Skip to main content

Achlysur Picnic yn y Parc Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dod â chymunedau ynghyd

Picnic-in-the-Park-Thumbnail-500x500 small

Dyma wahodd trigolion i ymuno â ni ar gyfer achlysur Picnic yn y Parc ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 20 Mehefin. Dyma achlysur sy’n addas i deuluoedd!

Mae'r achlysur rhwng 12pm a 4pm yn y safle seindorf, gan ddechrau gyda seremoni codi baner am 12pm, gan gynnig cyfle i'r gymuned ddod ynghyd a myfyrio wrth i'r diwrnod ddechrau.

Mae’r Picnic yn y Parc, sydd wedi’i leoli yn nghanol Pontypridd, yn ffordd hamddenol a theuluol o ddangos gwerthfawrogiad i'n personél Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydyn ni'n annog ymwelwyr i ddod â phicnic, dod o hyd i le ger y safle seindorf a mwynhau prynhawn gwych o adloniant byw, gweithgareddau a dathlu!

Bydd perfformiadau byw yn digwydd drwy gydol y dydd gan amrywiaeth o berfformwyr lleol talentog, gan gynnwys:

  • DB Big Band
  • Côr Merched Taf-elái
  • David Watkins, canwr

Bydd digon o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd drwy gydol y prynhawn hefyd. O wal ddringo a gemau gardd enfawr i weithgareddau bwrdd ac ogof ar drelar i’w archwilio, mae yna rywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau! Bydd gardd gwrw a faniau bwyd ar gael ar y safle hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor a'r Gymraeg: “Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n falch o gefnogi ein cymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, ac o chwarae ein rhan wrth hyrwyddo eu hiechyd, lles a llwyddiant parhaus.

A minnau'n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rydw i'n edrych ymlaen at achlysur Picnic yn y Parc arall ar ôl llwyddiant achlysuron blaenorol, gan gynnwys dathliadau Diwrnod VE y llynedd. Rydw i'n siŵr y bydd achlysur eleni'n ddiwrnod gwych arall i bawb ddod ynghyd, dathlu a myfyrio.”

Mae croeso i bawb gymryd rhan yn yr achlysur cymunedol arbennig yma!

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog RhCT

Mae achlysur Picnic yn y Parc Diwrnod y Lluoedd Arfog yn tynnu sylw at ysbryd cymunedol cryf Pontypridd ac yn cynnig lle croesawgar i gofio, gwerthfawrogi a dathlu cyfraniad y Lluoedd Arfog.

Dysgwch ragor am ein rhestr lawn o achlysuron ar gyfer 2026 yma.

Dilynwch @besymlaenrhct ar Facebook a Instagram am ragor o wybodaeth ac achlysuron sydd i ddod!

Wedi ei bostio ar 11/05/2026