Skip to main content

Cyngor yn cyflwyno 4 Grant Cymorth i Fusnesau

Cyngor yn cyflwyno 4 Grant Cymorth i Fusnesau

Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i gefnogi busnesau lleol a chanol ein trefi, mae'r Cyngor wedi cyflwyno 4 rhaglen grant newydd gan fanteisio ar Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Y rhaglenni grant newydd yw:

Grant Twf Busnesau (BGG)

Diben y grant yma yw cefnogi busnesau lleol cynaliadwy i gael eu sefydlu, i dyfu neu ddod yn fwy amrywiol gan gyfrannu at economi leol gryfach sy’n ferw o brysurdeb.

Rhagor o wybodaeth yma

Grant Cynnal Canol Trefi

Dyma estyniad o'r cynlluniau blaenorol a gyflwynwyd yn llwyddiannus fel rhan o ymrwymiad y weinyddiaeth yn ystod tymor diwethaf y Cyngor.  Mae'r grant wedi'i sicrhau trwy denu rhagor o arian.  Bydd y Grant Cynnal Canol Trefi yn darparu cymorth ar gyfer mân welliannau a gwaith cynnal a chadw a fydd yn gwella edrychiad allanol eiddo canol trefi. 

Rhagor o wybodaeth yma

Grant Gwella Masnachol

Mae'r grant ar gyfer gwelliannau ar raddfa fawr (allanol yn bennaf) i adeiladau masnachol a sicrhau bod effeithlonrwydd ynni yn ganolog i'r cynllun.

Rhagor o wybodaeth yma

Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr

Mae'r grant hwn ar gyfer targedu adeiladau sydd â lle/gofod gwag yng nghanol trefi allweddol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Rhagor o wybodaeth yma

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Rwy’n falch o gadarnhau bod y Cyngor bellach wedi lansio pedwar cynllun grant newydd diolch i gyllid sydd wedi’i sicrhau drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU, ac hefyd Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru.

Mae defnyddio'r cyllid yma ar gyfer y dibenion yma yn ategu ymrwymiad parhaus y Cyngor i gefnogi busnesau, datblygu'r economi leol, adfywio canol trefi ac annog buddsoddi sector preifat ar y stryd fawr.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld nifer o brosiectau strategol yn cael eu cyflawni yng nghanol ein trefi dros y blynyddoedd diwethaf, a’r bwriad yw y gall y cynlluniau cymorth grant hyn adeiladu ar y sylfeini hynny ac hybu menter a datblygiad pellach.”

Wedi ei bostio ar 23/05/2023