Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd gwyrddach i bob un o'i drigolion yn rhan o'i ymgyrch ailgylchu dros y Nadolig, sy'n annog pawb i ailddefnyddio, ailwampio, ailgylchu ac ailgynhesu neu fwyta cymaint o eitemau bwyd dros ben neu ddefnyddio eitemau na chaiff eu defnyddio â phosibl.

Enw'r ymgyrch yw "Yr amser gorau i Ail....." sy'n sefyll am – Ailddefnyddio, Ailwampio, Ailgylchu ac Ailgynhesu a’r gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth am ailddefnyddio, ailwampio neu ail-roi eitemau, ailgylchu popeth y mae modd i ni ei ailgylchu a lleihau gwastraff bwyd yn ystod y Nadolig; y cwbl er mwyn codi calonnau a sicrhau blwyddyn newydd gwyrddach i ni i gyd!
Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod o lawenydd, undod, anrhegion (gyda llawer o ddeunydd pacio) a bwyd blasus. Serch hynny, mae'n aml yn arwain at gynnydd mewn gwastraff, o bapur lapio, bocsys, poteli gwin, caniau, tybiau siocled a llawer yn rhagor. Mae modd i’r holl bethau yma gael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
I gefnogi'r ymgyrch a'n trigolion, bydd ôl-gerbyd gwybodaeth y Cyngor yn ymweld â lleoliadau allweddol ledled y Fwrdeistref Sirol dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cyngor ac yn helpu i sicrhau bod gyda chi ddigon o fagiau ailgylchu CLIR a bagiau ailgylchu gwastraff bwyd.
Yr amser gorau i Ailddefnyddio...
Ydych chi’n cofio’r sgarff hwnnw gan Anti Phylis? Efallai nad yw at eich dant chi, ond gallai fod yr anrheg orau ERIOED i rywun yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'r tair siop ailddefnyddio bwrpasol yma i helpu, achub y Nadolig, clirio eich cwpwrdd ac achub y blaned!
Mae tair siop ailddefnyddio bwrpasol, o’r enw ‘Y Sied’ ledled y Fwrdeistref Sirol, gydag un ym mhob ardal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r siopau yma'n derbyn rhoddion drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod eich anrhegion neu eitemau diangen yn cael bywyd newydd. Maen nhw hefyd ar agor i chi fynd yno i gael bargen a phrynu anrheg neu ddwy, a hynny tra rydych chi'n gwneud eich rhan chi i'r amgylchedd, gan sicrhau bod trysorau ar gael i bawb! O sgarff Anti Phylis i anrhegion, gemau, byrddau a chadeiriau ar gyfer y pryd mawr, mae gan Y Sied bopeth! Mae modd bwrw golwg ar y manylion llawn yma: www.rctcbc.gov.uk/YSied.
Mae nifer o siopau elusen ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol, sy’n cynnig cyfleoedd pellach i ail-roi anrhegion.
Os nad ydych chi am ail-roi anrhegion, beth am ailddefnyddio'r eitem? Byddai sgarff Anti Philys yn gwneud papur lapio gwych ar gyfer y gannwyll a brynoch chi i'ch mam.
Yr amser gorau i Atgyweirio...
Os dydy eich hoff sychwr gwallt ddim yn gweithio'n iawn yn ystod tymor y partïon, efallai y byddai modd i'r Caffi Trwsio yn Rhondda Cynon Taf eich helpu i'w adfywio? Efallai mai dim ond y ffiws neu'r plwg sydd wedi torri!
Mae'r Cyngor yn cefnogi nifer o achlysuron atgyweirio dros dro lleol ledled Rhondda Cynon Taf ac mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: www.rctcbc.gov.uk/Atgyweirio.
Yr amser gorau i Ailgylchu...
Bwyd yw un o'r eitemau rydyn ni'n eu gwastraffu fwyaf adeg y Nadolig, sy'n cyfrannu'n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Pan gaiff bwyd ei wastraffu, mae'r adnoddau a gaiff eu defnyddio i'w gynhyrchu, megis dŵr, ynni a llafur, hefyd yn cael eu gwastraffu. Drwy leihau gwastraff bwyd, mae modd i ni leihau ein hôl troed carbon a chyfrannu at blaned iachach. Ar gyfer gwastraff bwyd nad oes modd ei osgoi, mae modd i ni ei ailgylchu yn rhad ac am ddim bob wythnos yn ein cadis bwyd yn rhan o’n casgliadau wrth ymyl y ffordd.
