Bydd y Cyngor yn gofyn yn fuan i gymunedau am eu hadborth mewn perthynas â'r cynigion diweddaraf i wella'r ddarpariaeth cerdded a beicio rhwng Treorci a Threherbert. Bydd yr ymgynghoriad tair wythnos o hyd o 7 Gorffennaf yn canolbwyntio ar ail a thrydydd cam y buddsoddiad arfaethedig, o Ysgol Gynradd Penyrenglyn tua chyfeiriad Treorci - yn rhan o lwybr teithio llesol ehangach ar gyfer yr ardal.
Yn ystod haf y llynedd, cynhaliwyd ymgynghoriad â thrigolion mewn perthynas â Cham Un y prosiect, rhwng Gorsaf Drenau Treherbert ac Ysgol Gynradd Penyrenglyn. Mae'r cam yma wedi'i gwblhau i'r cam dylunio manwl, ac mae'n aros am ganlyniad cais cyllid i Lywodraeth Cymru er mwyn ei adeiladu. Cafodd y cam dylunio ei gynorthwyo gan y Gronfa Teithio Llesol ar gyfer 2025/26.
Erbyn hyn, mae swyddogion wedi cyrraedd camau cynnar dylunio a datblygu Camau Dau a Thri. Mae'r elfennau yn cynnig buddsoddi mewn isadeiledd cerdded a beicio newydd yn yr ardal rhwng Ysgol Gynradd Penyrenglyn a Theras yr Afon, gyda gwelliannau yn parhau ar hyd Teras yr Afon tua chyfeiriad Treorci. Bydd yr ardal waith mwy neu lai yn gyfochrog â'r llinell rheilffordd bresennol.
Bydd modd i drigolion ddysgu rhagor a lleisio eu barn rhwng dydd Mawrth, 7 Gorffennaf a dydd Mawrth, 21 Gorffennaf. Bydd tudalen bwrpasol ar gael ar wefan ein Hymgynghoriadau o ddechrau'r gwaith ymgysylltu.
Bydd modd i drigolion leisio eu barn drwy gwblhau arolwg ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen uchod. Mae hefyd modd iddyn nhw gysylltu drwy e-bostio: YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk - neu'n ysgrifenedig, gan ddefnyddio cyfeiriad: 'Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS, Ymchwil ac Ymgynghori, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH'.
Yn ogystal â hyn, gwahoddir trigolion i fynychu sesiwn galw heibio yn yr Hen Lyfrgell, Stryd Bute, Treherbert, ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf. Mae croeso iddyn nhw alw heibio unrhyw bryd rhwng 1pm a 7pm, does dim angen cadw lle ymlaen llaw.
Yn yr achlysur, bydd modd i drigolion fwrw golwg ar ddeunyddiau'r ymgynghoriad mewn person, gofyn cwestiynau i garfan y prosiect, a darparu adborth yn ffurfiol er mwyn ei gofnodi yn rhan o'r ymgynghoriad. Croeso i bawb!
Mae gwaith dylunio Cam Dau a Cham Tri yn cael ei gwblhau gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei ddarparu drwy Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2026/27. Byddai adeiladu'r cynllun yn y dyfodol yn amodol ar gyflwyniad cyllid llwyddiannus pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Seilwaith Cyfalaf: "Bydd yr ymgynghoriad yma o 7 Gorffennaf yn darparu cyfle i drigolion ddysgu rhagor am gynigion Cam Dau a Cham Tri, er mwyn gwella'r ddarpariaeth cerdded a beicio sy'n cysylltu Treorci a Threherbert. Bydd yn canolbwyntio ar ardal rhwng Ysgol Gynradd Penyrenglyn a Theras yr Afon, ac yn parhau ar hyd Teras yr Afon tua chyfeiriad Treorci. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad gafodd ei gynnal yn ystod haf y llynedd mewn perthynas â chynigion Cam Un, rhwng Ysgol Gynradd Penyrenglyn a Gorsaf Drenau Treherbert. Rydyn ni bellach yn ceisio cyllid er mwyn ei gyflawni.
"Mae buddsoddi mewn llwybrau teithio llesol lleol yn allweddol er mwyn annog rhagor o bobl i gerdded a beicio yn rhan o'u teithiau bob dydd, ac er mwyn manteisio ar nifer i fuddion - o wella iechyd a lles i leihau tagfeydd traffig a helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Mae'r Cyngor bellach yn ymgynghori â thrigolion mewn perthynas â Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, sy'n amlygu ein darpariaeth bresennol yn ogystal â chynigion ar gyfer llwybrau newydd yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad yn parhau drwy gydol yr haf, tan 20 Awst, gan gynnwys o leiaf 16 achlysur wyneb yn wyneb mewn cymunedau lleol.
"Mae cynigion Cwm Rhondda Fawr yn dilyn agor llwybr cerdded a beicio pwrpasol 10 cilometr o hyd yng Nghwm Rhondda Fach, rhwng Maerdy a Tylorstown. Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau o'r math yma, am ein bod ni wedi sicrhau cyllid pwysig yn rhan o Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2026/27. Yn ogystal â dyluniad cynllun Treorci i Dreherbert, mae'r cyllid yn cynnwys gwella mynediad at Orsaf Fysiau Pontypridd, dylunio elfennau teithio llesol ar gyfer Coridor Teithio Cynaliadwy Llanharan, a darparu Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Pen-y-waun.
"Mae modd i bawb sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y cynlluniau rhwng Treorci a Therherbert wneud hynny o 7 Gorffennaf ymlaen, drwy ymweld â thudalen benodol ar ein gwefan. Ar yr un diwrnod bydd achlysur cyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell yn Nhreherbert, lle mae croeso i bawb ymuno. Bydd yr holl adborth rydyn ni'n ei dderbyn yn cael ei ystyried gan swyddogion wrth fwrw ymlaen â'r cam dylunio, wrth i ni ofyn i drigolion rannu eu gwybodaeth leol a'u barn mewn perthynas â gofynion y gymuned."
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 01/07/2026