Yr wythnos ailgylchu yma (16-22 Hydref) rydyn ni'n gofyn i drigolion ymuno â'r ymgyrch genedlaethol 'YR HELFA AILGYLCHU FAWR' ac ymgyrch Cymru yn Ailgylchu – 'BYDD WYCH, AILGYLCHA' er budd Rhondda Cynon Taf!
Mae'r ddwy ymgyrch yn ceisio gwneud i ni ystyried yr eitemau y mae modd i ni eu hailgylchu a'r eitemau y dylen ni fod yn eu hailgylchu. Mae'r ymgyrch genedlaethol yn bwrw golwg ar yr eitemau rydyn ni'n eu heithrio neu’n anghofio amdanyn nhw'n aml iawn y mae modd i ni eu hailgylchu – boed yn ganiau aerosol neu boteli siampŵ, mae'r eitemau yma'n aml iawn yn cael eu taflu'n anghywir i'r sach ddu!
Mae ymgyrch Cymru yn Ailgylchu'n bwrw golwg yn benodol ar wastraff bwyd – sydd yn eitem arall sy'n cael ei thaflu'n llawer yn rhy aml i'r bin gwastraff! Tynnodd dadansoddiad diweddar o fagiau du ymyl y ffordd gan WRAP o Rondda Cynon Taf sylw at y ffaith bod ein gwastraff bagiau du yn y sir yn cynnwys 39% o eitemau gwastraff bwyd a allai fod wedi cael eu hailgylchu! Mae hyn yn llawer uwch na ffigwr "Cymru gyfan", sydd yn 25%!
Rydyn ni'n ailgylchwyr GWYCH yng Nghymru ac y TRYDYDD gorau yn y byd!
Rydyn ni'n cymryd camau MAWR yn Rhondda Cynon Taf er mwyn ailgylchu a lliniaru effaith newid hinsawdd. Ym mis Gorffennaf eleni, newidiodd y Cyngor ei gasgliadau bagiau du a bin ar olwynion i rai bob tair wythnos er mwyn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau allyriadau carbon! Hyd yn hyn, mae cyfraddau cynnar gwastraff bwyd a gwastraff deunyddiau sych yn awgrymu bod y cyfraddau'n cynyddu a bod gwastraff bagiau du ar y cyfan yn lleihau – sy'n golygu bod ein trigolion ni'n mynd i'r afael â her 'CYNYDDU ein Cyfraddau Ailgylchu' er mwyn i ni 'Fwrw'r TARGED!' Os ydyn ni oll yn parhau â'n hymdrechion MAWR bydd Rhondda Cynon Taf yn ailgylchwyr heb eu hail!
Cyflwynodd y Cyngor sachau gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021 ac mae hyn wedi helpu'r Cyngor i leihau ei ddefnydd o blastig o dair miliwn o fagiau clir bob blwyddyn. Mae'r newidiadau yma i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd a'r newidiadau arfaethedig i wasanaeth trefnu Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor. Maen nhw hefyd yn dod â ni'n nes at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.
Mae halogiadau'n rhwystr mawr i ailgylchu – gall hyn arwain at ymdrechion MAWR ein trigolion yn mynd yn ofer!
Cafodd 11,483.92 tunnell o wastraff bwyd ei gasglu rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.
OND roedd 419.25 tunnell wedi'i halogi ac o ganlyniad wedi gorfod cael ei daflu. Dyna bron i 4% yn fwy o wastraff bwyd a fyddai wedi gallu cael ei ailgylchu!
Y newyddion da ydy bod digon o ynni wedi'i gasglu o'r gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu i bweru tua 1100 o aelwydydd!
Cafodd dros 56,534.28 tunnell o ddeunydd ailgylchu SYCH ei ailgylchu rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 gan drigolion Rhondda Cynon Taf.
Y newyddion drwg yw bod dros 3439.40 tunnell yn ychwanegol wedi gorfod cael ei daflu o ganlyniad i’r ffaith ei fod wedi'i halogi – gwastraff ymdrech ailgylchu.
Mae modd osgoi hyn drwy olchi eitemau yn y dŵr golchi llestri sydd gyda chi'n weddill.