Mae gwastraff bwyd yn cyfrif am dros 20% o'r hyn a gaiff ei gasglu bob mis yn Rhondda Cynon Taf. Y newyddion da yw, o'r holl ailgylchu gwastraff bwyd, mae modd cynhyrchu digon o ynni i bweru tua 1180 o gartrefi!
Amcangyfrifir bod gwastraff cyffredinol o’r cartref hefyd yn cynyddu dros 30% yn ystod y cyfnod yma – sy'n golygu llawer o ailgylchu ychwanegol!
Mae’r Cyngor yn gofyn i’w drigolion ailadrodd yr ymdrechion gwych rydyn ni wedi’u gweld drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod modd i ni fwynhau Nadolig gwyrddach, drwy ailgylchu eu holl eitemau ychwanegol.
Mae modd i drigolion fwynhau Nadolig mwy gwyrdd drwy ailgylchu'r gwastraff bwyd anochel (esgyrn twrci, plisgyn wy, gweddillion o'r plât ac ati), poteli plastig ychwanegol, papur lapio, cardiau Nadolig, coed Nadolig go iawn, tybiau a hambyrddau, caniau metel, ffoil, poteli gwydr, jariau, bocsys cardfwrdd a llawer yn rhagor dros y Nadolig.
Wrth gwrs, yr eitemau hawsaf i'w hailgylchu adeg y Nadolig yw'r holl ddeunydd pacio plastig a phapur/cardfwrdd y byddwch chi'n dod ar eu traws yn ystod cyfnod yr ŵyl.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd:
"Hoffwn ddymuno Nadolig gwyrddach i'n holl drigolion a diolch i bob un ohonyn nhw am gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer Rhondda Cynon Taf drwy gydol y flwyddyn.
"Mae cyfnod y Nadolig yn golygu gwastraff ychwanegol ac mae'n amser gwych i chi ddechrau meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl ddeunydd pacio ychwanegol, papur lapio a chardiau. Eleni, rydyn ni'n gobeithio y bydd trigolion hefyd yn meddwl am ailddefnyddio ac ail-roi anrhegion gan y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r blaned a phocedi trigolion hefyd. Mae yna lawer o fargeinion ar gael yn y siopau ailddefnyddio a fydd yn anrhegion perffaith i anwyliaid.
"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i ddal ati gyda'r gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.
“Mae ein trigolion wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma.
"Eleni, rydyn ni'n falch o ddweud ein bod ni wedi bwrw targed 70% Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 a bod cynnydd o 17% wedi bod yn y gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu a gostyngiad o 36% yn y gwastraff bagiau du a gafodd ei gasglu!
“Rwy’n siŵr, gyda’n gilydd y mae modd i ni barhau â’r ymdrech fawr a sicrhau ein bod yn dal i fwrw a rhagori ar unrhyw darged a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a gwneud 2026 yn flwyddyn newydd hyd yn oed yn wyrddach!”
Ar ôl agor yr anrhegion a phendroni ynghylch sut i glirio'r mynydd o focsys, bagiau papur a phapur lapio – ewch i ôl bag ailgylchu clir a'i lenwi.
Rhowch yr HOLL bapur lapio mewn bag CLIR ar wahân, gan gynnwys papur lapio ffoil neu sgleiniog. Gwnewch focys cardfwrdd a bagiau papur yn wastad er mwyn gwneud lle yn eich bag ailgylchu.
Os oes gyda chi unrhyw addurniadau Nadolig gwydr wedi torri neu eitemau miniog, gwnewch yn siŵr eu bod nhw wedi'u lapio mewn tywelion cegin, cardfwrdd, ac ati i sicrhau nad ydyn nhw'n tyllu'r bagiau ac yn achosi anaf i'r criwiau casglu.
