Skip to main content

Wythnos Democratiaeth Leol RhCT ― Cymunedau Lleol: Rhoi Gwytnwch Democrataidd ar y Blaen

Cafodd Wythnos Democratiaeth Leol eleni ei gynnal rhwng 9 a 15 Hydref ac mae Wythnos Democratiaeth Leol Ewrop yn cael ei chynnal yn flynyddol yn ystod wythnos 15 Hydref. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn unol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Awdurdodau Lleol eraill, yn nodi'r achlysur drwy dynnu sylw at y broses wleidyddol yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae Wythnos Democratiaeth Leol yn digwydd ar lefel genedlaethol a lleol a’i nod yw annog y cyhoedd – yn enwedig grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol megis pobl ifainc, lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl – i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Dros yr wythnos nesaf, bydd y Cyngor yn dangos sut mae modd i'r gymuned leol gymryd rhan gyda democratiaeth, ac yn rhoi gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i addysgu unigolion ynglŷn â pham mae democratiaeth yn bwysig.

Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, mae democratiaeth leol yn rhoi i bob person y 'cyfle cyfartal i ddylanwadu ar newid… gan sicrhau bod polisïau a gwasanaethau lleol yn adlewyrchu anghenion a dewisiadau cymunedau lleol.' Thema Wythnos Democratiaeth Leol eleni yw Cymunedau Lleol: Rhoi Gwytnwch Democrataidd ar y Blaen. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar weithredu lleol i annog y cyhoedd i ymgysylltu â democratiaeth leol a chryfhau'r broses ddemocrataidd.

Meddai'r Cynghorydd  Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydyn ni'n annog ein trigolion yn gryf i ymwneud â democratiaeth leol.

“Ar gyfer Wythnos Democratiaeth Leol eleni, mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar roi gwybodaeth i’r gymuned ac addysgu unigolion ar yr hyn y mae democratiaeth yn ei olygu, sut mae’n effeithio arnyn nhw, a sut mae modd iddyn nhw gymryd rhan trwy ddweud eu dweud. Rydyn ni'n annog pobl iau, lleiafrifoedd ethnig, a'r rhai ag anableddau yn arbennig i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, gan fod y grwpiau hyn fel arfer heb gynrychioliaeth ddigonol.

“Trwy gydweithio â’n trigolion ac ymgysylltu â’r gymuned, mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gatalog nodedig o gyflawniadau a bydd yn parhau i annog pobl i gyfrannu at ein gwasanaethau. Gyda’n gilydd, mae modd i ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol a sicrhau dyfodol gwell i bawb.”

Mae democratiaeth yn agwedd bwysig ym mywydau pawb ac yn ganolog i gymdeithas. P’un a ydych chi'n sylweddoli hynny ai peidio, mae democratiaeth yn llywio’r ffordd rydych chi'n byw drwy rymuso cymunedau i gael llais a dylanwadu ar wasanaethau lleol. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu dros 800 o wasanaethau i'w drigolion. Mae’r rhain yn cynnwys gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, iechyd y cyhoedd, addysg, casglu biniau, a hyd yn oed cofrestru genedigaethau, marwolaethau, a phriodasau, a llawer yn rhagor. Mae llywodraeth leol yn elfen hanfodol o unrhyw gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd W Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd: "Mae democratiaeth o fewn Llywodraeth Leol mor bwysig. Yn y Cyngor, rydyn ni wastad wedi croesawu llais ein trigolion a'n busnesau lleol. 

"Yr wythnos yma, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd y mae modd i unigolion gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, a sut y mae modd i gyfranogiad lleol lunio'r dyfodol.

"A ninnau'n Gyngor, drwy'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd rydyn ni wedi mynd ati'n rhagweithiol i fwrw ymlaen â gwaith mewn perthynas ag Amrywiaeth mewn Democratiaeth. O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu 'Datganiad Amrywiaeth' sy'n dangos Cyngor Rhondda Cynon Taf i fod yn Gyngor Amrywiol, safbwynt sy'n cael ei annog gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mhob un o gynghorau Cymru.

"Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, rydw i'n erfyn ar bobl i ymgysylltu â democratiaeth leol. Helpwch ni i ddod yn Gyngor mwy cynhwysol trwy gynrychioli anghenion eich cymuned leol."

Sut mae'r Cyngor yn gweithio?

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei ffurfio yn 1996, gan uno cyn ardaloedd Morgannwg Ganol, sef Cwm Rhondda, Cwm Cynon, a Thaf Elái. Dyma'r trydydd Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru. Mae'r Cyngor yn cynnwys 75 o Gynghorwyr etholedig sy'n cynrychioli trigolion o 46 ward.

