Cyn bo hir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dechrau proses ymgynghori gyhoeddus, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cabinet, ar ba fesurau yr hoffai trigolion eu gweld ar waith i barhau i fynd i'r afael â materion baw cŵn ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ym mis Hydref 2017, Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, a hynny drwy roi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar waith. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y rheolau yma eu hymestyn am dair blynedd arall yn 2020 gan fod trigolion yn teimlo bod y gorchymyn wedi gwella glendid y strydoedd ac wedi cynyddu gorfodaeth yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol.
O dan amodau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, rhaid i’r Cyngor adolygu ac ystyried y gorchymyn bob tair blynedd, er mwyn sicrhau bod y rheolau yn parhau i ddiwallu anghenion y cyhoedd. O ganlyniad, bydd y Cyngor unwaith yn rhagor yn ceisio barn trigolion ar ba mor llwyddiannus y maen nhw'n teimlo y mae'r mesurau llymach yma wedi bod ac a ddylen nhw barhau i fod ar waith.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun 10 Gorffennaf ac yn para 6 wythnos, gan ddod i ben ddydd Gwener 21 Awst.
Mae modd i drigolion sy'n dymuno cymryd rhan wneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Mae modd dod o hyd i'r manylion llawn yn www.rctcbc.gov.uk/ymgynghoriadaupresennol
Mae’r ymateb gan y cyhoedd i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sydd wedi bod ar waith ers CHWE blynedd, wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda dros 90% o’r ymatebwyr yn 2020 yn cytuno i ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.
Mae adolygiad a gafodd ei gyhoeddi gan 'Cadwch Gymru'n Daclus', 'Dadansoddiad o Ansawdd Amgylcheddol Lleol yn Rhondda Cynon Taf 2022-23', yn dangos bod baw cŵn wedi aros yn gyson (ar 10.9%) o'i gymharu â’r cyfnod y cafodd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ei ymestyn ddiwethaf yn 2020. Er bod hyn wedi cynyddu ychydig ers 2021-22 o 8.9%, roedd y ffigur diweddaraf (10.9%) yn dal i fod 10% yn is na’r cyfnod cyn i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus gael ei gyflwyno (18%) yn 2017. Mae hyn yn dangos bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi arwain at leihad sylweddol yn faint o faw cŵn sydd ar strydoedd Rhondda Cynon Taf dros y chwe blynedd diwethaf, ond mae hefyd yn amlygu ei fod yn parhau i fod yn fater allweddol y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol yn seiliedig ar y rheolau canlynol:
- RHAID i berchenogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas
- RHAID i berchnogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared ar y baw ar bob adeg
- Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn
- Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cynnal a’u cadw gan y Cyngor
- RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.
Gweler Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2020
Fe wnaeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus hefyd gyflwyno dirwy uwch o £100 y mae modd i Swyddogion Gorfodi ei ddosbarthu.
Cafodd gorchymyn arall, sy'n unigryw i Barc Aberdâr, hefyd ei gyflwyno ar 1 Hydref 2017, ac mae'n cynnwys y rheol ychwanegol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn ar bob adeg yn y parc.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:"Mae ein caeau chwaraeon a'n hardaloedd chwarae yn bwysig yn ein cymunedau a chânt eu defnyddio gan bobl o bob oed drwy'r dydd a'r nos. Mae'r Rheolau Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sydd ar waith ers 2017 wedi ein helpu ni i gadw'r ardaloedd hynny yn ddiogel i bawb eu defnyddio.
“Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi sicrhau ein bod wedi gweld gostyngiad amlwg mewn baw cŵn ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond mae’r Cyngor yn dal i dderbyn cwynion ynghylch baw cŵn ar y strydoedd ac ar gaeau chwaraeon, sydd nid yn unig yn hyll, ond mae modd iddo gael effaith difrifol ar iechyd. Byddwn i'n gofyn i breswylwyr feddwl a gweithredu er mwyn sicrhau ein bod ni'n cadw'r ardaloedd yma'n lân."
"Rwy'n effro i'r ffaith bod baw cŵn yn broblem allweddol i drigolion, a byddwn i'n eu hannog nhw i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma. Rydyn ni am ddeall pa fesurau rheoli cŵn yr hoffai trigolion eu cael yn Rhondda Cynon Taf fel ein bod yn parhau i gefnogi perchnogion cŵn cyfrifol a mynd i’r afael â’r materion gyda’n gilydd, gan adeiladu ar y llwyddiant hyd yn hyn a chael cynllun clir ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”
Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i drigolion roi gwybod am unrhyw broblemau sydd gyda nhw'n ymwneud â baw cŵn trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn, fel bod modd i ni eu cefnogi nhw a chydweithio er diogelwch ein cymuned.
Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/CiAmDro
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/ymgynghoriadaupresennol
Wedi ei bostio ar 11/07/2023