Os ydych chi'n clirio eich tŷ ac nad oes modd cadw eitemau neu dydyn nhw ddim yn addas i gael eu casglu o ochr y ffordd, yna mae modd i chi alw heibio i un o'r CHWE Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8.30am a 4.30pm (oriau agor y gaeaf). Mae pob canolfan yn derbyn nifer fawr o eitemau, o blastigau caled i bridd, pren a dyfeisiau trydanol sydd wedi torri. Mae modd bwrw golwg ar y manylion llawn yma: www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu. Sicrhewch eich bod chi'n rhoi trefn ar eich gwastraff cyn ymweld â ni.
Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan gan ailagor ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.
Os yw'r goleuadau Nadolig wedi torri o'r diwedd ac rydych chi wedi gwirio'r bylbiau, yna mae modd ailgylchu offer trydanol bach, gan gynnwys hen ffonau neu'r hyn a gaiff ei alw weithiau'n WEEE, mewn Canolfannau Hamdden sy'n Cymryd Rhan.Mae gyda SAITH prif ganolfan hamdden Hamdden am Oes ledled Rhondda Cynon Taf bellach finiau penodol yn eu derbynfeydd i chi adael eich eitemau WEEE bychain (unrhyw beth sy'n llai na thostiwr pedair tafell, gan gynnwys ceblau trydanol a goleuadau coed Nadolig) ynddyn nhw cyn i chi gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden – bydd eich ffitrwydd a'r amgylchedd yn elwa. Rhagor o wybodaeth – www.rctcbc.gov.uk/WEEE.
Yr amser gorau i Ailgynhesu...
Gellid dadlau'n hawdd bod Gŵyl San Steffan, a'r dyddiau diog rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd hyd yn oed yn well na Dydd Nadolig ei hun: mae pwysau arlwyo teuluol drosodd, does fawr ddim i'w wneud, ac yn bwysicaf oll, mae yna lawer o fwyd blasus dros ben i'w ailgynhesu os oes angen a'i fwynhau!
Gall hyd yn oed y siopau bwyd Nadolig mwyaf ceidwadol arwain at ddigon o fwyd dros ben ar gyfer y dyddiau canlynol, felly pam na wnewch chi fwynhau brechdan dwrci neu baratoi cyri twrci, neu'r hen ffefryn – stwnsh tatws a bresych! Mae yna lawer o ryseitiau anhygoel a chyflym iawn ar gael yma: https://www.lovefoodhatewaste.com/cy
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff Nadolig, dilynwch ni ar Facebook a X (Twitter) neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.
Newidiadau i'r trefniadau casglu dros gyfnod y Nadolig:
Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du yn newid yn ystod wythnos y Nadolig.
Bydd casgliadau fyddai wedi digwydd ar ddydd Iau 25 Rhagfyr yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr a bydd pob casgliad wedi hynny am weddill yr wythnos yn cael ei gynnal 2 ddiwrnod yn hwyrach – dydd Iau i ddydd Sadwrn, dydd Gwener i ddydd Sul.
Dylid gosod gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
|
Diwrnodau Casglu Arferol
|
Diwrnodau Casglu Dros Dro
|
|
Dydd Llun 22 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mercher 24 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Iau 25 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr
|
|
Dydd Gwener 26 Rhagfyr
|
Dydd Sul 28 Rhagfyr
|
Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer ddydd Llun, 29 Rhagfyr, dydd Mawrth, 30 Rhagfyr a dydd Mercher 31 Rhagfyr. Bydd casgliadau yn digwydd diwrnod yn ddiweddarach o Ddydd Calan (dydd Iau) – felly bydd casgliadau ar ddydd Iau yn digwydd ar ddydd Gwener, ac ati. Mae hyn yn berthnasol i’ch HOLL gasgliadau sydd wedi’u hamserlennu – ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du – o ddydd Iau 1 Ionawr (wythnos y Flwyddyn Newydd) – Fydd DIM CASGLIADAU ar Ddydd Calan.
Dylech chi roi’r holl wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
|
Diwrnodau Gwaith Arferol
|
Diwrnodau Casglu Dros Dro
|
|
Dydd Llun 29 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mercher 31 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Iau 1 Ionawr
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
Dydd Sadwrn 3 Ionawr
|
Bydd gwasanaethau eraill, fel y gwasanaeth casglu gwastraff mawr a danfon biniau ar olwynion/biniau gwastraff bwyd yn cael eu hatal dros dro o'r wythnos yn dechrau 24 Rhagfyr ac yn ailddechrau ar 5 Ionawr. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddefnyddio cynifer o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni.
