Skip to main content

Gŵyl Banc y Pasg – gwybodaeth bwysig am wasanaethau'r Cyngor

Cyn gwyliau banc, gwyliau'r Nadolig, neu os bydd tywydd garw, byddwn ni’n ymdrechu i ddiweddaru'r dudalen hon gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd gwasanaethau'r Cyngor, ffyrdd ac ysgolion ar gau.

Am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar Twitter a Facebook.

Oriau Agor Gŵyl Banc y Pasg 2024

Bydd y Cyngor ar gau o 5pm ddydd Iau 28 Mawrth ac yn agor am 9am ddydd Mawrth 2 Ebrill – mae hyn yn berthnasol i BOB gwasanaeth mawr heblaw am argyfyngau y tu allan i oriau. Rhoddir manylion y gwasanaethau sydd ar gael a'u horiau agor isod.

Gallwch barhau i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn, ond atgoffir trigolion efallai na fydd y cais yn cael ei brosesu nes bod swyddfeydd yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024.

Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng.

Biniau ac Ailgylchu

DOES DIM NEWIDIADAU i'ch casgliadau Ailgylchu a Gwastraff dros Ŵyl Banc y Pasg. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod arferol.

Mae’r Canolfannau Ailgylchu Cymunedol (CRCs) ar agor drwy gydol gŵyl y banc yn barod i dderbyn eich holl Ŵy-staff i’w ailgylchu– yr oriau agor yw 8am tan 6.30pm (oriau agor yr haf). Gallwch weld manylion llawn am y Canolfannau ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu.

Ewch i'r tudalennau ailgylchu am wybodaeth ailgylchu gyffredinol, gan gynnwys dod o hyd i'm diwrnod casglu  a'r canllaw ailgylchu A-Z.

Gofal Cymdeithasol

Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o’r garfan Gofal Cymdeithasol dros gyfnod y Pasg defnyddiwch y rhifau canlynol:

• Argyfyngau Gofal Cymdeithasol y tu allan i oriau’r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, ffoniwch: 01443 743665.

I bobl sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros benwythnos gŵyl banc y Pasg, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt y maen nhw wedi'i darparu.

Prydau Cymunedol (Pryd ar Glud)

Bydd y gwasanaeth yn cefnogi ei ddefnyddwyr dros gyfnod y Pasg ac mae opsiynau bwydlen wedi'u trafod gyda defnyddwyr gwasanaeth i'w harchebu ymlaen llaw lle bo angen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau hyn.

Digartrefedd

Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan.

Mae gwasanaeth brys y tu allan i oriau hefyd ar gael drwy gydol cyfnod y Pasg drwy ffonio 01443 425011.

Cofrestryddion

Bydd y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau’r Cyngor, Pontypridd AR GAU o 4pm ddydd Iau 28 Mawrth ac yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 2 Ebrill.

Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaeth.

Bydd y brif swyddfa (Glyn-taf) AR GAU ddydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ddydd Mawrth 2 Ebrill.

Ar hyn o bryd does dim newidiadau ar gyfer Mynwentydd dros gyfnod gŵyl y banc.

Gweld oriau agor Mynwentydd.

Weithiau mae amgylchiadau eithriadol pan fydd yn rhaid i ni gau'r mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.

Os oes angen cau mynwent i gerbydau, rhoddir rhybudd ar gatiau'r Fynwent yn cynghori'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny mae gatiau'r Fynwent yn cael eu hagor i gerbydau.

Gall cerddwyr gael mynediad i’r mynwentydd pan fyddant ar gau i gerbydau ond bydden ni’n annog pobl i fod yn ofalus wrth ymweld â’n mynwentydd mewn tywydd garw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau priodol i osgoi cwympo ac anafiadau.

Cyfleusterau Cyhoeddus

• Dydd Gwener y Groglith - AR AGOR

• Dydd Sadwrn – AR AGOR

• Dydd Sul – AR GAU

• Dydd Llun y Pasg – AR GAU

Mae manylion llawn a lleoliadau’r cyfleusterau hyn i’w gweld yma –  Toiledau Cyhoeddus.

Canolfannau Hamdden

Ewch i'r wefan Hamdden neu dilynwch @RCTLeisureService ar Facebook am fanylion oriau agor eich canolfan leol.

Profiad Pyllau Glo Cymru (AWCME)

Ewch i wefan WME neu dilynwch @RhonddaHeritage  ar Twitter neu @RhonddaHeritagePark  ar Facebook am fanylion digwyddiadau ac oriau agor.

Lido Cenedlaethol Cymru - Lido Ponty

Ewch i wefan Lido Ponty neu dilynwch @LidoPonty ar Twitter a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.

Llyfrgelloedd

Bydd llyfrgelloedd ar GAU ddydd Gwener 29 Mawrth tan ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024.

Gweld manylion gweithgareddau Hanner Tymor y Pasg Gwasanaethau Llyfrgell sy'n llawn dop.

Gweld manylion gwasanaethau'r Llyfrgell.

Gwasanaeth Cyngor i Bawb

Bydd swyddfeydd One4all ar gau o 4pm ddydd Iau 28 Mawrth ac yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 2 Ebrill.

Trefnwch apwyntiad ar ôl cyfnod Gŵyl y Banc yma.

Parc Gwledig Cwm Dâr

Ceir manylion llawn am y cyfleuster hwn yma - Parc Gwledig Cwm Dâr.

Theatrau

Ewch i wefan Theatrau RhCT neu dilynwch @RCTtheatres ar Twitter a @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.

Gwybodaeth am Ysgolion a Chludiant Ysgol

Mae pob ysgol ar gau ar gyfer Gwyliau’r Pasg o ddydd Llun, 25 Mawrth 2024 i ddydd Gwener, 5 Ebrill, 2024.

Defnyddiwch y dolenni isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau tymhorau, diwrnodau HMS, cludiant ysgol a chau ysgolion ac ati.

Gweld rhagor o wybodaeth am ddyddiadau tymhorau ysgol, diwrnodau HMS a chau mewn argyfwng.

Gweld rhagor o wybodaeth am lwybrau cludiant ysgol a newidiadau brys i'r gwasanaeth.

Cau Ffyrdd

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ffyrdd sydd ar Gau ewch i'r tudalennau hyn –

Cau Ffyrdd

Cludiant Cyhoeddus

Fe’ch cynghorir hefyd i gysylltu â’r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ynghylch yr amhariad ar wasanaethau yn ystod cyfnod gŵyl y banc ac yn ystod tywydd garw.

Traveline Cymru

Trafnidiaeth Cymru

Stagecoach

Cysylltu â’r Cyngor mewn Argyfwng:

Mae modd i drigolion gysylltu â'r Cyngor gyda mater brys ar 01443 425011 yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc a thu allan i oriau’r swyddfa/tywydd garw, sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Wedi ei bostio ar 28/03/24