Skip to main content

Mae Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd i Barc Aberdâr ddydd Sadwrn 23 Mai!

Aberdare 5 eng

Dyma wahoddiad i drigolion ac ymwelwyr i fwynhau diwrnod llawn adloniant wrth i Ŵyl Aberdâr ddychwelyd i Barc Aberdâr ddydd Sadwrn 23 Mai, rhwng 11am a 5pm. Mynediad am ddim, felly dewch i fwynhau!

Mae'r achlysur poblogaidd yma'n uchafbwynt yng nghalendr achlysuron Rhondda Cynon Taf, gan gynnig diwrnod llawn gweithgareddau i deuluoedd, perfformiadau byw ac atyniadau i bobl o bob oed.

Gall ymwelwyr edrych ymlaen at ystod eang o adloniant yn y parc, gan gynnwys sioe bypedau ddwyieithog gan Martyn Geraint, reidiau i blant, trên tir, modelu balwnau a rhaglen fywiog o berfformiadau gan grwpiau dawns lleol. Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys sioe adloniant boblogaidd Chunkie Russell, ochr yn ochr ag amrywiaeth o stondinau crefftau, bwyd a gwybodaeth.

Mae ein llwyfan cerddoriaeth fyw rhad ac am ddim yn cynnwys rhai o berfformwyr teyrnged gorau'r DU eleni, sef:

  • Sioe Deyrnged Bruno Mars
  • Sioe Deyrnged Taylor Swift
  • Sioe Deyrnged Harry Styles
  • Sioe Deyrnged K Pop

Ac mae rhagor ar gael! Mae'n bleser gyda ni hefyd agor y llwyfan gyda'r seren deledu a ffefryn y byd addysg Gymraeg, Martyn Geraint, a fydd yn agor y bore gyda'i sioe bypedau ddwyieithog, llawn egni, yn fyw ar y llwyfan. Dyma sioe wych i siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd!  Bydd Martyn hefyd yn gyflwynydd ar gyfer y dydd, gan ddod ag egni a hwyl i'r teulu trwy gydol y perfformiadau.

Bydd Gŵyl Aberdâr yn cael ei chynnal ym Mharc Aberdâr, ddydd Sadwrn 23 Mai, rhwng 11am a 5pm.  Mynediad am ddim, does dim angen cadw lle.

Mae modd gweld rhestr lawn o achlysuron 2026 y Cyngor yma.

Mae rhagor o wybodaeth am adloniant a pharcio ar gyfer yr ŵyl eleni, ar gael yma ac ar ein tudalennau Facebook ac Instagram – dilynwch @besymlaenrhct i gael yr wybodaeth ddiweddaraf!

Wedi ei bostio ar 14/04/2026