Bydd y gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 5 Ionawr.
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned
Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan gan ailagor ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.
Casgliadau Coed Nadolig Go Iawn a Gwastraff Gwyrdd:
O 1 Rhagfyr, mae modd i chi drefnu i'ch coeden Nadolig go iawn i gael ei gasglu o ochr y ffordd rhwng 29 Rhagfyr a 25 Ionawr 2026.
RHAID gwneud hyn drwy www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig neu drwy ffonio 01443 425001. Fydd casgliadau sy’n cael eu trefnu trwy’r system Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf ddim yn cael eu derbyn gan fod y system yma yn dod i ben dros dro dros gyfnod y Nadolig.
Bydd y gwasanaeth Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn dod i ben dros dro o 25 Rhagfyr. Bydd Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn ailddechrau ddydd Llun, 12 Ionawr 2026. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Rhaid i drigolion drefnu amser ar gyfer casglu eu coeden o leiaf 24 awr cyn eu diwrnod casglu dros dro gan na fydd y goeden yn cael ei chasglu'n awtomatig: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig
Yn ystod y cyfnod trefnu amser, mae modd i goed Nadolig cael eu gosod wrth ochr y ffordd yn gyfan. Ond, rhaid i goed sydd yn fwy na 4 troedfedd cael eu torri'n ddarnau llai fel bod modd i'r criwiau eu codi'n ddiogel. Tynnwch BOB golau, seren ac addurn ymlaen llaw.
Nodwch: Mae modd mynd â choed Nadolig ffug i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu mae modd i chi drefnu i'r goeden cael ei chasglu os ydych chi eisiau cael gwared arni.
Cofiwch roi'r HOLL sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu neu ddiwrnod caglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r pafin.
Os nad ydyn ni wedi casglu'ch gwastraff/eitemau ailgylchu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Mae bosibl y bydd ein criwiau'n gweithio gyda'r nos yn ystod cyfnodau prysur, ac mae modd i staff ychwanegol cael eu galw i gael gwared ar yr eitemau'r diwrnod canlynol.
Mae modd i drigolion i ymweld ag un o'r nifer o fannau casglu ledled Rhondda Cynon Taf cyn cyfnod yr ŵyl i gasglu digon o fagiau ailgylchu – dewch o hyd i'ch man casglu agosaf yma: www.rctcbc.gov.uk/bagiau.
Hefyd, hoffai carfan Gofal y Strydoedd atgoffa trigolion i barcio'n synhwyrol er mwyn sicrhau bod modd i'r lori ailgylchu yrru ar hyd eich stryd.
Dyddiadau a Lleoliadau'r Ôl-gerbyd Gwybodaeth
| |
|
|
|
1st Rhagfyr
|
Talbot Green Tesco
|
From 10am – 6pm
|
|
2nd Rhagfyr
|
Upper Boat Tesco
|
10am – 6pm
|
|
3rd Rhagfyr
|
Aberdar Asda
|
10am – 6pm
|
|
4th Rhagfyr
|
Treorchy Co-Op
|
10am - 2pm
|
|
5th Rhagfyr
|
Pontypridd Mill Street
|
10am - 2pm
|
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r awgrymiadau canlynol ar gyfer 'Nadolig Gwyrdd'
- Golchwch gynwysyddion bwyd a photeli diodydd yn y dŵr sy'n weddill ar ôl i chi olchi'ch llestri cyn eu rhoi nhw yn eich bagiau ailgylchu!
- Sicrhewch fod digon o fagiau ailgylchu gyda chi cyn cyfnod y Nadolig. Mae modd casglu bagiau o'r mannau casglu ledled Rhondda Cynon Taf.
- Parciwch yn synhwyrol, fel bod modd i'n cerbydau fynd lawr eich stryd yn ddiogel.
- Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r palmant.
- Rhowch yr HOLL bapur lapio a bagiau anrhegion mewn bag CLIR ar wahân gan gynnwys papur ffoil a chynnyrch sgleiniog.
- Mae modd trefnu i ni gasglu'ch coeden Nadolig go iawn o 1 Rhagfyr ar-lein: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig
Wedi ei bostio ar 01/12/2025