Yn ifanc ei chalon, mae Marjorie Morgan yn dal i ymweld â'i Chanolfan Chwaraeon leol yng Nghwm Rhondda dair gwaith yr wythnos – yn 91 oed!
Wrth i'r ganolfan yn Ystrad baratoi i nodi ei phen-blwydd yn 50 oed, mae Marjorie yn cofio'r diwrnod agorodd y ganolfan a pha mor gyffrous oedd hi i gael cyfleuster lleol i'w fwynhau.
Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae Marjorie wedi gwneud defnydd llawn o'i haelodaeth Hamdden am Oes gynhwysol, gan fwynhau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a'r gampfa yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda.
Ar un adeg, roedd hi yn y ganolfan bob dydd o'r wythnos, yn mwynhau ioga, ymarferion cylch, nofio yn y pwll ac amser yn y gampfa.
Hyd yn oed nawr, ar ôl hanner canrif fel cwsmer rheolaidd, mae hi'n dal i fynd i'r gampfa dair gwaith yr wythnos, gyda'i mab, Tim, yn mynd â hi i'w hymarferion arferol, sy'n cynnwys y peiriant trawsymarfer, cerdded ei chamau ac yna ail dro ar y peiriant trawsymarfer!
Meddai'r Fam-gu i ddau, sy'n byw yn Nhonypandy gyda'i gwr Lewis: "Rwy'n dwlu ar fy amser yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda ac yn treulio ychydig o oriau yn y gampfa dair gwaith yr wythnos. Rwy'n cofio pan agorodd y ganolfan. Roeddwn i eisoes yn hoff o chwaraeon a rhedeg ac wedyn roedd gyda ni ganolfan enfawr gyda phwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a'r gampfa. Roeddwn i mor gyffrous. Roedd yn rhywbeth newydd!
Mae gen i drefn yno ac mae'n fy helpu i fynd allan o'r tŷ, cadw'n brysur a chadw'n heini. Rwy'n credu bod gofalu am eich hun yn gwneud pethau'n haws wrth heneiddio, ac yn eich galluogi i aros mor heini a symudadwy â phosib.
“Mae’r cwsmeriaid eraill a’r staff i gyd mor gyfeillgar, mae’n amgylchedd braf iawn i fod ynddo. Mae cymaint o offer yn y gampfa. Dim ond ychydig o offer rydw i'n eu defnyddio nawr ar gyfer fy ymarfer corff ond roedd amser lle'r oeddwn i'n defnyddio'r cyfan!
“Rwy'n cofio pan agorodd y ganolfan, roeddwn i’n arfer cerdded yno bob dydd am ddosbarth ffitrwydd neu nofio a’r gampfa.”
Mae Marjorie wedi mwynhau chwaraeon a chadw'n heini erioed. Fel plentyn yn Ysgol Uwchradd Fodern Llwyncelyn, cafodd ei hannog gan athrawon i ddatblygu ei sgiliau rhedeg, ac felly dyna wnaeth hi, am y rhan fwyaf o'i haddysg.
Gweithiodd Marjorie drwy gydol ei hoes yn y ffreutur yng Ngholeg Cwm Rhondda yn Llwynypia (bellach yn un o gampysau Coleg y Cymoedd) ac arferai redeg pedair milltir ar y trac yno bob bore cyn y gwaith – yn ddi-ffael!
Yn dilyn ei hymddeoliad 30 mlynedd yn ôl, roedd hi eisiau aros yn heini ac yn iach felly parhaodd â'i haelodaeth Hamdden am Oes a'i harferion ffitrwydd.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden am Oes: “Mae Marjorie yn esiampl i ni i gyd. Yn fenyw 91 oed, ifanc iawn ei chalon, sydd, rwy'n siŵr, yn ysbrydoliaeth i'r rhai ifainc yn y gampfa!
“Mae pob trigolyn 60 oed a throsodd yn gymwys i gael aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol ledled ein 12 canolfan, fel y gallan nhw nofio, dysgu nofio, mynychu dosbarth ffitrwydd, mynd i'r gampfa neu fwynhau chwaraeon dan do fel badminton neu denis bwrdd am bris gostyngol.
“Mae'r gostyngiad yma ar ben cynlluniau atgyfeirio arbenigol rydyn ni hefyd yn eu cynnal i helpu’r rhai sy’n gwella o salwch neu anaf gyda gweithgarwch corfforol ysgafn a phenodol mewn canolfannau Hamdden am Oes.
“O’r babanod sydd ond ychydig wythnosau oed, sy’n mwynhau eu sesiynau cyntaf yn y pwll nofio, i drigolion naw degawd yn hŷn na nhw – sy’n dal i ymweld â’r gampfa’n rheolaidd – mae canolfannau Hamdden am Oes yn fwy na champfeydd.
“Maen nhw’n cynnig lle i bob un ohonon ni wrth i ni wneud bod yn iachach a chadw'n heini'n rhan hirdymor o’n ffordd o fyw. Mae rhywbeth at ddant pawb, o bob oedran, diddordeb a gallu ac, fel mae ein holl gwsmeriaid yn ei ddweud, mae ein canolfannau Hamdden am Oes yn lleoedd gwych i fod, gyda chwsmeriaid cyfeillgar a staff cefnogol!”
Mae aelodaeth Hamdden am Oes yn cynnig mynediad diderfyn i'r gampfa, nofio (gan gynnwys gwersi), dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do ledled pob un o 12 canolfan Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf. Dyma nhw.
Mae'n cynnig aelodaeth gonsesiynol (pris gostyngedig) ar gyfer:
- Pobl 60 oed ac yn hŷn
- Pobl ifainc 18 oed a llai
- Myfyrwyr amser llawn
- Cynhalwyr cofrestredig
- Pobl sy'n derbyn budd-daliadau cymwys.
Gweler mwy am aelodaeth ostyngol yma
Mae hefyd yn cynnig aelodaethau pris gostyngedig i'r rhai sydd â chardiau Golau Glas neu'r Lluoedd Arfog.
Yn ogystal â chynllun Aelodaeth Gorfforaethol sy'n cynnwys busnesau, sefydliadau a chlybiau chwaraeon lleol. Os ydych chi'n gweithio i Bartner Corfforaethol, neu'n aelod ohono, mae modd i chi ac un person arall gael aelodaeth am bris gostyngol.
Yn ddiweddar, cafodd y cynllun Aelodaeth Gorfforaethol ei ehangu i gynllun Aelodaeth Canol Tref ar gyfer Pontypridd a Llantrisant/Tonysguboriau, sy'n agored i unrhyw un sy'n gweithio i unrhyw fusnes yn y trefi yna (gan gynnwys y rhai hunangyflogedig y mae eu busnesau wedi'u cofrestru yno).
Mae modd gweld y rhestr o Bartneriaid Corfforaethol a rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.
Wedi ei bostio ar 15/12/2025