Gall yr un tun yna, gydag ychydig o weddillion bwyd, achosi bag cyfan o eitemau i beidio â chael ei ailgylchu – neu gallai hyd yn oed ddifetha lori lawn o eitemau. Mae'n bwysig iawn gwybod beth, ble a sut i ailgylchu eitemau'r cartref. Drwy lwc, mae gan Rondda Cynon Taf adnodd chwilio A-Y sydd ar gael o fore gwyn tan nos i drigolion ei ddefnyddio – www.rctcbc.gov.uk/Chwilioamailgylchu!
Efallai na fydd modd ailgylchu rhai eitemau o ymyl y ffordd, ond mae opsiynau eraill...
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned – Mae CHWE Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 7.30pm (oriau agor yr haf). Mae pob canolfan yn derbyn nifer fawr o eitemau, o blastigau caled i bridd, pren a dyfeisiau trydanol sydd wedi torri. Mae modd gweld y manylion llawn yma: www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu
Ailgylchu Eitemau Trydanol Bychain – (WEEE) mewn Canolfannau Hamdden – Mae gyda SAITH prif ganolfan hamdden Hamdden am Oes ledled Rhondda Cynon Taf bellach finiau penodol yn eu derbynfeydd i chi adael eich eitemau WEEE bychain (unrhyw beth sy'n llai na thostiwr pedair tafell) ynddyn nhw cyn i chi gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden – bydd eich ffitrwydd a'r amgylchedd yn elwa. Rhagor o wybodaeth – www.rctcbc.gov.uk/WEEE.
Siopau Ail-ddefnyddio – Mae tair siop ailddefnyddio bwrpasol o’r enw ‘Y Sied’ ar draws y Fwrdeistref Sirol, gydag un ym mhob ardal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r siopau yma’n derbyn rhoddion er mwyn sicrhau bod eich eitemau diangen chi yn mynd i gartref newydd. Maen nhw hefyd ar agor i chi fynd yno i gael bargen a gwneud eich rhan chi ar gyfer yr amgylchedd, gan wneud trysorau ar gael i bawb! O deganau i fyrddau a chadeiriau, mae gan ‘Y Sied’ rywbeth at ddant pawb! Mae modd gweld y manylion llawn yma: www.rctcbc.gov.uk/YSied.
Siopau Atgyweirio – Mae’r Cyngor yn cefnogi nifer o achlysuron atgyweirio dros dro lleol ac mae’n bwriadu datblygu ardal reolaidd yn y cyfleuster ‘Y Sied’ newydd yn Stryd y Canon, Aberdâr.
Archfarchnadoedd – Mae nifer o archfarchnadoedd lleol yn cynnig cynlluniau ailgylchu bagiau siopa/plastig meddal (e.e. bagiau bara) a hyd yn oed pecynnau creision, ynghyd ag ailgylchu batris. Edrychwch allan am y cynlluniau yma yn eich archfarchnad leol y tro nesaf y byddwch chi'n siopa.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Hoffwn ddiolch i drigolion Rhondda Cynon Taf am eu hymdrechion ailgylchu ARBENNIG, maen nhw wedi bod yn wych. Os ydyn ni'n parhau yn yr un modd, byddwn ni'n cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ymhell cyn 2024/25 – da iawn Rhondda Cynon Taf!
“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb – gyda system bagiau clir hawdd ar gyfer eitemau sych. Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned o fewn ychydig o filltiroedd o bob preswylydd ac maen nhw ar agor bob diwrnod o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc.
“Rhaid i ni barhau i fod yn falch o'n hymdrechion ailgylchu ni, ond mae cymaint yn rhagor mae modd i ni ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a hoffen nhw wneud Cymru a Rhondda Cynon Taf yn llefydd glanach a gwyrddach. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bod Cymru'n cipio'r fedal aur am ailgylchu ac ein bod ni'n amddiffyn ein planed gan ailgylchu'r pethau cywir a lleihau halogiad, bob tro.”
Yn ystod wythnos ailgylchu, bydd y Cyngor yn rhannu ffeithiau dyddiol ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol ar sut y gallwch chi WELLA eich ymdrechion ailgylchu er budd Rhondda Cynon Taf!
Dilynwch @CyngorRhCT ar Facebook a Twitter.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd drwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 16/10/23