Swyddogaeth Cynghorydd yw sicrhau bod buddiannau unigolion yn eu ward yn cael eu clywed, a gweithredu fel cynrychiolydd gwleidyddol a llefarydd ar gyfer yr ardal honno. Mae Cynghorwyr yn ymgysylltu ag etholwyr trwy amrywiol ddulliau, megis cymorthfeydd agored, cerdded yn y gymuned a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol, i sicrhau bod trigolion yn cael y cyfle i’w llais gael ei glywed.

Mae modd i chi ddod o hyd i fanylion eich Cynghorydd lleol yma

Yn rhan o nod y Cyngor i hybu democratiaeth leol, mae’r Cyngor wedi creu fideo o Aelodau etholedig yn sôn am ddemocratiaeth, beth mae’n ei olygu iddyn nhw, a pham ei fod yn bwysig.  

Mae gan y Cyngor hefyd Gabinet (neu'r Pwyllgor Gweithredol) sy'n cynnwys 9 Aelod Gweithredol (Cynghorwyr) sy'n gyfrifol am lunio polisïau a gwneud penderfyniadau allweddol ar y ffordd y mae'r Cyngor yn gwasanaethu ei drigolion. Yn yr un modd, mae gan Lywodraeth Ganolog y DU a Llywodraeth Cymru Gabinet. Ochr yn ochr â'r cyfarfod llawn o'r Cyngor (lle mae pob un o'r 75 Aelod yn eistedd gyda'i gilydd) mae gyda nhw gyfrifoldeb dros wasanaethau lleol y Cyngor.

Mae Cabinet RhCT yn cynnwys Arweinydd, Dirprwy Arweinydd, a 6 Aelod arall. Mae gan bob un ei bortffolio ei hun yn ymdrin â phob un o’r meysydd canlynol o swyddogaethau’r Cyngor:

  • Isadeiledd a Buddsoddi
  • Busnes y Cyngor
  • Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Yr Amgylchedd a Hamdden
  • Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg
  • Materion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol
  • Datblygu a Ffyniant.

Penodir Arweinydd y Cyngor yng nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.  Yn y cyfarfod yma bydd yr Arweinydd yn rhoi gwybod am benodiad gweddill eu Cabinet.

Mae modd i chi ddod o hyd i fanylion aelodau'r Cabinet yma

Sut mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau pwysig?

Mae'r Cabinet, Cynghorwyr lleol ac aelodau o Uwch Arweinwyr y Cyngor yn cydweithio i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch gwasanaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf. Bob mis, caiff sawl pwyllgor a chyfarfod pwysig eu cynnal lle mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu trafod a'u cymeradwyo neu eu gwrthod.

Mae modd i chi ddod o hyd i fanylion am gyfarfodydd y Cyngor yma

Mae Pwyllgorau Craffu yn chwarae rhan allweddol yn y prosesau gwneud penderfyniadau drwy weithredu fel 'ffrindiau beirniadol' sy'n craffu ac yn herio'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Cabinet a swyddogion o garfan Uwch Arweinwyr y Cyngor. Mae'r pwyllgorau hyn yn cynnwys Aelodau Etholedig anweithredol ac Aelodau Cyfetholedig. Mae gan y Cyngor 4 Pwyllgor Craffu allweddol, sef:

  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
  • Addysg a Chynhwysiant 
  • Gwasanaethau Cymuned
  • Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant

Mae modd i chi ddod o hyd i fanylion am y Pwyllgorau Craffu yma

Sut mae Cynghorwyr yn cael eu hethol?

Caiff Cynghorwyr eu hethol gan drigolion eu wardiau penodol yn ystod etholiadau lleol i gynrychioli barn y gymuned. Bydd pob Cynghorydd yn cynnal ymgyrch etholiadol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddan nhw'n mynd allan i'r gymuned ac yn cysylltu â thrigolion i ennill cefnogaeth ar gyfer y swydd. Mae hefyd yn ofynnol i Gynghorwyr ddatgan a ydyn nhw'n annibynnol neu'n rhan o blaid wleidyddol. Fel arfer byddan nhw'n amlinellu'r addewidion maen nhw'n gobeithio eu cyflawni yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Ym mhob etholiad Llywodraeth Leol, caiff Cynghorwyr eu hethol am dymor o 5 mlynedd. Mae modd ail-ethol Cynghorwyr am dymhorau olynol ac felly mae modd iddyn nhw ddal swydd am fwy na 5 mlynedd.

Mae’r system yma o ddemocratiaeth yn sicrhau mai'r bobl sy'n penderfynu ar y Cynghorwyr, a hefyd yn annog amrywiaeth a chynwysoldeb drwy ystyried barn trigolion.

