Diolch yn fawr i holl drigolion Rhondda Cynon Taf a'r carfanau ailgylchu a gwastraff ymroddgar am eu holl ymdrechion yr wythnos hon.
Daeth y drefn casgliadau tair wythnos newydd i rym ledled y Fwrdeistref Sirol yr wythnos hon ac mae trigolion yr ardal a'r carfanau casglu wedi gwneud gwaith gwych.
Bydd mwy na dau draean o gynghorau Cymru yn defnyddio system debyg erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae gwastraff mae modd ei ailgylchu gan gynnwys gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau yn dal i gael ei gasglu'n wythnosol heb gyfyngiad ar nifer y bagiau, ond mae bagiau du a biniau olwyn bellach yn cael eu casglu unwaith bob tair wythnos. Mae modd gweld eich dyddiau casglu ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/DiwrnodCasglu.
Mae'r rheolau newydd yma yn golygu:
- Caiff cartrefi â bin ar olwynion 240l (mawr) roi'r bin allan i'w gasglu, gyda'r caead ar gau. Fydd dim bagiau du ychwanegol yn cael eu casglu.
- Caiff cartrefi â bin ar olwynion 120l (bach) roi'r bin allan i'w gasglu, ynghyd ag un bag du safonol (dim mwy na 70l) ar ben y bin neu wrth ei ymyl.
- Caiff cartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70l) allan i'w casglu bob tair wythnos.
Mae'r carfanau a staff Gofal y Strydoedd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y newidiadau dros yr wythnosau diwethaf ac wedi darparu llwythi o gadis gwastraff bwys, sachau gwastraff gwyrdd a bagiau porffor i gartrefi preswylwyr fel bod modd i bawb ailgylchu i'r eithaf! Mae gan bob man casglu ddigonedd o fagiau gwastraff bwyd a bagiau clir ac mae modd dod o hyd i'ch man casglu agosaf trwy edrych ar www.rctcbc.gov.uk/bagiau.
Mae'r gwaith caled yn parhau ac mae miloedd o breswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaethau ailgylchu am ddim sydd ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol – o wastraff bwyd, i wastraff gwyrdd a'r cynllun bagiau porffor! Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Mae'r carfanau'n gweithio'n ddi-baid i ateb y galw a bydd yr holl offer ailgylchu yn cael eu darparu cyn gynted â phosibl.
Wrth i ni gyd ymgyfarwyddo â'r newidiadau, cofiwch fod y carfanau casglu hefyd yn dal i ddod i'r arfer â'r drefn newydd ac yn dysgu llwybrau newydd, pwy sydd angen rhagor o gymorth, ble mae'r biniau a rhagor. Byddwch yn garedig â nhw wrth i ni geisio cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Hoffwn i ddiolch i'n holl staff Gofal y Strydoedd sydd wedi gwneud gwaith gwych yr wythnos hon – rydyn ni wedi gwneud cynnydd arbennig dros y ddegawd ddiwethaf o ran ailgylchu ac mae hynny o ganlyniad i waith ein preswylwyr a staff ymroddedig.
"Hoffwn i bwysleisio y byddwn ni'n parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu llawn BOB WYTHNOS. Os ydych chi eisoes yn ailgylchu, sy'n wir am dri ym mhob pedwar person yn Rhondda Cynon Taf, mae'r newidiadau yma'n annhebygol o wneud gwahaniaeth mawr i'ch cartref chi ond byddan nhw'n golygu ein bod ni'n osgoi dirwyon yn y dyfodol, yn sicrhau ein bod ni'n bodloni'r targedau gyda'n gilydd, yn diogelu gwasanaethau hanfodol, ac yn cyrraedd y nod i ddod yn 'sero net' erbyn 2030.
"Rydyn ni wedi ystyried pob ffactor a byddwn ni'n parhau i wneud addasiadau bach dros yr wythnosau nesaf pan fo angen er mwyn sicrhau bod y system newydd yn deg i bawb. Rwy'n falch o weld bod y rhan helaeth o'n preswylwyr yn cefnogi'r newid ac yn dod at ei gilydd gydag ein carfanau i WELLA ein hymdrechion ailgylchu – bydd y newidiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud i’n harferion nawr yn sicrhau ein bod ni’n osgoi dirwyon sylweddol ac yn diogelu byd mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol – fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud hyn!"
Dyma atgoffa preswylwyr bod rhaid sicrhau bod gwastraff bwyd yn y bagiau gwyrdd/cadi cywir a bod rhaid rhoi cewynnau yn y bagiau porffor perthnasol (os yw hynny'n berthnasol i chi) a bod gwastraff gwyrdd mewn sachau gwyrdd. Dylai'r holl ddeunyddiau ailgylchu glân a sych gael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu CLIR.
Mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 8am hyd at 7.30pm (oriau agor yr haf). Yn ystod cyfnodau prysur, mae'n bosibl bydd rhaid aros wrth i sgipiau gael eu newid ac ati. Mae'r holl gyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer pob un o'r holl anghenion ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a dderbynnir i'w chael ar www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu
Am ragor o wybodaeth ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchuneu i weld eich dyddiau casglu ailgylchu a bagiau du ewch i www.rctcbc.gov.uk/DiwrnodCasglu.
Wedi ei bostio ar 13/07/23