Oeddech chi'n gwybod bod modd ichi ddysgu sut i nofio - neu ddatblygu eich hyder yn y dŵr - beth bynnag yw eich oed chi?
Bydd Canolfan Hamdden Tonyrefail yn cynnal gwersi nofio i oedolion ar nosweithiau Llun. Ymunwch â ni ar gyfer ein rhaglen 10 wythnos!
Bydd y sesiynau'n cael eu harwain gan aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi, ac yn cael eu darparu er mwyn diwallu anghenion unigol cwsmeriaid. Efallai dydych chi erioed wedi dysgu sut i nofio ac rydych chi wedi penderfynu mai nawr yw'r amser i wneud hynny.
Neu efallai dydych chi ddim wedi bod yn y dŵr ers sbel ac rydych chi eisiau datblygu eich hyder a sgiliau.
Mae'r gwersi'n ffordd wych o ddysgu mewn amgylchedd cyfeillgar a hamddenol.
Os ydych chi'n gwsmer Hamdden am Oes yn barod, mae'r gwersi’n rhad ac am ddim. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi ymuno â'r cynllun Hamdden am Oes eto, mae modd ichi dalu am y gwersi mewn un taliad neu fesul mis - neu ymaelodwch â'r cynllun Hamdden am Oes.
Ffi aelodaeth Hamdden am Oes yw £37.50 y mis, neu £23.50 i unigolion sydd o dan 18 oed / dros 60 oed / neu sy'n derbyn budd-daliadau cymwys.
Wedi ei bostio ar 13/10/2023