Mae defnyddio eich hawl i bleidleisio a/neu ddod yn Gynghorydd yn ffyrdd gwych o ddod yn rhan weithredol o’r broses ddemocrataidd. I ddod yn Gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Yn 18 oed o leiaf neu'n hŷn
  • Yn Ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, neu'n ddinesydd tramor cymwys
  • Yn bodloni set o feini prawf ynghylch byw a gweithio yn ardal yr awdurdod lleol rydych chi wedi'ch enwebu ar ei chyfer.

Mae modd i chi ddysgu rhagor am ddod yn Gynghorydd yma

Fis diwethaf, aeth y Gwasanaethau Democrataidd i Ffair Swyddi Cyngor Rhondda Cynon Taf a’i Phartneriaid 2023 yn Llyfrgell Pontypridd i hyrwyddo cyfleoedd i bleidleisio a swyddogaethau Cynghorydd. Y nod oedd estyn allan i ddinasyddion sydd fel arfer yn anodd eu cyrraedd a hyrwyddo gwybodaeth am ddemocratiaeth leol. Roedd y ffair yn cynnwys awr dawel i unigolion ag anghenion ychwanegol gan annog cynhwysiant a sicrhau bod cynulleidfa ehangach yn cael ei gyrraedd. 

 Sut mae modd i chi ddweud eich dweud?

Y ffordd hawsaf a phwysicaf mae modd i chi ddweud eich dweud a chymryd rhan mewn democratiaeth yw trwy gofrestru i bleidleisio. Mae cofrestru'n cymryd llai na phum munud ac mae modd i chi wneud hyn yn gyfan gwbl ar-lein, neu'n ysgrifenedig. Bydd angen i chi nodi'ch enw, cyfeiriad, rhif yswiriant gwladol a'ch dyddiad geni.

Mae modd i chi gofrestru i bleidleisio unwaith i chi droi'n 14 oed yng Nghymru, ond chewch chi ddim pleidleisio mewn etholiadau Cyngor lleol a'r Senedd nes i chi droi'n 16 oed. Ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DU, rhaid i chi fod yn 18 oed i bleidleisio.

Wyddoch chi...

  • Os ydych chi'n fyfyriwr ac yn treulio amser mewn dau gyfeiriad gwahanol, mae modd i chi gofrestru i bleidleisio A phleidleisio yn y ddau gyfeiriad.
  • Does dim angen i chi bleidleisio yn bersonol bob amser - mae modd i chi wneud cais am bleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy.
  • Gall bod ar y gofrestr etholiadol wella'ch sgôr credyd, sy'n hanfodol wrth wneud cais am gontractau ffôn, cyllid car, morgeisi, a rhagor!

I gofrestru, ac am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Does dim angen i chi ddod â phrawf adnabod wrth bleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd yng Nghymru.

Fodd bynnag, o fis Mai 2023, mae llywodraeth y DU wedi gorchymyn bod yn rhaid ichi ddangos prawf adnabod ffotograffig wrth bleidleisio mewn etholiadau seneddol cyffredinol ac etholiadau lleol yn Lloegr. Mae modd i chi ddod o hyd i fanylion ffurfiau derbyniol o brawf adnabod yma: https://www.gov.uk/sut-i-bleidleisio/prawf-adnabod-ffotograffig-angenrheidiol

Os ydych chi'n fyfyriwr, mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) wedi ymuno â CitizenCard i gynnig prawf adnabod pleidleisiwr AM DDIM i fyfyrwyr. Dysgwch ragor yma: https://www.nus.org.uk/photo-id

Ffyrdd eraill o gymryd rhan

Mae yna hefyd sawl ffordd arall mae modd i chi gymryd rhan yn eich proses ddemocrataidd leol, gan gynnwys:

