Skip to main content

Mae modd i chi ddweud eich dweud ar wella Gorsaf Fysiau Pontypridd dros yr wythnosau nesaf

Pontypridd Bus Station 2026 - Copy

Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ynghylch gwella'r seilwaith yn y brif orsaf fysiau ym Mhontypridd - bydd eich mewnbwn yn bwysig i lywio'r cynlluniau!

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid o'i Grant Trafnidiaeth Ranbarthol i gynnal gwaith ymchwilio a dylunio tuag at y cynllun yn y dyfodol. Er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad lleol yn fuan, a fydd yn cynnwys arolwg i ddefnyddwyr gorsafoedd bysiau ei gwblhau.

Bydd yr arolwg ar gael ar-lein – fel arall, cadwch lygad allan am aelodau staff yn yr orsaf dros yr wythnosau nesaf. Byddan nhw yn yr orsaf o bryd i'w gilydd i gynorthwyo defnyddwyr bysiau i gwblhau'r arolwg wyneb yn wyneb.

Yn ogystal, bydd copïau papur ar gael mewn lleoliadau lleol gan gynnwys Llyfrgell Pontypridd yn Llys Cadwyn. Bydd yr arolwg hefyd yn cael ei hysbysebu ar bosteri yn yr orsaf fysiau, gyda chod QR yn eich arwain chi i'r arolwg.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mawrth 23 Mehefin, ac yn dod i ben ddydd Llun 20 Gorffennaf. O ddydd Mawrth, bydd yr arolwg a gwybodaeth ychwanegol ar gael o dan adran 'Ymgynghoriadau' ar wefan y Cyngor. Byddwn ni hefyd yn hyrwyddo'r ymgynghoriad yn rheolaidd ar ein cyfrifon Facebook ac Instagram.

Rydyn ni'n croesawu pob adborth, a bydd yn cael ei ystyried i lunio'r gwaith dylunio ar gyfer gwelliannau i Orsaf Fysiau Pontypridd yn y dyfodol. Nodwch, does dim modd defnyddio sylwadau sydd wedi'u gwneud ar gyfryngau cymdeithasol yn yr ymgynghoriad – bydd angen i chi gwblhau’r arolwg i gael dweud eich dweud yn ffurfiol.

Bydd cyflawni'r cynllun gwella yn y dyfodol yn amodol ar gais grant pellach.

Diolch o flaen llaw i drigolion a defnyddwyr bysiau am gymryd rhan.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 18/06/2026