeiladu yn ystod y dydd. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn disgwyl llawer o darfu ar gymunedau lleol. Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o sŵn o ganlyniad i'r gwaith ar y safle.
Mae'r Cyngor wedi derbyn £13.7 miliwn trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru yn 2026/27, gan alluogi'n Carfan Diogelwch Tomenni i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf eleni – wrth hefyd ddatblygu prosiectau diogelwch tomenni mwy. Mae hyn yn dilyn £11.49 miliwn a gafodd ei ddyrannu trwy'r grant y llynedd.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad yn ystod y cynllun sydd ar y gweill yng Nghefnpennar.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 15/06/2026