Skip to main content

Y newyddion diweddaraf am gynnydd gwaith lliniaru llifogydd yn Aberaman

Aberaman site

Diolch i drigolion Aberaman am ddod i'n hachlysur cyhoeddus diweddar i ddysgu rhagor am y gwaith lliniaru llifogydd sy'n mynd rhagddo yn Heol Caerdydd a Lôn Maesyffynnon.

Roedd tua 25 o bobl wedi galw heibio i Ganolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr i siarad â swyddogion a'r contractwr am y cynllun a fydd yn cynyddu capasiti'r rhwydwaith draenio lleol yn sylweddol dros y flwyddyn nesaf.

Er gwybodaeth i drigolion, mae tudalen we bwrpasol ar gyfer y cynllun yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd, a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi unwaith y bydd wedi'i chwblhau.

Bydd y cynllun, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys creu ardal gyda phwll i storio dŵr glaw, yn ogystal â gosod seilwaith draenio newydd. Bydd hyn yn diogelu 56 o eiddo. Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein heitem newyddion flaenorol.

Ers i'r gwaith ar y cynllun ddechrau ym mis Gorffennaf 2026, mae'r contractwr, sef Centregreat Ltd, wedi gwneud cynnydd cyson. Mae'r brif sianel ddraenio wedi'i gosod i raddau helaeth ac mae adeiladu'r pwll arafu ar y gweill. Mae gwaith trin Clymog Japan hefyd yn parhau, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi.

Diolch i'r gymuned am barhau i gydweithio â ni wrth i'r cynllun lleol pwysig yma gael ei gyflawni.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 04/09/2026