  • Mynd i Gyfarfodydd – Mae holl gyfarfodydd y Cabinet, y Cyngor a chyfarfodydd craffu ar agor i’r cyhoedd, yn ogystal â nifer o gyfarfodydd Pwyllgorau eraill fel y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Mae'r Cyngor yn gweithredu ffordd hybrid o weithio er mwyn caniatáu hyblygrwydd i Aelodau Etholedig a siaradwyr cyhoeddus ymuno â chyfarfodydd, naill ai drwy fynd i Siambr y Cyngor neu drwy ymuno'n rhithwir trwy blatfform rhithwir. Mae'r cyfarfodydd hyn bellach yn cael eu ffrydio'n fyw, ac mae cofnodion a hysbysiadau o benderfyniadau ar gael i'w gweld yn dilyn y cyfarfodydd ar wefan y Cyngor, gan ddarparu cofnod o'r penderfyniadau a wnaed.
  • Craffu – Mae'r broses Graffu yn caniatáu i Aelodau etholedig ystyried y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu a herio penderfyniadau allweddol a wnaed. Mae'r rhain hefyd yn gyfleoedd i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud. 
  • Cwestiynau gan y Cyhoedd – Os ydych chi'n byw neu’n gweithio yn y Fwrdeistref Sirol mae modd i chi wneud cais i siarad mewn cyfarfodydd a phwyllgorau ar eitemau ar yr agenda rydych chi'n angerddol yn eu cylch. Mae manylion am sut i gymryd rhan i'w gweld ar ein gwefan a thrwy ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, a fydd yn cael ei drafod gan y Cyngor ym mis Hydref.
  • Ymgynghoriadau Cyhoeddus ‒ Mae’r Cyngor yn cynnal sawl ymgynghoriad cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn sy’n gwahodd aelodau’r cyhoedd i ddweud eu dweud ar ddyrannu a blaenoriaethu adnoddau. Mae gwybodaeth am ymgynghoriadau a gafodd eu cynnal yn y gorffennol ac ymgynghoriadau presennol ar gael yma.
  • Ymunwch â Phanel y Dinasyddion ‒ Mae Panel y Dinasyddion yn cynnwys grŵp o drigolion sy'n rhoi gwybod i'r Cyngor am anghenion, safbwyntiau, profiadau a disgwyliadau'r gymuned. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolion gymryd rhan yn y gwaith o lunio gwasanaethau'r Cyngor a chymryd rhan mewn democratiaeth leol. Mae modd i chi ymuno yma.
  • Deisebau – Mae modd i unigolion, grwpiau cymunedol, a sefydliadau gymryd rhan mewn democratiaeth drwy ddeisebu. Mae deisebau fel arfer yn codi materion sy'n peri pryder i'r cyhoedd i Aelodau etholedig ond mae modd iddyn nhw hefyd gael eu cyflwyno gan Gynghorydd ar ran eu ward. Rhaid i ddeisebau fodloni set o feini prawf er mwyn cael eu hystyried. Bydd y Cyngor yn trafod datblygiadau pellach i'r meini prawf ar gyfer deisebau yn ei gyfarfod ym mis Hydref er mwyn caniatáu i farn y bobl gael ei bwysleisio ymhellach mewn deisebau posibl i'w trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Gyfranogiad y Cyhoedd yma

Mae gan y Cyngor Fforwm Ieuenctid hefyd, sy'n cael ei gynnal gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS). Mae'n cynnig mynediad i bobl ifainc RhCT i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM. Mae'r rhain yn agored ac ar gael i bobl rhwng 11 a 25 oed ac yn helpu i annog pobl ifainc i ddod yn rhan o bethau yn eu cymuned.

I gael gwybod rhagor, ewch i wefan WICID.tv neu cysylltwch â nhw naill ai drwy ffonio 01443 281436, neu drwy e-bostio GYCI@rctcbc.gov.uk

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu grant ar gyfer 'addysg ddemocrataidd' i gydweithwyr yn Innovate Trust, yn rhan o Grant Ymgysylltu â Democratiaeth y Llywodraeth. Mae Innovate Trust yn elusen sy’n rhoi cymorth i unigolion ag anawsterau dysgu, eu teuluoedd, a’u cynhalwyr, i’w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.

Yn rhan o'r grant, mae Innovate Trust wedi lansio prosiect blwyddyn o hyd o'r enw 'Your Vote Matters'. Nod yw prosiect yw annog unigolion i gymryd rhan mewn democratiaeth leol trwy ddarparu gweithdai ymwybyddiaeth wleidyddol. Mae'r prosiect yn ceisio annog pobl ag anableddau dysgu i gofrestru a phleidleisio mewn etholiadau lleol a chenedlaethol a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Mae’r prosiect yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, megis beth yw democratiaeth, sut i gofrestru a phleidleisio, beth mae llywodraeth leol yn ei olygu, hawliau pleidleisio unigolion, gwneud penderfyniadau annibynnol, a pham mae democratiaeth yn bwysig.  Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gydag Innovate Trust ar y pwnc pwysig yma ac i ni fel Cyngor hefyd gael dysgu sut mae modd i ni ymgysylltu'n well a hyrwyddo democratiaeth i bawb er mwyn sicrhau ein bod ni'n adeiladu democratiaeth amrywiol ar gyfer y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth ewch i'w gwefan: https://innovate-trust.org.uk/services/voting-and-learning-disabilities-your-vote-matters/

Wedi ei bostio ar 16/10/2023